News
Tymor o obaith i’r Gylfinir yng Ngogledd Cymru
Gyda nifer y parau magu ar ei uchaf ers dechrau’r gwaith monitro, daeth newyddion calonogol i’r Gylfinir yn Ysbyty Ifan ...
12th Nov 2026
Gyda nifer y parau magu ar ei uchaf ers dechrau’r gwaith monitro, daeth newyddion calonogol i’r Gylfinir yn Ysbyty Ifan a Hiraethog yn ystod tymor magu 2026. Ond mae heriau’n parhau i wynebu’r aderyn annwyl hwn o’r ucheldiroedd.
5 min read
I lawer o bobl, mae cân fyrlymus y Gylfinir yn un o synau mwyaf cyfarwydd ag annwyl ein hucheldiroedd. Eto, er ei fod yn un o’n hadar ucheldir mwyaf poblogaidd, mae niferoedd y Gylfinir wedi gostwng tua 80% ers 1990. Fodd bynnag, mae canlyniadau eleni yn cynnig gwir obaith ac yn adlewyrchu gwaith caled ffermwyr, tirfeddianwyr, gwirfoddolwyr a chadwraethwyr sy’n cydweithio i sicrhau dyfodol mwy disglair i’r Gylfinir ar draws ucheldiroedd Ysbyty Ifan a Hiraethog.
Cofnododd y prosiect amcangyfrif o 55 pâr magu ar draws ardal y prosiect, o gymharu â 41 pâr yn 2025.
I bawb sy’n ymwneud â’r prosiect, mae’r ffigurau hyn yn hwb calonogol ac yn cynnig gobaith y gall y Gylfinir barhau i adfer ar draws yr ucheldiroedd hyn. Er bod y rhywogaeth yn parhau i fod yn destun pryder cadwraethol sylweddol, mae’r cynnydd yn nifer y parau magu yn awgrymu bod yr ymdrechion i wella amodau ar gyfer y Gylfinir ar draws ardal y prosiect yn cael effaith gadarnhaol.
Rhan allweddol o waith y prosiect yw dod o hyd i barau magu’r Gylfinir a diogelu eu nythod yn ystod y cyfnod nythu bregus.
Yn ystod y tymor, daeth staff y prosiect a gwirfoddolwyr o hyd i 21 o nythod y Gylfinir. O’r rhain, cafodd 19 eu diogelu gan ffensys trydan dros dro, tra bod dau nyth o fewn ardaloedd a oedd eisoes wedi’u hamgáu gan ffensys parhaol i atal ysglyfaethwyr. O ganlyniad, cafodd pob nyth y daethpwyd o hyd iddo yn ystod y tymor ei ddiogelu.
Mae diogelu nythod rhag ysglyfaethu ac aflonyddwch yn rhoi’r cyfle gorau i’r wyau ddeor yn llwyddiannus, ac roedd ymdrechion staff, gwirfoddolwyr a rheolwyr tir yn chwarae rhan bwysig yng nghanlyniadau calonogol eleni.
O’r 21 nyth a ddarganfuwyd, deorodd o leiaf un cyw mewn 17 ohonynt, gan arwain at gyfradd lwyddiant deor cyffredinol o 80.95%. Er bod y Gylfinir yn dal i wynebu nifer o heriau ar ôl i’r cywion ddeor, mae sicrhau cyfradd ddeor uchel yn gam pwysig tuag at gynyddu’r boblogaeth yn y tymor hir.
Er bod llwyddiant y deor yn galonogol, y cyfnod rhwng deor a magu plu digon cryf i hedfan yw’r cam mwyaf heriol yng nghylch bywyd y Gylfinir o hyd.
Credir yn gyffredinol fod angen i bob pâr magu, gynhyrchu tua 0.5 cyw sy’n llwyddo i hedfan bob blwyddyn er mwyn atal dirywiad hirdymor ym mhoblogaeth y Gylfinir. Cofnododd gwaith monitro’r prosiect wyth cyw a lwyddodd i hedfan yn ystod tymor 2026, gan roi cyfradd gynhyrchiant o 0.33 cyw fesul pâr magu.
Mae hyn yn ein hatgoffa o’r heriau niferus sy’n wynebu cywion y Gylfinir wrth iddynt dyfu, gan gynnwys ysglyfaethu, diffyg cynefinoedd addas, tywydd garw a’r angen i ddod o hyd i ddigon o fwyd a chysgod yn ystod wythnosau cyntaf eu bywydau.
Bydd tîm y prosiect yn parhau i gydweithio’n agos â ffermwyr, rheolwyr tir a gwirfoddolwyr i adeiladu ar y llwyddiannau hyd yma a gwella cyfleoedd cywion y Gylfinir i oroesi nes y gallant hedfan.
Ni fyddai’r canlyniadau hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth y nifer fawr o bobl sy’n cyfrannu at y prosiect bob blwyddyn. Mae ffermwyr, tirfeddianwyr, gwirfoddolwyr a chymunedau lleol i gyd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu'r Gylfinir ar Rhostiroedd Gogledd Cymru.
Mae’r cynnydd yn nifer y parau magu a’r llwyddiant calonogol wrth ddeor yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn dod at ei gilydd i gefnogi’r adar hyn a’r cynefinoedd y maent yn dibynnu arnynt. Fodd bynnag, mae llawer mwy i’w wneud o hyd i wrthdroi dirywiad hirdymor y rhywogaeth eiconig hon yng Nghymru.
Wrth i’r prosiect edrych ymlaen at y tymor nesaf, rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a hoffai gymryd rhan. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, helpu gydag arolygon, mynychu digwyddiadau neu os ydych yn ffermwr lleol sy’n awyddus i wybod sut y gallwch helpu, gall eich cefnogaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Os hoffech gefnogi gwaith cadwraeth y Gylfinir ar draws Ysbyty Ifan a Hiraethog, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, ein cyfleoedd gwirfoddoli neu ein digwyddiadau, cysylltwch â thîm Cri’r Gylfinir drwy ebostio crigylfinir@rspb.org.uk.
Mae prosiect Cri’r Gylfinir wedi’i wneud yn bosibl diolch i gyllid gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddarperir mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.