Mae’r Bil yn darparu ar gyfer sefydlu corff newydd, sef Swyddfa Llywodraethu Amgylcheddol Cymru, (SLlAC), a fydd yn goruchwylio effeithiolrwydd a gweithrediad ein cyfreithiau amgylcheddol gan y llywodraeth drwyddi draw, gan gynnwys ei chyrff cyhoeddus. Fel ei chymheiriaid yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, (Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd (OEP)) ac yn yr Alban (Safonau Amgylcheddol yr Alban), bydd y swyddfa newydd yn gallu ymchwilio i faterion a gaiff eu codi gan ddinasyddion, lle mae’r gyfraith neu ei gweithrediad yn ddiffygiol. Er enghraifft, yn y blynyddoedd diwethaf mae Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd wedi cysidro sut y defnyddir cyfreithiau i wella ein hafonydd a’n moroedd, effeithiolrwydd ardaloedd gwarchodedig, a gofynion asesu amgylcheddol.
Er mwyn iddi gyflawni'r rôl hanfodol yma, bydd rhaid i SLlAC fod yn gwbl annibynnol ac yn weledol annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac rydym yn credu bod angen gwneud rhai newidiadau i’r Bil er mwyn sicrhau hynny. Dylai fod gofyniad penodol i Weinidogion barchu annibyniaeth SLlAC a sicrhau ei bod yn cael ei hariannu’n ddigonol, a dylai’r Bil fod yn llai rhagnodol ynghylch dulliau SLlAC o weithio. Dylai’r broses o benodi aelodau i Fwrdd SLlAC olygu rôl lai i Lywodraeth Cymru a rôl fwy i’r Senedd, gan adlewyrchu natur unigryw'r corff newydd o ran dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Mae’r broses orfodi a amlinellir yn y Bil ar gyfer SLlAC yn cynnwys rhoi pŵer i Banel Adolygu, a fydd yn cynnwys pobl o’r tu hwnt i’r corff newydd. Byddai’r dull hwn yn tanseilio rôl llywodraethu annibynnol SLlAC a rhaid ei newid.
Dylai’r Bil hefyd amlinellu’n glir y modd y gall aelodau’r cyhoedd gyflwyno sylwadau i SLlAC os ydynt yn pryderu am weithrediad cyfraith amgylcheddol neu os ydynt yn credu bod corff cyhoeddus yn methu â chydymffurfio.