Feature

Cymuned yn dod ynghyd

Dewch i gwrdd â Mel, ymgyrchydd lleol a aeth ati i annog ei chyngor lleol i ddiogelu byd natur.

On this page

Yn 2021, daeth Mel yn rhan o ymgyrch leol i warchod byd natur yn Chippenham, Wiltshire. Yn y Cynllun Lleol, cynigiwyd datblygiad i godi 7,500 o dai a fyddai wedi bygwth darn pwysig o dir gwledig. Roedd y tir arfaethedig yn eiddo i’r Cyngor ac yn gartref i brosiect a oedd wedi bod yn gwella cyfleoedd i bobl leol a oedd am greu bywyd a gyrfa ym maes ffermio.

Bu i ymgyrchwyr Chippenham gwestiynu a oedd angen datblygu’r safle gwerthfawr hwn.

“Mae gan Chippenham dir sydd wedi’i neilltuo i godi sawl mil o dai eraill, lle mae’r caniatâd cynllunio eisoes wedi’i gymeradwyo, ond lle nad oes unrhyw gartrefi wedi’u codi hyd yma. O roi’r prosiect cyfan ar waith, byddai wedi cyflenwi 5,000 o dai yn fwy na thargedau’r llywodraeth.”

Ymgyrch gymunedol

Bu i’r ymgyrch ddwyn ynghyd y gymuned leol, cynghorwyr tref a chymuned, a grwpiau blaenllaw ym maes cynllunio a’r amgylchedd, gan gynnwys y Gynghrair Cynllunio Cymunedol (CPA), Ymgyrch Diogelu Lloegr Wledig (CPRE), Gweithredu o ran Tai Gwag, a’r Rhwydwaith Gweithredu o ran Trafnidiaeth (TAN).

Drwy i bawb gyfrannu eu brwdfrydedd a’u gwybodaeth, sicrhawyd Adolygiad Barnwrol. Cafodd yr ymgyrch gyfle i fynd i’r llys i amddiffyn byd natur, ochr yn ochr â chynnal gweithgareddau amrywiol i godi arian.

“Yn anffodus, colli fu hanes yr ymgyrch, ond roedden ni wedi rhoi cyfle i fyd natur. I mi, nid atal pob datblygiad yw’r nod, ond cydweithio i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i fyd natur ac i bobl.”

Chippenham countryside – proposed for new housing.

Creu cysylltiad â byd natur

Er na wireddwyd dymuniad yr ymgyrch drwy’r Adolygiad Barnwrol, roedd yr ymgyrch wedi gweithredu dros fyd natur. Estynnodd Mel wahoddiad i Gyngor Wiltshire ymweld â’r safle i weld buddion amhrisiadwy’r safle – yn ei gyflwr presennol – i bobl ac i fywyd gwyllt.

“Hedfanodd Crëyr Glas i lawr a sefyll wrth ein hymyl – allwn i ddim bod wedi sgriptio’r peth yn well. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y gallai ddychmygu rhedeg ar hyd y llwybr beicio ac allan i gefn gwlad. Yn fuan ar ôl yr ymweliad hwn, gostyngwyd nifer y tai o 7,500 i 4,200.”

Pan ddychwelodd y Cynllun Lleol i fod yn destun ymgynghoriad o dan Reoliad 19, roedd nifer y tai wedi gostwng i 2,200 dros y cyfnod hyd at 2038. Mae hyn yn gyfystyr â diogelu arwynebedd maint 5,300 o dai ar gyfer byd natur am lawer mwy o flynyddoedd.

Grey Heron, stalking through a marshy reed bed

Os bydd mater datblygu tai yn codi eto yn 2038, mae Mel yn gobeithio y bydd gofyn i ddatblygwyr gydymffurfio â rheoliadau cynllunio newydd sy’n gyfeillgar i natur. 

Efallai y bydd tai gwell yn cael eu codi erbyn hynny, gyda phaneli solar ar y to, inswleiddio ac awyru llawn, system ailgylchu dŵr llwyd ar gyfer toiledau a gerddi, a system ddraenio ar wahân ar gyfer carthion a dŵr wyneb. Felly, mae’n dal i fod yn fuddugoliaeth o ran yr amgylchedd ac o ran yr argyfwng costau byw.”

Share this article