
I gymryd rhan yn yr archwiliad o gais PSAC, yn gyntaf bydd angen i chi gofrestru gyda PINS drwy wneud Sylwadau Perthnasol am y cais. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn y broses ar gael yma.
Yma byddwn yn amlinellu’r prosesau gwneud penderfyniadau yng Nghymru ac yn rhannu’r ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan.

Last updated: 2 July 2025
Mae cynllunio ar gyfer seilwaith cenedlaethol yng Nghymru yn cynnwys dwy broses gwneud penderfyniadau – Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) a Phrosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (PSAC).
Mae Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) yn brosiectau seilwaith mawr o bwysigrwydd cenedlaethol sy’n cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru yn hytrach nag awdurdodau cynllunio lleol (lle mae cydsyniad wedi’i ddatganoli gan Lywodraeth y DU). Mae prosiectau DAC yn cynnwys meysydd awyr, rheilffyrdd, ffermydd gwynt a gorsafoedd pŵer – mae rhestr lawn yn y Rheoliadau.
Rheolir y broses DAC gan Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) ar ran Gweinidogion Cymru. Mae manylion llawn yr holl geisiadau am DAC ar gael ar y gofrestr hon a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae pedwar prif gam i’r broses DAC:
I gael rhagor o fanylion am bob un o’r pedwar cam uchod, gan gynnwys pryd gallwch chi gymryd rhan yn y broses, edrychwch ar ganllaw Llywodraeth Cymru ar ymgysylltu â’r broses DAC. Mae’r canllaw hefyd yn cynnwys cyngor defnyddiol ar sut i wneud eich sylwadau, a chyngor ar gyfer ysgrifennu sylwadau da.
Mae prosiectau seilwaith mwy, fel rhai prosiectau cynhyrchu ynni sy’n fwy na 350 MegaWat, yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth y DU drwy’r broses Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (PSAC) (lle nad yw cydsynio wedi’i ddatganoli).
Mae’r broses PSAC yn cael ei rheoli gan yr Arolygiaeth Gynllunio (PINS), un o asiantaethau gweithredol Llywodraeth y DU. Mae ceisiadau am ganiatâd datblygu ar gyfer Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol yn cael eu cyflwyno i PINS ac yn cael eu cofrestru ganddynt. Cyn gwneud cais, rhaid i’r datblygwr seilwaith ymgynghori â’r awdurdod cynllunio lleol a’r gymuned leol yn yr ardal ble bydd y datblygiad arfaethedig yn cael ei adeiladu.
Penderfynir ar geisiadau PSAC drwy archwiliad, y gellir ei gynnal drwy sylwadau ysgrifenedig neu drwy wrandawiad. Ar ôl i’r Arolygiaeth Gynllunio dderbyn cais, cyhoeddir amserlen ar gyfer y broses archwilio. Mae manylion llawn pob cais am PSAC ar gael ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol.

I gymryd rhan yn yr archwiliad o gais PSAC, yn gyntaf bydd angen i chi gofrestru gyda PINS drwy wneud Sylwadau Perthnasol am y cais. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gymryd rhan yn y broses ar gael yma.
Mae ceisiadau am PSAC yn cael eu harchwilio a’u penderfynu yn unol â’r Datganiadau Polisi Cenedlaethol. Mae Datganiadau Polisi Cenedlaethol yn cael eu cynhyrchu gan Lywodraeth y DU ar gyfer pob un o’r prif sectorau seilwaith - ynni, trafnidiaeth, dŵr, dŵr gwastraff a gwastraff - ac maent yn nodi’r polisïau cenedlaethol i lywio’r broses o wneud penderfyniadau am PSAC. Dylai Datganiadau Polisi Cenedlaethol nodi sut bydd y seilwaith dan sylw yn cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy ac yn lliniaru’r newid yn yr hinsawdd.

Mae cymryd rhan mewn archwiliad PSAC yn gallu bod yn gryn ymrwymiad, gyda nifer o ddogfennau a therfynau amser i’w hystyried. Mae Cyfeillion y Ddaear wedi cynhyrchu’r canllaw hwn i ymgyrchwyr mewn perthynas â PSAC, a fydd yn eich helpu i ddeall mwy am brosiectau PSAC a’r ffordd orau o gymryd rhan yn y broses