Rhaid i Awdurdodau Cynllunio Lleol gynhyrchu cynllun datblygu lleol (CDLl) cyfredol sy’n nodi polisïau cynllunio ar gyfer eu hardal. Mae Cynlluniau Datblygu Lleol yn cynnwys polisïau sy’n dyrannu darnau o dir ar gyfer mathau penodol o ddatblygiad, ynghyd â pholisïau rheoli datblygu y mae ceisiadau cynllunio’n cael eu hasesu yn eu herbyn. Nid oes angen i Gynlluniau Datblygu Lleol ailadrodd canllawiau cenedlaethol, ond gallant eu cymhwyso mewn cyd-destun lleol.
Mae paratoi a mabwysiadu CDLl yn cynnwys proses hir a all gymryd sawl blwyddyn. Gall Cynlluniau Datblygu Lleol amrywio’n eithaf sylweddol o un ardal i’r llall ond mae PCC yn ei gwneud yn ofynnol i bob un gynnwys polisïau cynllunio strategol cyfredol sy’n unol â Cymru’r Dyfodol a PCC.
Mae CDLl yn rhan o’r hyn a elwir yn ‘gynllun datblygu statudol’ sydd wrth galon y system gynllunio. Mae’n ofyniad cyfreithiol i benderfyniadau cynllunio gael eu gwneud yn unol â’r cynllun datblygu statudol hwn.
Edrychwch ar ein canllaw i gynlluniau datblygu lleol i gael rhagor o wybodaeth am y broses hon (dolen isod).