Feature

Ymgysylltu cyn ymgeisio: cymryd rhan cyn cais cynllunio

Dysgwch sut mae cynigion datblygu’n cael eu trafod neu sut yr ymgynghorir arnynt cyn cyflwyno cais.

Sunrise over the water at Newport with orange tinted shrubbery in the foreground.
On this page

Last updated: 2 July 2025

Mae dwy broses ymgysylltu cyn ymgeisio yng Nghymru:

  • Gwasanaeth cynghori statudol ac anstatudol cyn ymgeisio, a ddarperir gan awdurdodau cynllunio lleol
  • Proses ymgynghori cyn ymgeisio (PAC) sy’n orfodol i ddatblygwyr sy’n gwneud datblygiadau mawr

Beth yw gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio?

Cyn cyflwyno cais cynllunio, gall ymgeisydd gyflwyno ymholiad am gyngor cyn ymgeisio i’r awdurdod cynllunio lleol (ACLl) i ofyn am ei farn ar ei gynnig datblygu. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru wasanaeth cyn ymgeisio statudol yn 2016 gyda ffioedd penodol ar gyfer gwahanol fathau o gynigion datblygu. Yn ogystal â hyn, gall ACLlau hefyd ddarparu gwasanaeth anstatudol y codir tâl amdano.

Cyflwynir ymholiad cyngor cyn ymgeisio fel cais ffurfiol ond mae angen llawer llai o fanylion nag ar gyfer cais cynllunio. Mae angen darparu digon o wybodaeth i alluogi’r ACLl i lunio barn wybodus am y datblygiad arfaethedig. Bydd wedyn yn cyhoeddi ymateb ysgrifenedig yn nodi a yw’r cynnig cyn ymgeisio yn cydymffurfio â’r polisi cynllunio ai peidio, ac yn debygol o gael ei ystyried yn dderbyniol.   

Nid yw’r gwasanaeth cyn ymgeisio statudol yn gyfrinachol. O ganlyniad, bydd yr holl wybodaeth a gyflwynir, ynghyd ag ymateb ysgrifenedig yr ACLl, ar gael i’r cyhoedd ar y gofrestr gynllunio ar-lein ar wefannau cynghorau. Nid yw ymholiadau cyngor cyn ymgeisio yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ond gall partïon sydd â diddordeb weld y manylion ar-lein.

Gall ACLlau hefyd gynnig gwasanaeth cyn ymgeisio yn ôl disgresiwn, yn ogystal â’r gwasanaeth statudol. Mae hyn ar gyfer ymgeiswyr sy’n dymuno cymryd rhan mewn trafodaethau neu gyfarfodydd pellach yn dilyn ymateb cychwynnol yr ACLl, neu fel dewis arall yn lle’r gwasanaeth statudol. Fel arfer, mae manylion cynigion cyn ymgeisio anstatudol yn cael eu cadw’n gyfrinachol ac nid ydynt yn cael eu cyhoeddi ar wefannau cynghorau, felly nid oes cyfleoedd i bartïon sydd â diddordeb gymryd rhan yn y broses hon. Fodd bynnag, gall y penderfyniad i gyhoeddi ymholiadau amrywio ar draws cynghorau felly mae’n werth holi beth yw dull gweithredu eich ACLl eich hun.

A Merlin perched on a mossy rock
Merlin
Cyngor gorau

Gall ymateb yr ACLl i ymholiad cyngor cyn ymgeisio roi syniad da o sut y mae’r cais cynllunio dilynol yn debygol o gael ei benderfynu. Mae’n werth gofyn am gopi o unrhyw gyngor o’r fath os nad yw eisoes wedi’i ddarparu fel rhan o ddogfennau’r cais cynllunio.

Beth yw ymgynghoriad cyn ymgeisio (PAC)?

Fel rhan o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, gwnaeth Llywodraeth Cymru hi’n orfodol i ddatblygwyr ymgynghori â chymunedau lleol cyn gwneud cais am ddatblygiadau mwy neu ‘fawr’.

Nodir y diffiniad o ddatblygiad mawr yng Ngorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (tudalen naw).

Yn bwysig, y broses PAC yw’r unig gyfle i’r gymuned neu bartïon â diddordeb gymryd rhan mewn trafodaethau cyn ymgeisio ynghylch datblygiadau newydd yn eu hardaloedd. Drwy siarad â’r gymuned leol, gall datblygwyr ddeall barn a safbwyntiau lleol ar eu cynigion a gobeithio y byddant yn eu hystyried cyn cyflwyno cais cynllunio. Efallai y bydd datblygwyr hefyd yn penderfynu gofyn am gyngor cyn ymgeisio gan yr ACLl, yn ogystal â’r broses PAC.

Mae Cymorth Cynllunio Cymru wedi cynhyrchu’r canllaw ymgynghori cyn ymgeisio hwn ar gyfer cymunedau, sy’n amlinellu’r broses PAC o ran beth sydd yn rhaid i ddatblygwyr ei wneud a sut gall cymunedau gymryd rhan.

Fly Agaric Toadstool
Cyngor gorau

Mae’r broses PAC yn gyfle gwych i geisio dylanwadu ar ddatblygiad rydych chi’n poeni amdano.

Mae ymgysylltu â’r datblygwr cyn iddo gyflwyno ei gais cynllunio yn cynyddu’r siawns o gael dylanwad cadarnhaol ar y datblygiad er mwyn adlewyrchu buddiannau bywyd gwyllt lleol, ac i fesurau gwella a lliniaru gael eu cynnwys yn y cynllun.

Share this article