News
Diweddariad Bioddiogelwch i Gymru 2026: Blwyddyn brysur hyd yma!
Gyda marc cnoi amheus, ci canfod arbenigol a dulliau newydd o fonitro ynysoedd - mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i'r ...
8th Sep 2026
Gyda'r buddsoddiad cywir yn y mannau cywir, gall ffermio er lles natur helpu i adfer bywyd gwyllt, cryfhau busnesau fferm a meithrin Cymru fwy gwydn.
5 min read
Mae ymrwymiad Llywodraeth Cymru o £1 biliwn dros dymor y Senedd hon ar gyfer ffermio i’w groesawu. Mae’n cydnabod y rôl hanfodol y mae ffermwyr yn ei chwarae yng Nghymru, nid yn unig o ran cynhyrchu bwyd, ond hefyd o ran rheoli’r tirweddau, y bywyd gwyllt a’r adnoddau naturiol mae pob un ohonom yn dibynnu arnyn nhw.
Y cwestiwn allweddol nawr yw a fydd y buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n sicrhau’r manteision mwyaf i ffermwyr, i natur, ac i gymdeithas.
Nid yw ffermio er lles natur yn fater amgylcheddol arbenigol. Mae’n golygu gwneud yn siŵr bod cefn gwlad Cymru yn parhau i ddarparu dŵr glân, priddoedd iach, gwarchodaeth rhag llifogydd, storio carbon, a bywyd gwyllt ffyniannus ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy. Gall priddoedd iach, gwlyptiroedd wedi’u hadfer, glaswelltiroedd sy’n gyforiog o rywogaethau a chynefinoedd sy’n cael eu rheoli’n dda hefyd helpu i leihau’r perygl o lifogydd a gwella’r gallu i wrthsefyll tywydd eithafol amlach, gan gynnwys sychder a thanau gwyllt. Mae hefyd yn ymwneud â helpu ffermydd a chymunedau gwledig i ddod yn fwy gwydn yn wyneb effeithiau cynyddol newid yn yr hinsawdd. Pan fydd natur yn ffynnu, mae pob un ohonom yn ffynnu.
Darllenwch fwy am ffermio er lles natur yn ein hadroddiad newydd yma.
Mae ffermwyr yn ganolog i’r her hon. Mae dros 80% o Gymru yn cael ei ffermio, sy’n golygu bod ffermwyr mewn sefyllfa unigryw i helpu i fynd i’r afael â cholli byd natur yn ogystal â pharhau i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel. Ledled Cymru, mae llawer o ffermwyr eisoes yn rheoli cynefinoedd, yn adfer gwrychoedd, yn gwella ansawdd dŵr, ac yn creu lleoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r camau gweithredu hyn o fudd i fyd natur yn ogystal hefyd â helpu i ddatblygu ffermydd a chymunedau gwledig sy’n fwy cydnerth.
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw’r adnodd allweddol ar gyfer cefnogi’r newid hwn. Mae’n cydnabod bod gan ffermwyr, ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd, rôl bwysig o ran sicrhau manteision ehangach i’r cyhoedd drwy’r ffordd maen nhw’n rheoli eu tir. Mae’r Cynllun yn darparu fframwaith ar gyfer gwobrwyo ffermwyr sy’n gweithredu dros natur, hinsawdd a dŵr, gan gynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy ar yr un pryd. Gall mesurau syml, fel torri gwrychoedd bob yn ail flwyddyn, cynnal cynefinoedd sydd eisoes yn bodoli a gwella’r gwaith o reoli tir, wneud gwahaniaeth sylweddol o’u mabwysiadu ar raddfa fawr.
Fodd bynnag, os yw’r Cynllun am sicrhau gwerth gwirioneddol i drethdalwyr a chanlyniadau ystyrlon er lles natur, rhaid iddo wneud mwy nag ariannu gweithgarwch. Rhaid iddo gefnogi’r camau cywir, yn y mannau cywir ac ar y raddfa gywir.
Nid yw pob cam gweithredu o ran yr amgylchedd yn sicrhau’r un canlyniadau ym mhob man. Er mwyn gwrthdroi’r broses o golli natur, rhaid cyfeirio cyllid yn benodol lle gall gael yr effaith fwyaf. Mae profiad o gynlluniau blaenorol wedi dangos bod canlyniadau ar eu cryfaf pan fydd cymorth yn benodol, wedi’i gynllunio’n dda ac wedi’i gefnogi gan gyngor arbenigol (dolen i’r adroddiad).
Mae’r Cynllun wedi dechrau’n dda, gydag oddeutu hanner ffermwyr Cymru’n cofrestru ar ei gyfer a dwy ran o dair o dir Cymru dan reolaeth. Fodd bynnag, yn y pen draw dylid mesur llwyddiant yn ôl yr hyn y mae’n ei gyflawni ar lawr gwlad: helpu ffermwyr i gynnal a chreu brithwaith cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, gwella cyflwr safleoedd natur pwysicaf Cymru, gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, a chefnogi proses adfer rhywogaethau sydd dan fygythiad fel y Gylfinir. Dyma’r canlyniadau y gall ffermwyr eu cyflawni, ond dim ond gyda’r gefnogaeth, y cymhellion a’r sicrwydd hirdymor cywir.
Mae buddsoddi mewn ffermio er lles natur yn golygu mwy na dim ond gwarchod bywyd gwyllt. Mae’n fuddsoddiad yng ngwydnwch Cymru yn y dyfodol, gan helpu i sicrhau’r systemau naturiol sy’n sail i gynhyrchu bwyd, cefnogi cymunedau, a chryfhau’r economi wledig.
Mae’r ymrwymiad o £1 biliwn yn gam pwysig ymlaen, ond nid yw’n ddigon o bell ffordd o ran yr hyn sydd ei angen i adfer byd natur ledled Cymru. Canfu’r adroddiad diweddar Scale of Need, a gomisiynwyd gan RSPB Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaethau Natur Cymru, fod angen tua £594 miliwn y flwyddyn ar gyfer ffermio a rheoli tir i gyflawni uchelgeisiau natur a hinsawdd Cymru (dolen i’r adroddiad).
Mewn sefyllfa lle mae swm sylweddol is o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth, mae’n hanfodol bod pob punt yn cael ei buddsoddi lle gall gael yr effaith fwyaf. Dylai’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn cael ei gyfeirio at y camau gweithredu sy’n sicrhau’r enillion mwyaf i fyd natur, hinsawdd a chymdeithas, gan gefnogi busnesau fferm cynaliadwy ar yr un pryd.
Os yw Cymru am gyflawni ei hymrwymiadau o ran yr amgylchedd a hinsawdd, rhaid i gyllideb nesaf Llywodraeth Cymru roi blaenoriaeth i gau’r bwlch hwn yn y cyllid.
O’i wneud yn iawn, gall Cymru ddangos sut mae ffermio cynhyrchiol ac adfer natur yn mynd law yn llaw. O beidio â’i wneud yn iawn, rydym mewn perygl o golli cyfle unwaith mewn oes i wrthdroi’r dirywiad ym myd natur, cryfhau busnesau fferm, a chreu Cymru iachach, fwy cydnerth a chyforiog o natur ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.