Sgyrsiau gydag ymgeiswyr
Sut i godi llais dros fyd natur yn yr etholiad hwn a helpu i roi bywyd gwyllt ar agenda pob ymgeisydd.

On this page
Gadewch i ni roi byd natur ar yr agenda
Gydag etholiadau ar y gweill, mae angen i ni weithredu er mwyn y bywyd gwyllt rydym ni’n ei garu.
Pe bai pob un ohonom yn codi ein llais, gallwn roi gwybod i’r ymgeiswyr sy’n sefyll i fod yn Aelodau o’r Senedd bod yn rhaid i’r Senedd nesaf roi blaenoriaeth i ddiogelu ac adfer byd natur.
Yn y canllaw hwn mae awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu chi i gael sgyrsiau effeithiol a dylanwadol gydag ymgeiswyr seneddol a chanfaswyr yng Nghymru, boed hynny ar garreg eich drws, dros e bost neu mewn digwyddiad hystings lleol.
Pam mae’r etholiad mor bwysig?
Mae etholiad y Senedd ar 7 Mai yn un hollbwysig i fyd natur. Mae Cymru wedi ymrwymo i dargedau rhyngwladol i atal bywyd gwyllt rhag cael ei golli ac i ddiogelu 30% o dir a môr erbyn 2030 - mae hynny’n golygu bod yn rhaid cyrraedd y targedau hyn yn ystod tymor y Senedd nesaf. Y bobl rydym ni’n eu hethol fydd yn penderfynu a fydd hynny’n digwydd ai peidio.
Yn gryno, mae’r etholiad hwn yn bwysig.
Mae’n bwysig oherwydd byddai cyrraedd y targedau hyn yn foment hollbwysig i fyd natur ac i bob un ohonom. Byddai’n trawsnewid dyfodol ein bywyd gwyllt gwerthfawr, sydd yn dirywio ers cyfnod rhy hir. Byddai’n diogelu ac yn ehangu'r mannau gwyllt hyfryd yn ein trefi, yn ein dinasoedd, yng nghefn gwlad ac yn ein moroedd, gan gynyddu'r bywyd gwyllt sy’n byw ar garreg ein drws ac yn y mannau arbennig a ddylai fod yn hafan i fyd natur.
Yn yr etholiad hwn, gallwn ni i gyfrannu at sicrhau bod ein hymgeiswyr yn deall na all byd natur aros mwyach. Pe bai digon ohonom yn codi llais, gallwn roi pwysau ar wleidyddion o bob plaid a sicrhau bod yr ymrwymiadau sydd wedi eu gwneud i adfer ac adfywio ein byd natur yn dod yn realiti. Byddai hyn yn fuddugoliaeth enfawr i fyd natur, ac i ni.
Rydym ni’n galw ar bawb i gymryd rhan – mae ar natur eich angen chi i weithredu!
Sut i gael sgyrsiau defnyddiol gydag ymgeiswyr
Mae angen i wleidyddion gael gwybod bod natur yn bwysig i’w hetholwyr, eu bod yn poeni am gyflwr byd natur ar hyn o bryd, a’u bod yn disgwyl iddynt gymryd camau gweithredu i’w adfer. Y ffordd fwyaf effeithiol o rannu’r neges hon yw drwy siarad yn onest am eich barn a'ch pryderon, gan nodi beth sy’n bwysig i chi yn eich ardal chi. Gall hyn amrywio o gael mynediad at natur yn eich cymuned leol, i ddirywiad bywyd gwyllt yng Nghymru a’r diffyg camau gweithredu sy’n cael eu cymryd i fynd i'r afael â’r sefyllfa.
Rhannu eich barn yn eich geiriau eich hun fydd yn cael yr effaith fwyaf, a bydd hynny helpu'r ymgeiswyr i ddeall bod angen i’r Senedd nesaf flaenoriaethu byd natur.

Cyngor ar sut i gynnal sgyrsiau
- Byddwch yn glir
Gall rhoi gwybod i'r ymgeisydd o'r cychwyn cyntaf eich bod eisiau trafod natur helpu i ddechrau'r sgwrs.
- Trafodwch faterion lleol
Mae gwleidyddion yn ymateb yn dda i faterion y gallant fynd i'r afael â nhw yn eu cymunedau. Meddyliwch am sut yr hoffech chi weld byd natur yn cael ei adfer neu ei wella yn eich etholaeth.
- Daliwch ati
Weithiau, dydy gwleidyddion ddim eisiau cael eu holi’n dwll. Peidiwch â bod ofn pwyso arnynt am fanylion ac ymrwymiadau.
- Byddwch yn gryno
Meddyliwch ymlaen llaw am beth hoffech chi ei ddweud, a pha faes yr hoffech chi ganolbwyntio arno, yn enwedig os ydych chi’n mynd i ddigwyddiad hystings!
- Byddwch yn barchus
Mae gan bawb safbwyntiau gwahanol, felly peidiwch â defnyddio iaith elyniaethus. Dyma’r peth cwrtais i’w wneud, a bydd yn eich helpu i gyfleu eich safbwyntiau mewn ffordd fwy cofiadwy ac effeithiol.
- Cysylltwch eto
Os oes gennych chi bryderon neu gwestiynau o hyd, cofiwch holi sut i gadw mewn cysylltiad â’r ymgeisydd er mwyn parhau â’r sgwrs yn ystod ac ar ôl yr etholiad. Mae parhau â'r sgwrs yn allweddol er mwyn dwyn gwleidyddion i gyfrif a sicrhau eu bod yn cadw at eu gair wrth warchod byd natur.
Siarad â chanfaswyr
Yn ystod yr etholiad, efallai y cewch aelodau o dîm ymgeisydd yn cnocio ar eich drws. Er na allant wneud addewidion ar ran yr ymgeisydd, ac efallai na fyddant yn gallu ateb cwestiynau am bolisi yn fanwl, maent yn gyswllt uniongyrchol rhyngoch chi â’ch darpar Aelod o'r Senedd.
Gan gadw hynny mewn cof, mae siarad â chanfaswyr yn gyfle da i gyfleu eich pryder am fyd natur ac i egluro sut y gall natur effeithio ar eich pleidlais. A chofiwch, os hoffech chi siarad ag ymgeisydd y blaid, gofynnwch!
Mynychu neu drefnu digwyddiad hystings
Yn ystod yr etholiad, efallai y cewch aelodau o dîm ymgeisydd yn cnocio ar eich drws. Er na allant wneud addewidion ar ran yr ymgeisydd, ac efallai na fyddant yn gallu ateb cwestiynau am bolisi yn fanwl, maent yn gyswllt uniongyrchol rhyngoch chi â’ch darpar Aelod o'r Senedd.
Gan gadw hynny mewn cof, mae siarad â chanfaswyr yn gyfle da i gyfleu eich pryder am fyd natur ac i egluro sut y gall natur effeithio ar eich pleidlais. A chofiwch, os hoffech chi siarad ag ymgeisydd y blaid, gofynnwch!