News
Nature's decline isn't inevitable - it's a political choice
With the King's Speech just days away, we're calling on the UK Government to seize the moment and act for nature.
11th May 2026
Eleni, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethiant a Bioamrywiaeth i'r Senedd.
5 min read
Bydd gan y Bil nifer o ddibenion pwysig o ran yr argyfwng natur, gan gynnwys cyflwyno targedau statudol ar gyfer adfer bioamrywiaeth. Fel y nodwyd yn adroddiad diweddaraf State of Nature, mae un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru bellach dan fygythiad, ac rydym wedi gweld gostyngiad o 20% yn ein bywyd gwyllt ers 1994. Mae'n rhaid cymryd camau sylweddol.
Wrth ystyried strategaethau ar gyfer atal a gwrthdroi'r dirywiad a welwn yn ein natur, mae gan dargedau cyfreithiol rwymol rôl allweddol. Byddant yn ei gwneud yn ofynnol i'r llywodraeth, awdurdodau lleol a nifer o gyrff eraill ddiogelu ein hamgylchedd naturiol, gan greu atebolrwydd dros gyflawni yn erbyn ymrwymiadau byd-eang ar gyfer 2030 a 2050.
Rhywogaethau yw blociau adeiladu bioamrywiaeth, ac mae'r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang yn galw ar lywodraethau i atal difodiant rhywogaethau a achosir gan bobl, ac i adfer y rhywogaethau gwyllt brodorol niferus i lefelau iach a gwydn. Er mwyn cyflawni hyn bydd angen gweithredu systemau ffermio a chynllunio sy'n gyfeillgar i natur, rheoli ardaloedd gwarchodedig yn well, ac adfer cynefinoedd ehangach, gyda rhaglenni wedi'u targedu ar gyfer rhywogaethau sydd mewn perygl arbennig.
Er bod y darlun cyffredinol o fioamrywiaeth yn y DU yn dangos dirywiad difrifol, mae yna straeon o lwyddiant lle mae rhywogaethau wedi cael cymorth i adfer - dwy enghraifft allweddol yw Aderyn y Bwn a Bras Ffrainc.
Ar un adeg roedd adar y bwn yn gyffredin mewn gwelyau cyrs ar dir isel, ond cawsant eu gyrru i ddifodiant fel aderyn bridio yn y DU yn yr 1880au yn sgil hela a draenio tir at ddefnydd amaethyddol. Daethant yn ôl ohonynt eu hunain, ond bu gostyngiad pellach, gyda dim ond 11 o wrywod wedi’u clywed ar arolygon yn 1997. Dangosodd ymchwil fod colli cynefinoedd a phrinder bwyd yn ffactorau allweddol oedd yn gyfrifol am y dirywiad. Ar ôl canfod y ffactorau pwysig, cymerodd yr RSPB a'i phartneriaid gamau, wedi’u gyrru gan dargedau penodol yn seiliedig ar ganlyniadau - y nod tymor hir oedd cyrraedd 100 o wrywod erbyn 2020. Cafodd y cynefin a fodolai eisoes ei adfer, a chrëwyd gwelyau cyrs newydd. Rhagorwyd ar y targed, a chyfrwyd 234 o wrywod yng Nghymru a Lloegr yn 2023, ac elwodd nifer o rywogaethau eraill o’r gwelyau cyrs a grëwyd yn sgil y gwaith hefyd.
Ar un adeg roedd Breision Ffrainc yn gyffredin ar draws Cymru a de Lloegr, ond dim ond 118 pâr oedd ar ôl yn 1989, a’r rheini bron i gyd yn ne Dyfnaint. Fel adar tir fferm, effeithiwyd ar yr adar yn sgil dwysáu mewn amaethyddiaeth a oedd yn golygu bod llai o fwyd ar gael dros y gaeaf. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, talwyd ffermwyr (trwy'r Cynllun Stiwardiaeth Cefn Gwlad) i adael sofl haidd heb ei drin ar eu ffermydd dros y gaeaf, gan ddarparu ffynhonnell o hadau i'r adar bach hyn. Un o’r camau cadarnhaol eraill a gymerwyd oedd gadael gwrychoedd heb eu tocio fel bod mwy o safleoedd nythu ar gael. Erbyn hyn mae dros 1000 o barau o Freision Ffrainc yn ne-orllewin Lloegr.
Yn y ddau achos hyn, arweiniodd yr RSPB ar waith ymchwil a chadwraeth i ddeall achosion y dirywiad a sefydlwyd cynlluniau rheoli i wrthsefyll eu heffeithiau. Roedd y cynlluniau hyn yn cynnwys targedau clir, o fewn amser penodol ar gyfer adfer rhywogaethau. Gyda'r targedau cywir wedi'u gosod, a chamau gweithredu ar y cyd, mae'n bosibl dod â rhywogaethau’n ôl i lefelau iach.
Mae nifer o rywogaethau eraill yn dal i brinhau, er bod gwaith yn mynd rhagddo i nodi a gweithredu mesurau a fydd yn mynd i'r afael â’r ffactorau sy’n gyfrifol am y gostyngiad. Dwy rywogaeth eiconig lle mae’r niferoedd yn gostwng yn gyflym yw’r gylfinir a’r wennol ddu.
Mae gwenoliaid duon yn rhywogaeth a welir yng Nghymru yn yr haf. Fe’u gwelir yn ein dinasoedd, ein trefi a'n pentrefi, ac maent yn adnabyddus am eu sgrech nodedig. Fodd bynnag, bu gostyngiad o 76% mewn niferoedd ers 1995. Mae gwenoliaid duon yn dibynnu ar gilfachau mewn adeiladau a waliau i nythu ynddynt, ond yn sgil gwelliannau mewn safonau adeiladu ac inswleiddio, mae’r llefydd hyn yn mynd yn brin. Er y gellir unioni hyn trwy ddefnyddio 'Brics wenoliaid duon' (brics gyda cheudod y tu mewn ar gyfer gwenoliaid duon sy'n nythu) a gosod blychau nythu ar adeiladau presennol, nid oes digon o'r rhain drwy’r wlad eto i gael effaith barhaol. Yn ogystal â hyn, mae gwenoliaid duon yn dibynnu ar bryfed sy’n hedfan fel ffynhonnell fwyd. Bydd systemau ffermio sy'n gyfeillgar i natur a mannau gwyllt mewn ardaloedd trefol yn cefnogi poblogaethau infertebratau, ac yn sgil hynny, y Wennol Ddu.
Mae'r Gylfinir ar restr goch Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru. Gallai fod ar fin difodiant fel rhywogaeth fridio yng Nghymru o fewn y degawd nesaf os na chymerir camau. Mae Gylfinir Cymru yn bartneriaeth sy'n gweithio i atal hyn a sefydlu o leiaf chwe phoblogaeth fridio sefydlog erbyn 2031. Mae ganddo bedwar nod allweddol, gan gynnwys cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir i ddarparu cynefin i’r Gylfinir, a gwrthdroi’r ffactorau presennol sy’n gyfrifol am gynhyrchiant isel. Mae targedau clir, o fewn amser penodol sy'n seiliedig ar ganlyniadau fel y rhain yn hollbwysig wrth lunio a symbylu camau gweithredu, ac rydym yn gobeithio y bydd targedau uchelgeisiol tebyg yn cael eu gosod gan y Llywodraeth.
Mae gosod targedau, gyda nod terfynol clir a cherrig milltir ar hyd y daith yn fodd i fesur cynnydd, a dathlu llwyddiannau. Er mwyn eu cyflawni mae angen cynllun clir yn ei le ar gyfer cymryd camau. Mae'r Bil Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethiant a Bioamrywiaeth sydd yn yr arfaeth yn rhoi'r cyfle perffaith i osod targedau uchelgeisiol i sbarduno newid ar draws pob sector. Mae angen i ni weld targed cyffredin i sbarduno’r gwaith o adfer rhywogaethau ledled Cymru, gyda chynllun cyflawni sy’n cefnogi cynlluniau adfer wedi'u targedu a chamau gweithredu er budd ein rhywogaethau mwyaf bregus. O’i wneud yn dda, bydd hyn yn rhoi’r siawns gorau i natur Cymru ffynnu - ni allwn adael i’r cyfle hwn fynd heibio.