Feature

Gwarchod coetir hynafol, coed hynafol a choed hynod

Maen nhw’n gynefinoedd gwerthfawr ond beth yn union ydyn nhw a sut maen nhw’n cael eu bygwth gan ddatblygiad?

Purple flowering Bluebells cover the woodland floor of The Lodge.
On this page

Last updated: 2 July 2025

Beth yw coetir hynafol?

Diffinnir coetiroedd hynafol fel unrhyw ardal sydd wedi cynnwys coed yn barhaus ers 1600 AD (neu 1750 AD yn yr Alban). Yn ôl Coed Cadw, dim ond 2.5% o arwynebedd tir y DU sydd yn cynnwys coetiroedd hynafol. Yn ogystal â chynnwys coed brodorol hynafol a hynod, mae’r cynefinoedd hyn hefyd yn cynnwys cymunedau o blanhigion a ffwng arbenigol nad oes neb wedi tarfu arnynt dros gyfnodau hir o amser. Yn eu tro, maent yn cynnal rhywogaethau pwysig o anifeiliaid di-asgwrn-cefn, adar a mamaliaid.

Oherwydd bod cynefinoedd coetir hynafol, a choed hynafol a hynod unigol, wedi datblygu dros gyfnodau mor hir o amser (yn aml cannoedd ac weithiau dros fil o flynyddoedd), mae’r cynefinoedd a’r nodweddion hyn yn cael eu hystyried yn rhai na ellir eu disodli.

Beth yw coeden hynafol?

Mae coed hynafol yn cael eu diffinio gan eu hoedran. Maen nhw wedi hen aeddfedu ac maen nhw’n hen iawn o’u cymharu â choed eraill o’r un rhywogaeth. Gan fod gwahanol goed yn heneiddio ar wahanol gyfraddau, nid oes oedran penodol i goeden gael ei hystyried yn hynafol. Gellir adnabod coed hynafol yn ôl rhai nodweddion cyffredin.

Beth yw coeden hynod?

Nid yw coeden hynod mor hen â choeden hynafol ond mae ganddi nodweddion tebyg a fydd yn datblygu ymhellach dros amser. Gellir ystyried coed hynod fel coed hynafol y dyfodol.

Sut mae darganfod a yw coedwig neu goeden yn hynafol?

Gallwch ddefnyddio’r adnoddau canlynol i ganfod coetir hynafol, coed hynod a choed hynafol.

  • Rhestr Coetiroedd Hynafol Cyfoeth Naturiol Cymru – yma gallwch weld coetiroedd hynafol ar fap rhyngweithiol neu drwy DataMapWales. Gallwch hefyd gyflwyno ymholiadau am ddynodiad coetir yn y rhestr.
  • Rhestr Coed Hynafol Coed Cadw (cliciwch ar ‘Tree search’ a nodwch y cod post) – dim ond cyfran fach o goed hynafol neu goed hynod sy’n cael eu cofnodi ar y rhestr hon.

 

Efallai na fydd coetiroedd hynafol sy’n llai na dau hectar yn ymddangos ar y rhestrau hyn. O ganlyniad, mae’n werth holi eich canolfan cofnodion lleol rhag ofn bod ganddynt ddata ar goetiroedd hynafol llai.

Mae’n bwysig nodi na fydd pob coetir hynafol yn cael ei gofnodi ar y rhestrau hyn, felly os yw safle’n cynnwys tystiolaeth o goetir hynafol ond nad yw ar y rhestr, dylech gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru.

In the middle of a grassy meadow stands a large Oak Tree with green leaves.

Bygythiadau datblygu

Gall cynigion datblygu fod yn fygythiad difrifol i goetir hynafol, coed hynafol a choed hynod, a’r bywyd gwyllt maen nhw’n ei gefnogi. Gall effeithiau datblygu fod yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol.

Mae Polisi Cynllunio Cymru (paragraff 6.4.43, tudalen 159) yn datgan bod coetir hynafol, coed hynafol a choed hynod “yn cael eu gwarchod rhag datblygiadau a fyddai’n arwain at eu colli neu eu dirywio, oni bai bod manteision sylweddol a chlir iawn i’r cyhoedd; rhaid i’r warchodaeth hon atal gweithrediadau a allai fod yn niweidiol i goed, a cholli coed yn ddiangen”.

Un enghraifft o amgylchiadau eithriadol fyddai prosiect seilwaith yr ystyrir ei fod o fudd i’r cyhoedd sy’n ddigon sylweddol i wrthbwyso colli neu ddirywiad y cynefin.

Y man cychwyn ar gyfer unrhyw gynnig datblygu yw nodi ffyrdd o osgoi effeithiau niweidiol ar goetir hynafol neu goed hynafol a hynod, fel chwilio am safleoedd amgen neu ail-ddylunio’r cynllun. Y cam nesaf wedyn yw lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau na ellir eu hosgoi, ac fel dewis olaf dylid defnyddio digolledu i wrthbwyso unrhyw effeithiau sy’n weddill nad oes modd eu hosgoi.

Yr hierarchaeth lliniaru yw’r enw ar y dull ‘osgoi, lliniaru, digolledu’ hwn.

Os bydd awdurdod cynllunio lleol (ACLl) yn penderfynu rhoi caniatâd cynllunio sy’n arwain at golli neu ddirywiad cynefin (pan arddangosir rhesymau eithriadol), dylent ddefnyddio’r hierarchaeth lliniaru i osgoi niwed sylweddol i fioamrywiaeth.

Woodland in full leaf, Padley Gorge, Peak District National Park
Cyngor gorau

Os ydych chi’n poeni am gynnig datblygu sy’n bygwth coetir / coed hynafol neu goed hynod, adolygwch ddogfennau’r cais cynllunio yn ofalus i wneud yn siŵr bod yr ymgeisydd wedi defnyddio’r dull ‘hierarchaeth lliniaru’ fel y disgrifir uchod.

Dylai’r cais arddangos pam na ellir osgoi'r colledion, a chynnig mesurau lliniaru neu ddigolledu digonol, y mae angen cytuno arnynt gyda’r ACLl (fel arfer Swyddog Coed yr ACLl).

Cyflwynwch wrthwynebiad i’r ACLl os nad ydych chi’n credu bod cyfiawnhad priodol dros y cais.

Share this article