Safleoedd maes glas yn erbyn safleoedd tir llwyd: beth mae’n ei olygu?
Darllenwch ymlaen i gael diffiniadau, y materion perthnasol a’r pethau i gadw llygad amdanynt mewn ceisiadau cynllunio.

On this page
Last updated: 2 July 2025
Safleoedd maes glas yn erbyn safleoedd tir llwyd
Mae safleoedd maes glas a safleoedd tir llwyd yn dermau cyfarwydd a ddefnyddir yn y byd cynllunio, ond gallai buddiannau bywyd gwyllt y gwahanol safleoedd hyn beri syndod.
Mae’n debygol y bydd y term safle maes glas yn creu delweddau o gefn gwlad, o dir heb ei gyffwrdd gan ddatblygiadau ac yn llawn bywyd gwyllt, tra bydd y term safle tir llwyd yn aml yn cael ei gysylltu â safleoedd ôl-ddiwydiannol ac ardaloedd trefol.
Ond yr hyn nad yw llawer ohonom efallai’n ei wybod yw y gall safleoedd tir llwyd sydd wedi’u gadael mewn cyflwr lled-naturiol gynnwys mwy o fywyd gwyllt na rhai safleoedd maes glas. Er enghraifft, yn aml bydd gan dir amaethyddol sydd wedi cael ei ddefnyddio’n ddwys werth bioamrywiaeth cyfyngedig, er gwaethaf ei statws maes glas. Ar y llaw arall, gall safle tir llwyd segur gynnwys mosaig o gynefinoedd sy’n ddeniadol i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan gynnwys creaduriaid di-asgwrn-cefn o werth cadwraeth uchel yn lleol neu’n genedlaethol.
O ganlyniad, mae angen i ni sicrhau bod yr holl asesiadau ecolegol angenrheidiol yn cael eu cynnal ar gyfer cynigion datblygu ar safleoedd tir llwyd. Dydyn ni ddim eisiau unrhyw ragdybiaethau nad oes gan y safle werth ar gyfer bywyd gwyllt dim ond oherwydd ei fod yn dir llwyd!
Cyn i ni archwilio’r materion cynllunio sy’n gysylltiedig â safleoedd tir glas a thir llwyd, gadewch i ni ddiffinio beth mae’r ddau derm yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae’r termau ‘Llain Las’ a ‘Lletemau Glas’ hefyd yn cael eu hegluro isod er eglurder.
Tir maes glas: diffiniad
Mae tir maes glas (neu safle maes glas diffiniedig) yn dir nad yw wedi cael ei adeiladu arno o’r blaen. Fe’i ceir fel arfer mewn ardaloedd gwledig / cefn gwlad, ond gellir ei gweld hefyd mewn ardaloedd mwy trefol ar ffurf parciau, caeau chwarae a rhandiroedd.

Tir llwyd: diffiniad
Mae tir llwyd yn safle sydd wedi cael ei ddatblygu neu sydd wedi’i addasu gan weithgarwch dynol yn y gorffennol (a elwir hefyd yn dir a ddatblygwyd o’r blaen). Mae’n cynnwys tir sydd wedi’i feddiannu gan strwythur parhaol, neu a oedd wedi’i feddiannu gan strwythur parhaol, gan gynnwys cwrtil y tir datblygedig ac unrhyw seilwaith arwyneb sefydlog cysylltiedig. Mae chwareli a phyllau tywod / gro hefyd yn cael eu hystyried yn dir llwyd.
Fodd bynnag, mae rhai eithriadau i hyn, sy'n cynnwys:
- Tir sydd wedi’i feddiannu gan adeiladau amaethyddol neu goedwigaeth, neu a oedd wedi’i feddiannu gan adeiladau amaethyddol neu goedwigaeth.
- Tir sydd wedi’i ddatblygu ar gyfer echdynnu mwynau neu waredu gwastraff drwy dirlenwi lle mae darpariaeth ar gyfer adfer wedi’i gwneud.
- Tir mewn ardaloedd adeiledig fel gerddi preswyl preifat.
- Parciau, tiroedd hamdden a rhandiroedd.
- Tir a ddatblygwyd yn flaenorol ond lle mae olion y strwythur parhaol neu’r strwythur arwyneb sefydlog wedi ymdoddi i’r dirwedd dros amser.

Llain Las
Efallai eich bod hefyd wedi clywed y term ‘Llain Las’, felly mae’n werth amlinellu hyn yma er eglurder. Ni ddylid drysu rhwng ‘llain las’ a thir ‘maes glas’.
Mae maes glas yn ddisgrifiad o ddefnydd tir, ond mae’r llain las yn ddynodiad polisi cynllunio ar gyfer tir o amgylch rhai ardaloedd trefol. Mae’r dynodiad Llain Las yn cynnwys tir sy’n cael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd, ac mae’n cynnwys safleoedd tir llwyd a safleoedd maes glas.
Yn ei hanfod, mae’r Llain Las yn bolisi ar gyfer rheoli twf trefol ac mae ar ffurf cylch o gefn gwlad o amgylch rhai trefi a dinasoedd. Cafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf yn y 1930au i gyfyngu ar ledaeniad trefol o amgylch Llundain.
Ar hyn o bryd dim ond un Llain Las sydd yng Nghymru, tra bod 14 yn Lloegr ac 11 yn yr Alban. Nid oes gan Ogledd Iwerddon unrhyw ddynodiadau Llain Las.
Lletemau Glas
Mae dynodiad polisi cynllunio arall yng Nghymru hefyd o’r enw Lletemau Glas. Dynodiadau lleol yw’r rhain sydd â’r un pwrpas â lleiniau glas ac sy’n cael eu defnyddio i ddarparu clustogfa rhwng aneddiadau a chefn gwlad / safleoedd dynodedig. Gellir defnyddio Lletemau Glas hefyd i ddiogelu golygfeydd pwysig i mewn ac allan o’r ardal.
Safleoedd maes glas: materion cynllunio
Fel arfer, mae tai ar safleoedd maes glas yn cael eu hadeiladu ar ddwysedd is, a gallant fod yn anoddach eu hintegreiddio â chymunedau a seilwaith presennol.
Gall datblygiadau ar safleoedd maes glas arwain at anfanteision eraill fel selio pridd (gorchuddio’r tir gan ddefnyddio deunydd anhydraidd fel concrit neu darmac), a allai fod â goblygiadau o ran perygl llifogydd, a cholli tir amaethyddol. Mae colli cefn gwlad yn aml yn eu gwneud yn amhoblogaidd gyda chymunedau lleol hefyd.
Ar y llaw arall, mae safleoedd maes glas yn cynnig cyfleoedd i gynnwys mannau gwyrdd naturiol helaeth mewn datblygiadau newydd a gallant ddisodli tir amaethyddol a ddefnyddir yn ddwys sydd â gwerth bioamrywiaeth cyfyngedig.

Safleoedd tir llwyd: materion cynllunio
Yn gyffredinol, mae polisïau cynllunio cenedlaethol yn ffafrio safleoedd tir llwyd ar gyfer datblygu dros safleoedd maes glas, gan fod safleoedd tir llwyd yn cael eu hystyried yn gyffredinol fel rhai sydd â nifer o fanteision cynaliadwyedd, megis:
- Drwy ailddefnyddio tir, mae’n lleihau’r broses o drosi tir sydd heb ei ddatblygu (tir amaethyddol fel arfer) ar gyfer defnyddiau trefol.
- Yn aml, maent yn darparu gwell mynediad at gyfleusterau presennol fel siopau ac ysgolion, gan leihau costau teithio ac allyriadau carbon.
- Mewn ardaloedd trefol gellir eu datblygu ar ddwysedd uwch, sy’n lleihau faint o dir sydd ei angen ar gyfer nifer penodol o gartrefi ac sydd hefyd yn gyffredinol â chostau carbon is.
Fodd bynnag, mewn rhai achosion, gall safleoedd tir llwyd hyrwyddo bioamrywiaeth o werth sylweddol y mae angen ei asesu a’i warchod yn ofalus.
Mae safleoedd tir llwyd mewn ardaloedd trefol sy’n cael eu gadael mewn cyflwr lled-naturiol nid yn unig yn darparu manteision sylweddol o ran bioamrywiaeth ond gallant hefyd helpu pobl a’r amgylchedd yn y ffyrdd canlynol:
- Oeri hinsawdd
- Lleihau sŵn
- Lliniaru llifogydd
- Cipio / storio carbon deuocsid (CO2)
- Mynediad at natur a mannau gwyrdd
Mae’n bwysig ystyried manteision ac anfanteision pob safle unigol, boed yn safle maes glas neu’n safle tir llwyd.
Dull y RSPB
Mae costau a manteision amgylcheddol datblygu ar safleoedd maes glas neu safleoedd tir llwyd yn gymhleth. Mae llawer yn dibynnu ar y math o ddatblygiad a’r defnyddiau y mae’n eu disodli.
Mae’r RSPB yn gweithredu dull sy’n cael ei arwain gan fioamrywiaeth o ymdrin â chwestiynau sy’n ymwneud â safleoedd maes glas yn erbyn safleoedd tir llwyd. Cydnabyddir bod gan ddatblygiadau tir llwyd rai manteision o ran cynaliadwyedd, ond rhaid gwarchod bioamrywiaeth o werth sylweddol lle bynnag y’i gwelir, a rhaid darparu digon o fannau gwyrdd hygyrch sy’n gyforiog o fywyd gwyllt ym mhob datblygiad.
O ran lleiniau glas, mae’r RSPB yn croesawu’r warchodaeth ychwanegol y maent yn ei ddarparu’n anuniongyrchol ar gyfer natur. Fodd bynnag, gan nad ydym yn ystyried ei fod yn bolisi amgylcheddol yn bennaf, teimlwn fod sefydliadau eraill fel yr Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW) mewn sefyllfa well i ymgysylltu â materion polisi lleiniau glas.

Datblygu ar safleoedd tir llwyd: beth i gadw llygad amdano
Yn aml, gellir anwybyddu gwerth bioamrywiaeth safle tir llwyd. Mae angen i ni wneud yn siŵr nad yw hyn yn digwydd!
Pan gynigir datblygu safle tir llwyd, naill ai fel safle dynodedig mewn cynllun lleol neu mewn cais cynllunio, dyma beth i gadw llygad amdano:
- Gwiriwch i weld a oes arolwg ecolegol wedi cael ei gynnal. Os na, yna gofynnwch i’r awdurdod cynllunio lleol ofyn am un gan yr ymgeisydd. Os yw’r safle’n cynnwys strwythurau, gall fod yn gartref i ystlumod neu adar sy’n nythu, ac os yw wedi dychwelyd i gyflwr lled-naturiol yna gallai fod yn cefnogi ymlusgiaid neu fywyd gwyllt arall.
- Os oes asesiadau ecolegol wedi cael eu cyflwyno, gwnewch yn siŵr bod yr arolygon wedi cael eu cynnal ar yr adegau cywir o’r diwrnod / blwyddyn ar gyfer y rhywogaeth benodol honno (ee yr amser gorau i arolygu adar sy’n bridio neu blanhigion blodeuol yw o ddechrau’r gwanwyn i ddiwedd yr haf, yn gynnar yn y bore neu wrth iddi dywyllu).
- Cymharwch y canfyddiadau â’ch gwybodaeth a’ch profiadau lleol eich hun o’r safle. Gwnewch y Swyddog Cynllunio’n ymwybodol o unrhyw anghysondebau rhwng y wybodaeth a gyflwynwyd a’ch tystiolaeth eich hun.
- Os bydd arolwg yn nodi presenoldeb rhywogaethau a warchodir, rhaid cynnig mesurau lliniaru digonol ar gyfer unrhyw effeithiau a achosir gan y datblygiad, yn ogystal â gwelliannau. Os nad yw hynny’n digwydd, rhowch wybod i’r Swyddog Cynllunio.
- Yn dibynnu ar raddfa’r datblygiad, efallai y bydd angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) i ganfod effeithiau’r cynnig ar yr amgylchedd. Edrychwch ar ein canllaw i gael rhagor o wybodaeth am y broses AEA (dolen isod).