Feature

Cael cymorth gan arbenigwyr

Dewch i gwrdd â Richard, aelod o Glwb Adar Durham, a fu’n casglu gwybodaeth leol i gynorthwyo Gylfinirod a mwy.

Curlew adult in cotton grass
On this page

Crëwyd Cronfa Ddŵr Hurworth Burn yn Swydd Durham yn 1870 i ddarparu dŵr i dref Hartlepool. Erbyn hyn, mae’r ardal yn noddfa i fywyd gwyllt, ac mae’n dod yn fyw yn y gaeaf pan fydd hwyaid, gwyddau ac adar hirgoes yn heidio yno.

Yn 2017, cyflwynwyd cais i droi un o lannau’r gronfa ddŵr yn barc hamdden ar gyfer carafannau, gyda’r posibilrwydd o’i ehangu yn y dyfodol.

“Ar ran Clwb Adar Durham, fe wrthwynebais i’r cais ar y sail y byddai’n tarfu’n sylweddol ar y lan hon a ddefnyddir yn rheolaidd gan adar er mwyn pori.”

Wigeons, flying over lake in Hurworth Burn

Dod o hyd i’r dystiolaeth

Er bod rhai adar yn gallu goddef presenoldeb pobl yn bur dda, cynigiodd Richard y byddai’r datblygiad yn debygol o ddadleoli rhywogaethau eraill, fel Chwiwellod. Roedd Richard hefyd yn gwybod am gysylltiad rhwng y Gylfinirod a fyddai’n treulio’r gaeaf yn Hurworth Burn a safleoedd magu gwarchodedig ar yr arfordir. Estynnwyd gwahoddiad i’r unigolyn a bennodd y cysylltiad hwnnw ddarparu tystiolaeth, a bu i hyn ychwanegu dilysrwydd at ymgyrch Clwb Adar Durham a phrofi pwysigrwydd y safle i rywogaeth sy’n dirywio’n fyd-eang.

“Yn y pen draw, gwrthodwyd y cais, a hynny i raddau helaeth, yn fy nhyb i, oherwydd tystiolaeth y Clwb, ecolegydd y Cyngor, a’r ffaith inni bennu’r cysylltiad gweithredol [â’r safle gwarchodedig]. Pe bai’r cais hwn wedi llwyddo, rwy’n meddwl y byddai wedi ein llorio.”

Yn sgil y llwyddiant hwn, mae Richard wedi parhau i ymgyrchu dros warchod byd natur ei fro, ac mae’n pwysleisio pwysigrwydd casglu tystiolaeth gadarn pan fyddwch yn creu achos.

Dyfodol i fywyd gwyllt

Ar hyn o bryd, mae Richard yn annog yr awdurdod cynllunio lleol i fonitro effeithiau cronnol datblygiadau ynni sydd ar y gweill dafliad carreg o’r gronfa ddŵr. O ddod i ddeall mwy am effeithiau gwahanol fathau o ddatblygiadau ar fywyd gwyllt lleol, bydd yn helpu i ddatblygu’r achos dros roi datblygiadau ar waith yn y mannau cywir ac yn y ffordd gywir yn y dyfodol.

Share this article