News
The Big Garden Birdwatch 2026 results are in!
We reveal the Birdwatch 2026 results and discuss new guidance for feeding our garden birds.
10th Apr 2026
Dechreuodd cynllun Presgripsiynau Natur ar Ynysoedd Shetland yn 2018, a arweiniodd at gynllun peilot llwyddiannus yng Nghaeredin. Yn 2023, cafodd ei ddatblygu ar draws Lloegr, a drwy garedigrwydd chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, lansiwyd y cynllun yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
5 min read.jpg)
Mae tystiolaeth gref yn dangos bod treulio amser yn natur yn gallu lleihau straen a gorbryder tra'n gostwng pwysedd gwaed ac yn hybu imiwnedd drwy gynyddu gweithgarwch corfforol.
Mae Presgripsiynau Natur yn ffordd non-feddygol, arloesol ac am ddim i'w defnyddio, i helpu bobl wella eu hiechyd a'u lles drwy weithgareddau hygyrch, hunan-arwain, y gellir eu gwneud o'r cartref, ar eu pennau eu hunain neu gyda eraill; ac maent yn anelu at greu cysylltiadau parhaol gyda natur.
Mae’n gallu bod mor syml â gwrando ar sŵn adar yn canu. Mae’r presgripsiynau’n cynnwys calendr o syniadau syml er mwyn helpu i bobl sylwi ar y natur sydd o’u cwmpas.
Er dim ond yn fis Gorffennaf a lansiwyd y cynllun yng Nghymru, rydym wrth ein bodd bod sefydliadau iechyd ledled de Cymru wedi croesawu ein menter Presgripsiwn Natur. Trwy garedigrwydd chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, mae RSPB Cymru wedi hyfforddi dros 100 o unigolion o bron i 20 Practis Feddygon Teulu a sefydliadau iechyd ledled Caerdydd a Chasnewydd, ar sut i wella iechyd a lles trwy gysylltu pobl â natur. Mae dros 3,500 o daflenni eisoes wedi cael eu dosbarthu i 35 o bartneriaid gwahanol gyda mwy ar y gweill.
Bydd hyfforddiant pellach yn cael ei gyflwyno yn Sir y Fflint, Abertawe, Wrecsam, gogledd Powys a Bro Morgannwg dros y misoedd nesaf. Rydym yn credu'n gryf y dylai natur fod i bawb ac felly rydym hefyd yn cynhyrchu llyfrynnau ar gyfer y rhai yn y gymuned glyw a'r rhai sy'n anabl o glyw, yn ogystal â fersiynau sy'n gyfeillgar i bobl â dementia ac i deuluoedd/'Flying Start'. Am fwy o wybodaeth, ewch i Nature Prescriptions: connecting to nature to boost health and wellbeing.
Os ydych chi’n gweithio i sefydliad sy’n cefnogi llesiant, ac mae gennych ddiddordeb mewn cynnig Presgripsiynau Natur RSPB, cysylltwch â: natureprescriptions@rspb.org.uk.