Drwy lofnodi’r e-weithred sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu a sicrhau cyllid ar gyfer ffermio sy’n ystyriol o fyd natur a’r hinsawdd yng Nghymru.
Feature
Cyllido ffermio er lles natur – ni all natur ddygymod â thoriadau
Ydych chi’n cytuno bod angen i ni sicrhau dyfodol disglair i fywyd gwyllt a chymunedau amaethyddol Cymru drwy gynyddu’r buddsoddiad mewn arferion ffermio sy’n ystyriol o natur?

On this page
- Pam fod angen cefnogi cyllid ar gyfer ffermio sy’n ystyriol o natur?
- Cynlluniau amaeth-amgylcheddol a mynd i'r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth
- Arian Cyhoeddus yn cael ei wario ar fanteision amgylcheddol
- Mae’r gyllideb gyfredol ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru mewn perygl o gael ei herydu
- Cymorth cyhoeddus yng Nghymru
- Gweithredwch
Cyhoeddwyd: 19 Chwef 25
Pwnc: Ariannu Ffermio er lles Natur
Rydym ni’n credu y dylai'r cyllid y mae ffermwyr yn ei gael gan Lywodraeth Cymru eu cefnogi i ffermio mewn ffordd sydd o fudd i natur ac sy’n mynd i’r afael â newid hinsawdd. Yn y darn hwn, ceir amlinelliad o’r rhesymau pam y mae’r cyllid hwn mewn perygl, a beth yw arwyddocâd hynny.
Pam fod angen cefnogi cyllid ar gyfer ffermio sy’n ystyriol o natur?
Mae natur yn dirywio ym mhob rhan o Gymru, ac mae un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu’n llwyr yn genedlaethol. Mae 84% o dir Cymru yn cael ei ffermio, ac felly rhoi natur wrth wraidd y ffordd rydym yn cynhyrchu bwyd, a buddsoddi mewn arferion ffermio sy’n ystyriol o natur yw ein cyfle gorau i weld bywyd gwyllt yn gwella ac yn ffynnu. Mae adferiad natur hefyd yn chwarae rhan allweddol yn ein llesiant gan mai natur sy’n darparu'r aer rydym ni’n ei anadlu, y dŵr rydym ni’n ei yfed, a’r pridd rydym ni’n ei ddefnyddio i dyfu bwyd. Mae natur hefyd yn ein helpu i fynd i’r afael a newid hinsawdd ac yn lleihau peryglon llifogydd.
Cynlluniau amaeth-amgylcheddol a mynd i'r afael â’r argyfwng bioamrywiaeth
Mae Cynllun Ffermio Cynaliadwy Llywodraeth Cymru yn siapio dyfodol amaethyddiaeth. Mae’n rhaid i’r Cynllun gyflawni’r amcanion rheoli tir yn gynaliadwy a nodir yn Neddf Amaethyddiaeth Cymru 2023. Mae’r amcanion hyn yn cynnwys mynd i’r afael â newid hinsawdd, adfer bioamrywiaeth a hyrwyddo cynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.
Yn ogystal â chyflawni targedau bioamrywiaeth, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fydd y brif ffynhonnell o gefnogaeth gan y Llywodraeth i ffermwyr yng Nghymru, felly mae’n hollbwysig fod Llywodraeth Cymru yn creu fframwaith polisi a thaliadau sy’n gweithio’n dda.
Arian Cyhoeddus yn cael ei wario ar fanteision amgylcheddol
Mae RSPB Cymru wedi cynorthwyo a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru wrth iddynt ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Felly, pan fydd y cynllun yn cael ei gyflwyno ym mis Ionawr 2026, bydd yn defnyddio arian cyhoeddus i adfer a chynnal natur a’r amgylchedd i bob un ohonom - bydd hyn yn galluogi ffermwyr i gynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy wrth adfer bioamrywiaeth, mynd i’r afael â newid hinsawdd a gwneud ffermydd yn fwy gwydn a phroffidiol.
Mae’r gyllideb gyfredol ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru mewn perygl o gael ei herydu
Mae Cymru wedi cael oddeutu £340 miliwn y flwyddyn i’w wario ar amaethyddiaeth. Ond, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi penderfynu rhoi'r gorau i neilltuo cyllid ar gyfer amaethyddiaeth, ac yn ei gynnwys yn rhan o’r grant mawr mae Cymru yn ei gael gan Drysorlys y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn golygu nad oes sicrwydd y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi ffermio yng Nghymru, ac rydym ni’n poeni na fydd ffermwyr Cymru yn cael eu cefnogi’n ddigonol i allu helpu natur i adfer.
Mae Dadansoddiad Economaidd yn dangos bod angen £595K i gyllido ffermio sy’n gadarnhaol i fyd natur a chyflawni targedau hinsawdd ac adfer byd natur Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd peidio â chael cyllideb ddigonol yn cael effaith fawr ar fywyd gwyllt, ac ar y manteision eraill a geir gan natur.
Cymorth cyhoeddus yng Nghymru
Comisiynodd RSPB Cymru arolwg annibynnol gan Beaufort Research Limited i ddarganfod agweddau pobl at natur a bywyd gwyllt yng Nghymru. Canfu'r arolwg ar-lein (3-23 Mawrth 2025) o sampl gynrychioliadol o 1000 o oedolion (16+) o bob cwr o Gymru, fod 61% o oedolion Cymru yn credu bod effaith amgylcheddol y bwyd maen nhw'n ei brynu yn bwysig iddynt, tra mai dim ond 14% sy'n anghytuno. Mae 68% yn cytuno y dylai gofyn i ffermwyr ddefnyddio'r cyllid cyhoeddus y maent yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru i ffermio mewn ffordd sydd o fudd i natur ac yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Dim ond 9% sy'n anghytuno.
Gweithredwch
Yn fuan, bydd trafodaethau am gyllideb Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i sut fydd arian yn cael ei ddyrannu ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn 2026/2027. Mae gan Gymru gyfle unigryw i arwain y ffordd at ffermio sy’n creu canlyniadau cadarnhaol i fyd natur, a dyfodol sy’n niwtral o ran hinsawdd, ond mae angen iddynt fod yn feiddgar drwy arwain a buddsoddi.
Os na fydd Llywodraeth Cymru yn dangos uchelgais, gall y goblygiadau i natur – ac i bob un ohonom – fod yn drychinebus. Mae angen i ni weithredu nawr!
Gwnewch rywbeth nawr