Os bydd person yn cyflawni datblygiad heb y caniatâd cynllunio gofynnol neu os nad yw’n cydymffurfio ag amod sydd ynghlwm wrth ei ganiatâd cynllunio (a elwir yn ‘torri rheolaeth gynllunio’), gall yr awdurdod cynllunio lleol (ACLl) gymryd camau gorfodi yn ei erbyn.
Mae nifer o opsiynau ar gael i ACLlau wrth fynd i’r afael ag achosion o dorri rheolaeth gynllunio. Weithiau gellir sicrhau canlyniad boddhaol drwy negodi anffurfiol, er enghraifft gall yr ACLl ofyn i’r ymgeisydd gyflwyno cais cynllunio ôl-weithredol i gywiro datblygiad anawdurdodedig. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl, gellir cymryd camau ffurfiol, a rhaid i hynny fod yn briodol i raddfa’r toriad. Mae gorfodaeth yn bŵer yn ôl disgresiwn, sy’n golygu mai mater i’r ACLl yw sut y mae’n ymateb i achos o dorri rheolaeth gynllunio. Rhaid iddynt ystyried a yw cymryd camau gorfodi er budd y cyhoedd ac, mewn rhai sefyllfaoedd, gallant benderfynu nad oes angen cymryd unrhyw gamau.
Os oes angen cymryd camau ffurfiol, efallai y bydd swyddog gorfodi yn dyroddi hysbysiad gorfodi. Mae hwn yn nodi’r hyn y mae’n rhaid ei wneud i unioni’r sefyllfa ac yn amlinellu’r hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad. Gellir rhoi hysbysiad stop hefyd gyda hysbysiad gorfodi, i atal gwaith anawdurdodedig rhag parhau yn ystod yr amser y mae'n ei gymryd i'r hysbysiad gorfodi ddod i rym. Gall hyn fod yn offeryn pwysig i ddiogelu ardaloedd rhag datblygiad anawdurdodedig a allai fod yn niweidiol i natur pe bai’n parhau. Mae peidio â chydymffurfio â gofynion hysbysiad gorfodi neu hysbysiad stop yn drosedd.