Y Fawnog, Arthog
Darn o wlyptir bychan yn nyffryn yr afon Mawddach yw’r Fawnog yn Arthog ac mae’n lle gwych i ddod o hyd i blanhigion, blodau, gloÿnnod byw ac adar rhyfeddol.
Mwy...Gwelwch frain coesgoch yn plymio uwchben clogwyni serth, barcutiaid coch yn hedfan dros fryniau garw a morloi llwyd yn segura ar hyd yr arfordir. Clywch huganod swnllyd yn nythu ar Ynys Gwales a galwadau byrlymus y rugiar ddu.
Mae ein gwaith yng Nghymru yn helpu i ddiogelu'r bywyd gwyllt rhyfeddol yma a'r mannau lle maen nhw'n byw.
Dowch o hyd i'ch gwarchodfa natur leol a beth sy'n digwydd yn eich ardal chi.
Mae Ynys Dewi yn gartref i niferoedd pwysig o blanhigion, adar ac anifeiliaid eraill. Helpwch ni i gynnal y lle arbennig hwn.
Darn o wlyptir bychan yn nyffryn yr afon Mawddach yw’r Fawnog yn Arthog ac mae’n lle gwych i ddod o hyd i blanhigion, blodau, gloÿnnod byw ac adar rhyfeddol.
Mwy...Mae Carngafallt yn lle hyfryd i weld adar neu i fwynhau’r olygfa. Mae’r tirlun o rostir yn arbennig o liwgar ar ddiwedd yr haf, a’r gwanwyn yw’r tymor perffaith i weld adar ymfudol fel y tingoch, crec yr eithin neu gorhedydd y coed.
Mwy...Saif Coed Garth Gell, gwarchodfa natur gyda choedlannau derw a rhostir, yn nyffryn yr afon Mawddach. Mae’r llwybrau i ymwelwyr yn eich tywys trwy goedlannau derw hardd gydag afon sy’n llifo’n gyflym ar waelod y cwm.
Mwy...O’r warchodfa hon, a saif ar lannau aber Conwy, ceir golygfeydd gwych o Eryri a Chastell Conwy, yn hyfryd ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Mwy...Dewch am dro drwy ardal o goedlan heddychlon ar ddiwrnod braf o haf. Efallai y gwelwch y gwybedog brith, y tingoch neu’r bwncath, yn ogystal â bronwen y dŵr ar hyd glannau isaf yr afon Clydach.
Mwy...Ynys anghysbell ymhell oddi ar y lan yw Ynys Gwales, sy’n cynnal 39,000 pâr o huganod sy’n nythu. Dyma drydedd nythfa fwyaf y byd o huganod ar yr Atlantig, ac mae’n cynnal oddeutu 10% o boblogaeth y byd.
Mwy...Set against the stunning moorland backdrop of Coed Llandegla Forest, groups of us black grouse males meet at our display ground – or lek – to show off to the females, so the stakes are high.
Find out moreDewch i fwynhau taith gerdded trwy goedlan gwern a derw hynafol, heibio i afonydd cyflym a thrawiadol. Saif y warchodfa yng nghanol harddwch canolbarth Cymru.
Mwy...Mae ein canolfan ymwelwyr a’n siop sy’n llawn o nwyddau yn fannau cychwyn delfrydol i’ch ymweliad. Ymunwch â llwybr trwy’r goedlan a chyn bo hir bydd bywyd gwyllt o’ch cwmpas ym mhob man.
Mwy...Mae’r warchodfa natur hon yn cynnig hafan i fywyd gwyllt ar gwr y ddinas, ond mae’n lle gwych i bobl hefyd, gyda’n canolfan ymwelwyr, caffi, siop a man chwarae i blant.
Mwy...Dewch draw yn ystod misoedd y gaeaf ac fe gewch gyfle i weld miloedd o adar yn bwydo. Penllanw yw’r adeg gorau i alw draw, pan fydd y môr yn gorfodi’r adar i symud i’r morfeydd heli, lle gellir eu gweld yn nes fyth.
Mwy...Ar yr ynys drawiadol hon oddi ar lannau Sir Benfro mae clogwyni hyd at 120 metr o uchder – y man perffaith i adar môr nythu yn y gwanwyn a’r haf. Ewch am dro ar hyd y rhostir arfordirol i fwynhau golygfeydd rhyfeddol.
Mwy...Dewch i fwynhau golwg agos o’r nythfa ar y clogwyni, gyda chymorth ysbienddrychau a thelesgopau a ddarperir. Cewch gyfle i wylio gwylogod, llursod a phalod wrth iddyn nhw i gyd fagu eu cywion.
Mwy...Wrth ymweld â’r llynnoedd hyn a amgylchynir gan hesg cewch gyfle i weld adar dwr drwy’r flwyddyn gron. Chwiliwch am hwyaid copog, pengoch, llydanbig, a llwyd yn ogystal â gwyachod sydd i gyd yn nythu yma.
Mwy...Ar Ynys-hir ceir cymysgedd o goed derw Cymreig, glaswelltir llaith a morfeydd heli. Chwiliwch am adar ysglyfaethus o un o’n saith cuddfan.
Mwy...Ymunodd dros 24,000 o bobl ledled Cymru yn arolwg bywyd gwyllt yr ardd mwyaf y byd, drwy droi eu golygon i’w gerddi i wylio a chyfri bron i 490,000 o adar yn ystod y 37ain Gwylio Adar yr Ardd yr RSPB.
Wrth i Groeso Cymru ddathlu’r Flwyddyn Antur, mae RSPB Cymru yn eich gwahodd i ryddhau’r anian wyllt sydd ynoch a chamu i’r awyr agored.
Yn cael ei galw’n ‘wlad y gân’, mae cantorion Cymru’n enwog ledled y byd, ond bob bore o fis Mawrth i fis Gorffennaf gallwch fwynhau perfformiad unigryw gan rai o leisiau mwyaf arbennig byd natur – côr y wîg.
Yn ôl y disgwyl, gynted ag y caeodd yr ysgolion ar gyfer y Pasg, fe drodd y tywydd wedi bron i fis heb law. Ond, ni wnaeth y tywydd gwael dros y penwythnos atal pobl rhag mynd allan a gweld bywyd gwyllt.
Bydd partneriaeth newydd gyffrous rhwng yr RSPB a'r archfarchnad Aldi yn golygu y gall ysgolion meithrin a chynradd elwa o ymweliadau rhad ac am ddim, a arweinir gan staffar ein gwarchodfa natur yn ystod tymor yr haf.
Wrth i Groeso Cymru ddathlu’r Flwyddyn Antur, rydym ni’n eich gwahodd i ryddhau’r anian wyllt sydd ynoch a chamu i’r awyr agored.
Rydym yn gweithio ledled Cymru ac ar draws gweddill y DU i roi cartref i fyd natur. Ond ni fedrwn wneud hynny heboch chi. A wnewch roi eich cefnogaeth i ni? Mae pob aelod yn cael:
Dowch yn aelod o'r RSPB. Mae eich aelodaeth yn ein helpu i arbed natur a diogelu ardaloedd gwyllt.