Feature

Pa amddiffyniadau sydd gan wrychoedd o ran cynllunio?

Nid ffiniau yn unig ydyn nhw; maen nhw’n gynefinoedd arwrol! Dyma’r amddiffyniadau cyfreithiol ar gyfer gwrychoedd yng Nghymru.

On this page

Last updated: 2 July 2025

Mae gwrychoedd yn rhan bwysig o dirwedd ein gwlad ac yn darparu cynefin gwerthfawr i fywyd gwyllt, drwy gynnig bwyd a lloches i nifer o rywogaethau, felly mae’n bwysig eu bod yn cael eu gwarchod.

Mae gwrychoedd yn aml mewn perygl o gael eu symud neu eu niweidio, naill ai i wneud lle i ddatblygiadau gael eu hadeiladu, neu o ganlyniad i arferion defnyddio tir eraill fel ffermio. Gall hyn gael effaith negyddol ar y bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnynt am fwyd a lloches. Fodd bynnag, mae rheoliadau’n bodoli i ddiogelu gwrychoedd rhag bygythiadau datblygu neu arferion defnydd tir eraill.

Beth yw gwrych?

Gellir diffinio gwrych cefn gwlad fel llinell derfyn o lwyni a all hefyd gynnwys coed.

Beth yw’r ddeddfwriaeth berthnasol?

Yng Nghymru a Lloegr, mae Rheoliadau Gwrychoedd 1997 yn berthnasol i’r rhan fwyaf o wrychoedd yng nghefn gwlad. Mae angen rhoi gwybod i’r awdurdod cynllunio lleol (ACLl) am unrhyw fwriad i dynnu gwrych neu ran o wrych.

Pa wrychoedd sydd wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau?

I gychwyn, mae’n bwysig deall bod y Rheoliadau’n berthnasol i bron yr holl wrychoedd cefn gwlad sydd dros 20 metr o hyd neu sy’n cysylltu â gwrychoedd eraill ar bob pen. Nid yw'r Rheoliadau'n berthnasol i wrychoedd o fewn neu ar hyd ffiniau gerddi preifat.

Wrth ystyried hyd gwrych, mae unrhyw fwlch sy’n llai na 20 metr neu fwlch sy’n deillio o dynnu gwrychoedd heb awdurdod yn cael ei drin fel rhan o’r gwrych. Gallai bwlch fod yn doriad yn y llystyfiant neu gallai gael ei lenwi, er enghraifft gan glwyd. Byddai bwlch sy’n fwy nag 20 metr yn creu gwrychoedd ar wahân.

Dim ond os yw’n cael ei ystyried yn wrych ‘pwysig’ y gall ACLl atal gwrych rhag cael ei dynnu (mae rhagor o fanylion am hyn isod).

Sut mae gwrychoedd yn cael eu diogelu gan y Rheoliadau?

Cyn tynnu unrhyw wrychoedd, neu ran o wrych, y mae’r Rheoliadau’n berthnasol iddynt, rhaid cyflwyno ‘hysbysiad tynnu gwrychoedd’ sy’n disgrifio’r gwaith arfaethedig, ynghyd â map lleoliad, i’r ACLl.

Yr unig eithriadau i’r angen am hysbysiad tynnu gwrychoedd yw mathau penodol o waith a ganiateir a restrir o dan y Rheoliadau. Er enghraifft, caniateir tynnu rhan o wrych i greu mynediad newydd i dir yn lle agoriad presennol, ond rhaid cau’r fynedfa bresennol drwy blannu gwrychoedd newydd o fewn wyth mis.

Os bydd yr ACLl yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig y gellir tynnu’r gwrych, neu os na fydd yr ACLl yn ymateb i’r hysbysiad tynnu gwrychoedd o fewn 42 diwrnod (chwe wythnos), yna gellir gwneud y gwaith tynnu o fewn cyfnod pellach o ddwy flynedd.

Pryd gall ACLl atal gwrych rhag cael ei dynnu?

Gall yr ACLl gyflwyno ‘hysbysiad cadw gwrychoedd’ mewn ymateb i hysbysiad tynnu gwrychoedd, er mwyn atal y cynnig i dynnu’r gwrych.

Dim ond hysbysiad cadw gwrychoedd y gall yr ACLl ei roi er mwyn atal tynnu gwrych ‘pwysig’. Mater i’r ACLl, nid perchennog y gwrych, yw penderfynu a yw’r gwrych yn bwysig ai peidio.

Mae gwrych yn bwysig os yw wedi bodoli ers 30 mlynedd neu fwy ac mae ganddo o leiaf un o’r nodweddion a restrir yn Atodlen 1 y Rheoliadau sy’n ymwneud ag archaeoleg, arwyddocâd hanesyddol, amrywiaeth rhywogaethau, gwerth bywyd gwyllt ac agosrwydd at hawliau tramwy cyhoeddus.

Mae dyletswydd ar yr ACLl i gyhoeddi hysbysiad cadw gwrychoedd ar gyfer gwrychoedd pwysig, oni bai fod amgylchiadau sy’n cyfiawnhau’r cynnig i dynnu’r gwrych. Nid yw’r Rheoliadau’n diffinio amgylchiadau o’r fath, ond ystyrir yn gyffredinol mai dim ond amgylchiadau eithriadol sydd er budd ehangach y cyhoedd allai gyfiawnhau tynnu gwrych pwysig.

A ymgynghorir â’r gymuned leol?

Wrth ystyried hysbysiad tynnu gwrychoedd, rhaid i’r ACLl ymgynghori â’r cyngor cymuned lleol.

Mae’n ofynnol i ACLl gadw cofrestr o hysbysiadau tynnu gwrychoedd, a rhaid iddynt fod ar gael i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim.

Gall pobl wrthwynebu tynnu gwrych drwy gyflwyno sylwadau i’r ACLl, a fydd yn eu hystyried wrth wneud eu penderfyniad. Fodd bynnag, nid yw’n ofynnol i’r ACLl ymgynghori â phobl y tu hwnt i’r cyngor cymuned, felly byddai angen i unrhyw un sydd â diddordeb wirio’r gofrestr yn rheolaidd a gwneud unrhyw sylwadau o fewn y cyfnod rhybudd o chwe wythnos.

Yellowhammer, male, perched in a bramble bush along farm track

A ellir herio’r penderfyniad?

Caiff tirfeddiannwr apelio yn erbyn hysbysiad cadw gwrychoedd. Gellir naill ai gwrthod yr apêl (sy’n golygu bod yr hysbysiad cadw gwrychoedd yn dal i sefyll, felly ni ellir tynnu’r gwrych), neu gellir diddymu neu addasu’r hysbysiad, a fyddai wedyn yn caniatáu i’r cyfan neu rywfaint o’r gwaith tynnu arfaethedig ddigwydd.

Nid oes hawl trydydd parti i apelio yn erbyn ACLl yn rhoi caniatâd ysgrifenedig ar gyfer gwaith tynnu gwrychoedd mewn ymateb i hysbysiad tynnu gwrychoedd.

Beth os bydd gwrych yn cael ei dynnu heb ganiatâd?

Mae’n drosedd tynnu gwrych yn fwriadol neu’n ddiofal heb gyflwyno hysbysiad tynnu gwrychoedd yn gyntaf i’r ACLl ac aros am ganiatâd ysgrifenedig neu i’r cyfnod rhybudd o 42 diwrnod ddod i ben. Mae hefyd yn drosedd tynnu gwrych os oes hysbysiad cadw gwrychoedd wedi’i gyflwyno. Gall gweithredoedd o’r fath arwain at ddirwy neu ddedfryd o garchar hyd yn oed.

Os bydd gwrych pwysig yn cael ei dynnu heb ganiatâd, neu’n groes i hysbysiad cadw gwrychoedd, caiff yr ACLl gyflwyno hysbysiad i’r perchennog i blannu gwrych newydd. Mae’r gwrych newydd wedyn yn cael ei drin fel gwrych pwysig am y 30 mlynedd nesaf.

A juvenile House Sparrow sitting on a small branch with twigs surrounding it.

Sut mae rhywogaethau’n cael eu gwarchod?

Nid yw’r Rheoliadau Gwrychoedd yn berthnasol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond mae dal angen i dirfeddianwyr yno warchod gwrychoedd fel cynefin ar gyfer adar sy’n nythu.

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn gwahardd difrod bwriadol i nyth unrhyw aderyn gwyllt, tra bo’r nyth hwnnw’n cael ei ddefnyddio neu’n cael ei adeiladu. Cyn gwneud unrhyw waith i docio neu dynnu unrhyw wrych (nid gwrychoedd cefn gwlad yn unig), rhaid i’r tirfeddiannwr fod yn sicr nad oes adar yn nythu yno; efallai y bydd angen ecolegydd cymwys i ganfod hyn, yn enwedig mewn perthynas â gwrychoedd cefn gwlad.

Share this article