News

RSPB Cymru’n dathlu pryniant tir hanesyddol yng nghanolbarth Cymru

Mae’r pryniant arwyddocaol hwn yn creu tirwedd gysylltiedig ar gyfer bywyd gwyllt yng ngwarchodfa natur RSPB Gwenffrwd-Dinas.

5 min read
Gallt-y-bere
On this page

Yn ystod Wythnos Natur Cymru, rydym yn dathlu pryniant llwyddiannus Gallt-y-bere, ardal 96 hectar o gynefinoedd amrywiol yn yr Elenydd yng nghanolbarth Cymru. Mae Gallt-y-bere yn berl sy'n llawn bywyd gwyllt, ac yn gartref i gynefinoedd a rhywogaethau prin sydd o bwysigrwydd rhyngwladol – o goedwigoedd derw'r Iwerydd prin (a elwir hefyd yn goedwig law Geltaidd) i dir ffridd a chorsydd mawn. Mae hefyd yn gadarnle i'r Gwybedog Brith – rhywogaeth sy'n mudo yma yn yr haf ac yn ffynnu mewn coedwigoedd derw – yn ogystal â llawer o fywyd gwyllt arall, gan gynnwys y Gog, Telorion y Coed, Bele’r Coed a Chrec yr Eithin.

Cwblhau'r ddolen goll

Rydym wedi bod yn weithgar yng Gwenffrwd-Dinas ers dros ganrif; yn gyntaf drwy gefnogi Pwyllgor y Barcud yn ei ymdrechion i ddiogelu Barcudiaid Coch, ac yn ddiweddarach drwy brynu dau ddarn o dir, Gwenffrwd a Dinas, i greu gwarchodfa natur RSPB Gwenffrwd-Dinas. Mae Gallt-y-bere yn eistedd rhwng y ddau ddarn hyn o dir, ac am y tro cyntaf ers bron i 60 mlynedd, rydym yn gallu diogelu'r safle fel un dirwedd gysylltiedig.

Bydd dod â Gallt-y-bere dan reolaeth cadwraeth yn dod â buddion sylweddol i fywyd gwyllt drwy wella cysylltedd cynefinoedd ar draws y warchodfa a chreu cysylltiadau newydd rhwng cynefinoedd presennol.

Llwyddasom i sicrhau'r safle rhyfeddol hwn drwy fenthyciad dyngarol hael, ac yna apêl codi arian cyhoeddus. Hoffem ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr apêl. Diolch i'ch cefnogaeth, rydym bellach mewn sefyllfa i ailgysylltu a diogelu'r dirwedd werthfawr hon. Bydd rhagor o roddion yn helpu i gefnogi rheolaeth hirdymor gwarchodfa natur RSPB Gwenffrwd-Dinas am flynyddoedd i ddod.

Pied Flycatcher perched on a branch

Beth nesaf i Gallt-y-bere?

Dywedodd Jonathan Cryer, Rheolwr y Safle yn RSPB Gwenffrwd-Dinas:

Mae Gallt-y-bere yn lle gwirioneddol hudolus, ac rwyf wrth fy modd ein bod mewn sefyllfa i ehangu a gwella ei gynefinoedd a'i fywyd gwyllt prin. Mae sicrhau'r safle hwn yn gyfle gwych i ni gryfhau coetir hynafol, adfer cynefinoedd ucheldir a chreu'r amodau sydd eu hangen ar fywyd gwyllt prin fel y Boda Tinwyn i ffynnu yn y dyfodol. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth hael ein rhoddwyr dyngarol a'n cefnogwyr anhygoel a gyfrannodd at yr apêl codi arian."

Bydd y warchodfa estynedig yn creu cyfleoedd cyffrous ar gyfer adfer bywyd gwyllt coetir ac ucheldir. Drwy gysylltu'r tir sydd newydd ei gaffael â chynefinoedd rhostir presennol, mae'r warchodfa bellach yn cynnwys ardal ddigon mawr i gynnal Bodaod Tinwyn sy'n bridio. Er bod yr aderyn hwn – sydd ar y rhestr goch o adar sy'n peri pryder cadwraethol – i'w weld yn achlysurol yn yr ardal, ni fu unrhyw ymdrechion bridio yn ddiweddar.

Bydd arolygon sy'n cael eu cynnal yr haf hwn, ac sy'n cael eu hariannu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, yn helpu i nodi'r ystod lawn o gynefinoedd a rhywogaethau sy'n bresennol ar y tir sydd newydd ei gaffael ac yn llywio'r gwaith rheoli yn y dyfodol. Gellir hefyd ehangu a gwella glaswelltiroedd presennol sy'n gyfoethog o ran rhywogaethau, gan ddarparu mwy o wydnwch i blanhigion a bywyd gwyllt pwysig, gan gynnwys rhywogaethau fel y Carwy Droellennog a'r Ffacbysen Chwerw.

Mae'r pryniant hefyd yn creu cyfleoedd i weithio'n agos gyda thenantiaid ffermio lleol i ddangos sut y gall adfer natur a ffermio cynaliadwy fynd law yn llaw yn llwyddiannus ar draws y dirwedd ehangach.

Aerial image of RSPB Gwenffrwd-Dinas Nature Reserve, Carmarthenshire, Wales
RSPB Gwenffrwd-Dinas
Gwenffrwd-Dinas

Mae coetir sy'n llawn bywyd gwyllt yn barod i groesawu ymwelwyr Gwenffrwd-Dinas – dewch i weld Gwybedog Brith a charpedi o Glychau'r Gog llachar wedi'u cymysgu â chenau gwyrdd melfedaidd.

Share this article