Feature

Deall dosbarthiadau defnydd cynllunio

Yma byddwch yn dysgu pryd mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd tir neu adeiladau.

On this page

Last updated: 2 July 2025

Beth yw dosbarthiadau defnydd?

Mae pob adeilad a thir yn dod o dan ddosbarth defnydd cynllunio (neu fe'u hystyrir yn 'sui generis', term Lladin sy'n golygu 'mewn dosbarth ar ei ben ei hun'). Mae dosbarthiadau defnydd yn pennu ar gyfer beth y bydd adeilad neu blot o dir yn cael ei ddefnyddio gan ei berchennog neu ei feddiannwr. Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) 1987 (fel y’i diwygiwyd) yn grwpio defnyddiau cyffredin o dir ac adeiladau mewn categorïau gwahanol, a elwir yn ‘ddosbarthiadau defnydd’. At ddibenion cynllunio, mae’r defnyddiau o fewn pob dosbarth yn cael eu hystyried yn eithaf tebyg i’w gilydd.

Dyma’r dosbarthiadau defnydd presennol, a gafodd eu diweddaru ddiwethaf ar 20 Hydref 2022 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Dosbarthiadau Defnydd) (Diwygiad) (Cymru) 2022.

Pryd mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd?

Bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd tir neu adeiladau os ystyrir y newid yn ‘sylweddol’ o ran ei effaith ar yr ardal gyfagos. Yr awdurdod cynllunio lleol (ACLl) sy’n penderfynu a yw newid defnydd yn sylweddol ai peidio, ond y rhagdybiaeth gyffredinol yw y bydd newid o un dosbarth defnydd i un arall, neu newid sy’n ymwneud ag unrhyw ddefnydd sui generis (a elwir hefyd yn ddefnydd ‘unigryw’) gyfwerth â newid defnydd sylweddol. Defnyddiau sui generis yw’r rhai nad ydynt yn dod o fewn unrhyw un o’r dosbarthiadau penodedig.

Nid oes angen caniatâd cynllunio pan fydd y defnyddiau presennol a’r defnyddiau arfaethedig yn dod o fewn yr un dosbarth (nid yw symud o un defnydd i’r llall o fewn yr un dosbarth defnydd yn cael ei ystyried yn ddatblygiad).

Ceir hefyd rai hawliau datblygu a ganiateir sy’n caniatáu i rai newidiadau defnydd ddigwydd rhwng gwahanol ddosbarthiadau defnydd heb orfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio.

Robin
Cyngor gorau

Gallai newid defnydd tir neu adeiladau niweidio bywyd gwyllt os nad yw’r effeithiau’n cael eu hasesu’n briodol a’u lliniaru.

Gwiriwch geisiadau cynllunio i sicrhau bod unrhyw newidiadau mewn defnydd yn cael eu hystyried a’u hasesu’n ofalus.

Dylech gysylltu â’r ACLl cyn gynted ag y gallwch os oes gennych unrhyw sylwadau neu bryderon.

Share this article