Feature

Lansiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru

Yn 2021 Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gyhoeddi Argyfwng Natur - ond a fydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a lansiwyd yn ddiweddar, yn wir helpu ffermwyr i wynebu'r her hon?

Curlew on moorland, North Wales
On this page

Cyhoeddwyd: 6 Ionawr 2026

Erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ei Chynllun Ffermio Cynaliadwy (CFfC) newydd a bydd yn defnyddio cannoedd o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn i gynorthwyo ffermwyr i drawsnewid i ddyfodol cynaliadwy. Dyfodol lle maent yn cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel wrth ofalu am yr amgylchedd ac yn addasu i newid yn yr hinsawdd. Wrth gyflawni'r nod hwn, mae'r cynllun hefyd wedi'i fwriadu i helpu ffermwyr Cymru i wneud cyfraniad sylweddol at adfer natur a helpu Cymru i gyflawni ei ymrwymiadau bioamrywiaeth 2030.

Ein meddyliau

Mae RSPB Cymru yn croesawu’r dull gweithredu hwn ac yn ei ystyried yn ddefnydd teg a chyfiawn o arian trethdalwyr mewn cyfnod o anghenion cynyddol ar y cyllid cyhoeddus cyfyngedig. Mae cynllun sy’n dda i natur yn dda i ni – rydym yn dibynnu ar y byd naturiol yn ddyddiol. Mae’n rhoi’r aer glân i ni anadlu, y dŵr i ni yfed, a’r pridd iach i dyfu bwyd maethlon.

Fodd bynnag, gyda Chymru yn un o'r gwledydd mwyaf dirywiol o ran natur yn y Byd, mae adfer natur a'r manteision mae hyn yn eu darparu yn her fawr. Ac mae'n gwneud synnwyr gan fod dros 80% o Gymru yn cael ei ffermio, bod gan ffermwyr gynllun sy'n addas i'r dasg.

Felly, pa mor addas fydd y CFfC i helpu ffermwyr i fynd ati â'r argyfwng natur?

Yr ymateb syml yw, er ei bod wedi bod mewn datblygiad ers bron i ddegawd, does dim ffordd i ni wybod.

Hyd yma, yr hyn sydd wedi cael ei lansio yw dim ond yr haen Gyffredinol (Sylfaenol) y cynllun. Er bod hyn yn gam bwysig i'r cyfeiriad cywir, ni fydd yn ddigonol ar ei ben ei hun i atal - heb sôn am wrthdroi - dirywiad byd natur. I wir helpu ffermwyr Cymru i adfer natur, rhaid i'r CFfC fynd yn bellach i'w cefnogi. Mae'n rhaid iddo:

  • Ddarparu'r cymysg cywir o gynefinoedd tir fferm ledled Cymru er budd rhywogaethau sydd yn eang ond yn dirywio. Mae hyn yn cynnwys cynefinoedd sydd yn gyfoethog mewn blodau a hadau, gwrychoedd a phyllau wedi'u rheoli'n dda. Gyda'r cymorth cywir, gall pob ffermwr yng Nghymru wneud hyn.
  • Sicrhau fod safleoedd natur bwysicaf Cymru, megis Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, yn cael eu rheoli a'u monitro'n effeithiol.
  • Wrthdroi dirywiad rhywogaethau sydd mewn perygl fel y Gylfinir, Brith y Gors a'r Gardwenynen Feinlais, trwy atal difodiant ac adfer poblogaethau.

I sicrhau'r canlyniadau cadarnhaol hyn dros natur, rhaid i'r cynllun gefnogi ffermwyr i gyflawni'r gweithredoedd cywir, yn y cyfuniadau cywir, yn y safleoedd cywir ac ar y raddfa gywir - gyda chyngor da, cydweithrediad tymor-hir a chyllid digonol. Mae ymchwiliad dros ddeng mlynedd Llywodraeth Cymru ar gynlluniau blaenorol wedi canfod eu bod wedi cael effaith gyfyngedig ar gyflawni canlyniadau amgylcheddol oherwydd eu bod wedi methu â darparu dull a dargedwyd fel hwn. Felly, mae'n ddealladwy bod ffermwyr, er eu hymdrechion gorau, wedi cael trafferth defnyddio'r cynlluniau hyn i fynd i'r afael â'r heriau difrifol sy'n wynebu natur.

Ar gefn lansiad yr haen Gyffredinol, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr haenau uwch o'i chynllun ar gael cyn gynted â phosibl; y byddent yn darparu dull uchelgeisiol a dargedwyd, a byddent yn cael eu hariannu'n ddigonol. Mae hyn yn hanfodol os yw ffermwyr ledled Cymru i gael eu cefnogi'n iawn i helpu adfer natur ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

 

Share this article