Defnyddir amodau i atal neu liniaru effeithiau annerbyniol datblygiad. Er enghraifft, efallai mai dim ond os bydd effeithiau amgylcheddol yn cael eu hosgoi, eu lleihau neu eu digolledu y bydd datblygiad tai newydd yn cael ei ystyried yn dderbyniol. Os yw’r ymgeisydd yn cynnig plannu coed newydd i ddisodli’r coed y mae angen eu tynnu, gellir defnyddio amod i sicrhau manylion y coed newydd (ee eu rhywogaeth, eu nifer a’u lleoliad), pryd y dylid eu plannu a sut y dylid gofalu amdanynt. Heb amod fel hyn, efallai na fydd yr ymgeisydd yn plannu yn y ffordd fwyaf effeithiol, neu efallai na fydd yn gwneud hynny o gwbl.
Gellir defnyddio amodau hefyd i sicrhau bod rhagor o fanylion a gwybodaeth yn cael eu darparu nad ydynt ar gael adeg y penderfyniad. Er enghraifft, gallai fod yn ofynnol i ymgeisydd gyflwyno manylion tirweddu neu ddeunyddiau adeiladu i’r awdurdod cynllunio lleol (ACLl) i’w cymeradwyo cyn i’r datblygiad ddechrau. Dylai digon o wybodaeth fod ar gael i wneud penderfyniad da, ond gall fod yn rhesymol derbyn na fydd peth gwybodaeth yn hysbys tan yn ddiweddarach. Gellir ystyried a rheoli hyn o hyd drwy ddefnyddio amodau.
Yn gyffredinol, bydd amodau’n cyfyngu ar ddatblygiad mewn rhyw ffordd, ond ni allant osod rhwymedigaethau cadarnhaol – dyna swyddogaeth rhwymedigaethau cynllunio (gweler isod). Mae rhwymedigaeth gadarnhaol yn un sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd wneud rhywbeth sy’n para y tu hwnt i gyfnod adeiladu’r datblygiad, fel creu a chynnal man agored cyhoeddus. I’r gwrthwyneb, yn gyffredinol, dim ond cyfyngiad y gall amod cynllunio ei osod, fel un i ddefnyddio deunyddiau penodol wrth adeiladu datblygiad.
Rhaid cynnal asesiadau ecolegol cyn rhoi caniatâd cynllunio i nodi effeithiau tebygol y datblygiad ar fywyd gwyllt ac argymell unrhyw fesurau angenrheidiol i osgoi, lliniaru neu ddigolledu am yr effeithiau hynny. Yna, gellir defnyddio amod cynllunio i sicrhau’r mesurau a gynigir i warchod buddiannau bywyd gwyllt. Ni ellir defnyddio amodau i sicrhau bod asesiad ecolegol yn cael ei gynnal, gan fod yn rhaid ystyried gwybodaeth am effeithiau bywyd gwyllt yn y broses gwneud penderfyniadau.