Feature

Swyn syfrdanol adar y môr

Yn anffodus, mae adar môr ysblennydd, hardd a hudolus o dan fygythiad.

Puffin, pair engaged in courtship touching bills
On this page

Helpwch i gadw lliw ein harfordiroedd

Mae palod, clowniaid carismatig hardd y môr, o dan fygythiad. Maen nhw ar y Rhestr Goch o’r adar sydd fwyaf mewn perygl yn y byd. Ac nid dyma’r unig adar môr sydd mewn trybini. Ar hyn o bryd, mae 62% o adar y môr yn lleihau mewn niferoedd ar draws y DU: mae eu niferoedd yn dirywio mwy nag unrhyw rywogaeth arall. Mae’r DU yn bwysig yn rhyngwladol i boblogaethau adar y môr, felly nid dim ond newyddion drwg i adar y môr yw’r dirywiad hwn. Mae’n newyddion drwg i bob un ohonom. 

“Mae adar y môr yn ein rhybuddio bod ein hamgylchedd morol yn dirywio’n ofnadwy. Er mwyn achub adar y môr rhaid i ni achub ein moroedd yn gyntaf, gan ddiogelu’r bwyd, y cynefinoedd, a’r ecosystemau y mae’r holl fywyd gwyllt yn dibynnu arnyn nhw, gan gynnwys ni.

- Kirsten Carter, Pennaeth Polisi Morol y DU

Pam mae adar y môr mewn trybini? 

Dydy bywyd ddim yn hawdd i adar y môr. Maen nhw’n wynebu pob math o fygythiadau. Mae Palod, er enghraifft, yn nythu mewn tyllau yn y ddaear. Mae rhai Palod yn nythu ar ynysoedd, lle mae rhywogaethau fel llygod mawr a llygod bach wedi cael eu cyflwyno’n ddamweiniol. Maen nhw’n gallu chwalu poblogaethau Pâl gan fod eu hwyau a’u cywion yn bryd hawdd o fwyd.  

Mae Ffliw Adar Pathogenig Iawn yn lladd llawer o adar y môr – yn wir, fe arweiniodd at haneru'r boblogaeth o Huganod yn safle Gwales yr RSPB yn sir Benfro mewn cwta fisoedd. Mae rhywogaethau fel Adar Drycin y Graig mewn perygl o gael eu dal ar ddamwain mewn offer pysgota, sef ‘sgil-ddalfa’.

Mae bachau lein hir yn broblemus dros ben, gan fod adar y môr yn gallu cael eu dal ynddyn nhw, cyn boddi. Yn ôl amcangyfrifon, mae’r broblem mor eithafol fel bod o leiaf 720,000 o adar y môr, 300,000 o forfilod, 345,000 o forloi a môrlewod, 250,000 o grwbanod, a degau o filiynau o siarcod ar draws y byd yn marw’n ddiangen bob blwyddyn. 

Albatross taskforce.

Mae rhywogaethau eraill yn cael trafferth goroesi hefyd – ac mae hynny’n cynnwys y bwyd mae adar y môr yn ei fwyta, fel llymrïaid y mae’r Pâl mor hoff ohonynt. Mae llymrïaid mewn perygl oherwydd gorbysgota ac effeithiau newid hinsawdd, sy’n golygu bod llai ohonynt i Balod eu bwyta. 

Yn ddiweddar, rydyn ni wedi gweld nifer o ‘ddrylliadau adar y môr.’ Mae hyn yn digwydd pan fydd nifer fawr o adar y môr yn golchi i’r lan ar ein harfordiroedd. O ganlyniad i stormydd 2026 – Gareth, Ingrid a Chandra – mae llawer o adar y môr wedi cyrraedd ein harfordiroedd, ar ôl cael eu chwythu oddi ar eu llwybr. Mae o leiaf 38,000 o adar y môr wedi dod i’r lan ar Arfordir yr Iwerydd hyd yma. Wrth i dywydd eithafol fel hyn ddod yn fwy ac yn fwy cyffredin, mae’n hanfodol ein bod ni’n rhoi cymaint o gefnogaeth â phosibl i adar y môr. 

Cyfrannwch heddiw 

Gallwch chi helpu i newid y stori

Ond nid dyma ddiwedd y stori. Dydyn ni ddim yn mynd i eistedd yn ôl a gwylio adar y môr yn diflannu o dan ein gwyliadwriaeth ni! Rydyn ni’n gweithio’n galed i’w hachub, a gallwch chithau helpu hefyd. Y newyddion da yw ein bod ni’n gwybod beth sydd ei angen ar adar y môr. A gallwn weithio’n galed i sicrhau bod hynny’n digwydd.

Gallwch ein helpu i weithredu ar sgil-ddalfeydd

Gallech helpu i gynyddu'r prosesau Monitro Electronig o Bell ar gychod pysgota i’n helpu i weld sut a phryd mae adar y môr yn cael eu dal. Gallwn wedyn argymell mesurau i leihau niwed, fel pysgota gyda’r nos ac ychwanegu pwysau at leiniau hir.

Gallwch gefnogi ein gwaith ymgyrchu

Ar ôl ymgyrchu diflino gan yr RSPB, cyhoeddwyd y bydd pysgodfeydd llymrïaid diwydiannol yn cau ym Môr y Gogledd Lloegr ac yn holl ddyfroedd yr Alban. Mae hon yn fuddugoliaeth nodedig i’r Pâl, ond mae angen i ni wneud mwy i atal adar y môr rhag llwgu ar ein glannau. Gallwch chi ein helpu i barhau i roi pwysau! 

Gallwch amddiffyn Palod rhag ysglyfaethwyr

Gallech helpu ein gwaith i adfer y cydbwysedd ar ynysoedd drwy gael gwared ar ysglyfaethwyr goresgynnol fel llygod mawr a llygod bach. Rydyn ni’n defnyddio cŵn canfod sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig, technoleg delweddu thermol a bocsys abwyd er mwyn dal llygod mewn ffordd drugarog. 

Gallwch helpu ein hymchwil ar Ffliw Adar

Gallwch helpu ein gwyddonwyr cadwraeth sy’n gweithio’n galed i fesur a mynd i’r afael ag effeithiau Ffliw Adar ar adar y môr, yn ogystal ag adar eraill. 

Gallwch helpu ein hymchwil ar Ffliw Adar

Drwy roi cyfraniad heddiw, gallwch chi warchod ein hadar môr gwerthfawr. 

Gulls at sea
Achubwch adar y môr

Bydd eich haelioni chi yn cefnogi ein gwaith cadwraeth, lle mae natur angen hynny fwyaf. Mae pob rhodd yn ein helpu i ymateb i heriau brys fel y rhai sy’n wynebu Palod ac adar eraill y môr. 

Share this article