Feature

Cynlluniau Cynefin: dylanwadu ar sut mae eich cymuned leol yn cael ei llunio

Darganfyddwch fwy am Gynlluniau Cynefin yma, gan gynnwys beth yw'r manteision a beth sy'n rhan o'r broses.

People digging in raised beds and planting things in a community garden.
On this page

Last updated: 2 July 2025

Beth yw Cynllun Cynefin?

Cyflwynodd Deddf Cynllunio Cymru 2015 hawl i gymunedau lunio 'Cynlluniau Cynefin', fel ffordd iddynt gymryd rhan yn y broses gynllunio yn eu hardaloedd lleol. Mae'r broses Cynlluniau Cynefin yn caniatáu i bobl ddod at ei gilydd drwy gyngor cymuned / tref, neu fforwm cymdogaeth, a dweud beth maen nhw'n meddwl sydd ei angen ar yr ardal, lle dylai tai, busnesau a siopau newydd fynd a sut y dylen nhw edrych.

Mae Cynllun Cynefin yn ddogfen sy'n nodi canllawiau cynllunio lleol ar ddefnyddio a datblygu tir mewn cymunedau lleol. Mae'n ffordd o fynd i'r afael â materion a phryderon defnydd tir a datblygu ar lefel leol, yn ogystal â ffordd o gyflawni dyheadau lleol. 

Mae Cynlluniau Cynefin yn ychwanegu manylion lefel lleol at Gynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a gellir eu mabwysiadu gan eich awdurdod lleol fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA). Er mwyn i Gynllun Cynefin ddod yn Ganllaw Cynllunio Atodol, bydd angen i'r gymuned sy'n paratoi'r Cynllun Cynefin sicrhau ei fod yn cael ei baratoi gyda mewnbwn yr awdurdod lleol. Bydd hefyd angen sylfaen dystiolaeth gref a lefel dda o gyfraniad cymunedol.

Pwy all baratoi Cynllun Cynefin?

Gall Cynlluniau Cynefin gael eu paratoi gan gynghorau cymuned a thref, neu grwpiau cymunedol (mewn ardaloedd lle mae cynghorau lleol).

Os ydych yn dymuno paratoi Cynllun Cynefin, mae'n hanfodol eich bod yn gweithio'n agos gyda'ch awdurdod lleol oherwydd gallant roi rhywfaint o statws i'ch cynllun yn y pen draw, efallai statws cyfreithiol hyd yn oed. Bydd yn bwysig bod eich Cynllun Cynefin yn cyd-fynd â'r CDLl. Os ewch chi i ffwrdd a cheisio gwneud Cynllun Cynefin ar eich pen eich hun, ni fydd yn cael y dylanwad rydych chi ei eisiau! Bydd cyfranogiad a chefnogaeth eich awdurdod lleol (cynllunwyr a swyddogion eraill o bosibl) yn eich helpu i lunio cynllun â thystiolaeth dda.

Beth yw manteision cynhyrchu Cynllun Cynefin?

Mae nifer o fanteision a allai eich helpu i benderfynu a ydych am baratoi Cynllun Cynefin ai peidio:

  • Mae'n ffordd o sefydlu beth yw'r materion datblygu pwysig yn eich cymuned a chytuno ar ffyrdd o fynd i'r afael â'r rheini yn y dyfodol.
  • Mae'n galluogi mewnbwn cadarnhaol a rhagweithiol i'r system gynllunio leol, gan roi mwy o ddylanwad i chi dros benderfyniadau cynllunio.
  • Gellir defnyddio'r dystiolaeth a'r wybodaeth sy'n sail i'ch Cynllun Cynefin i sicrhau cyllid ar gyfer camau gweithredu a phrosiectau a nodwyd.
  • Mae'n ffordd o wella'r berthynas waith rhyngoch chi a'ch awdurdod lleol (a darparwyr gwasanaethau eraill o bosibl).
  • Gall eich Cynllun Cynefin gael ei ddefnyddio gan eich awdurdod cynllunio lleol pan fydd yn dechrau ei Adolygiad CDLl. Os caiff eich Cynllun Cynefin ei fabwysiadu fel CCA, bydd eich rhan chi o'r cynllun wedi’i ddrafftio’n rhannol yn barod!

 

Dysgwch fwy am y broses Cynlluniau Cynefin ar wefannau Cymorth Cynllunio Cymru a Fy Llais Fy Nhref – gweler y dolenni isod.

Share this article