Gorau po gyntaf y bydd y targedau natur yn cael eu cyflwyno er lles bywyd gwyllt Cymru
Mae RSPB Cymru yn croesawu addewid Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil ar Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth – rydym wedi bod yn ymgyrchu am ddeddfwriaeth o'r fath ers blynyddoedd lawer.

Cyhoeddwyd: 13 Maw 25
Pwnc: Addewid Llywodraeth Cymru i gyfwlyno Bil ar Lywodraethu Amgylcheddol.
Er gwaethaf yr holl ymrwymiadau lleol a rhyngwladol i fynd i’r afael â'r argyfwng hinsawdd, mae cryn dystiolaeth yn dangos bod sefyllfa bywyd gwyllt yng Nghymru yn gwaethygu: allan o’r 220 rhywogaeth a gafodd eu hasesu, fe wnaeth Adar o Bryder Cadwraethol Cymru RSPB Cymru roi 60 ohonynt ar y Rhestr Coch (27 o’r rhain oedd ar y rhestr yn dilyn asesiad 2002), a dengys adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2023 bod gostyngiad cyfartalog o 20% wedi bod yn nifer y rhywogaethau daearol a dŵr croyw dros y 30 mlynedd diwethaf.
Mae angen cyflwyno targedau bioamrywiaeth sy’n rhwymol mewn cyfraith er mwyn gwneud gweinidogion yn atebol am wella sefyllfa natur - fel y mae gweinidogion yn atebol am gyflawni ein targed cyfreithiol Sero Net. Bydd hyn yn sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael mwy o sylw yn y Llywodraeth, ac yn annog pob sector i weithredu. Dangosodd arolwg diweddar Omnibus1, a gomisiynwyd gan RSPB Cymru, gefnogaeth gref gan y cyhoedd i dargedau adfer natur cyfreithiol ac i fwy o weithredu gan y llywodraeth i fynd i'r afael â'r argyfwng natur.
Mae dau adroddiad diweddar – gan Archwilio Cymru a Phwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd (Pwyllgor NHAS) – yn tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu bioamrywiaeth yng Nghymru, ac yn amlinellu’r angen i gynnwys uchelgais ac atebolrwydd yn y gwaith o adfer natur:
Mewn adroddiad am yr effaith y mae dyletswydd awdurdodau cyhoeddus dros fioamrywiaeth wedi ei chael ar y sefyllfa, mae Archwilio Cymru yn nodi nad yw’r argyfwng natur yn cael ei drin fel blaenoriaeth ddigonol. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod ychydig o sôn am fioamrywiaeth ym mholisi ehangach Llywodraeth Cymru, ond bod llai o bwyslais wedi ei roi ar fioamrywiaeth ar lefel genedlaethol o’i gymharu â datgarboneiddio (maes sydd yn cael ei arwain gan darged Net Sero sy’n rhwymol mewn cyfraith). Canfu’r adroddiad hefyd bod materion ariannol a diffyg adnoddau yn rhwystro awdurdodau lleol rhag cyflawni eu dyletswydd, ac nad oes digon o waith yn cael ei wneud i fonitro a gorfodi cydymffurfiaeth â’r ddyletswydd. Ar ben hynny, mae peidio â chael targedau bioamrywiaeth yn golygu nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu asesu’r effaith gyffredinol y mae’r ddyletswydd yn ei chael ar ddirywiad mewn bioamrywiaeth.
Yn dilyn yr ymchwiliad, fe wnaeth y Pwyllgor NHAS feirniadu'r Llywodraeth am fethu â gweithredu’n gyflym yn unol â’i ymrwymiadau i wrthdroi colli bioamrywiaeth erbyn 2030. Mae adroddiad y Pwyllgor yn cynnwys argymhellion ar sut i gynyddu graddfa a chyflymder y mentrau sydd eisoes yn bodoli, yn ogystal â gwella gofynion cyfreithiol y Bil arfaethedig ar adferiad natur. Cafodd ymateb Llywodraeth Cymru ei gyhoeddi ym mis Mawrth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn nifer o’r argymhellion, ac wedi ymrwymo i gyhoeddi mwy o fanylion ar y ffordd y byddan nhw’n mynd ati i gyflawni’r targed rhyngwladol ‘30 erbyn 30’, i ddarparu Cynllun Gweithredu Adfer Natur wedi ei ddiweddaru a strategaeth cyllid newydd; rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn y prosesau hyn a chynorthwyo gyda’r gwaith o roi pwyslais cliriach ar wella’r ffordd y mae’r targedau’n cael eu cyflawni. Wedi dweud hyn, siomedig oedd gweld bod y Llywodraeth wedi gwrthod nifer o argymhellion y Pwyllgor ar y Bil newydd, gan gynnwys rhoi prif darged adfer natur yn nheitl y Bil, a gosod amserlen uchelgeisiol i gyflwyno holl dargedau bioamrywiaeth Cymru drwy is-ddeddfwriaeth. Rydym yn disgwyl i’r rhain fod yn brif bwyntiau trafod pan fydd y Ddeddf yn cael ei rhoi gerbron y Pwyllgor yn y misoedd nesaf.
1 - Cynhaliwyd yr arolwg gan Beaufort Research Limited a chynhaliwyd gwaith maes ar gyfer yr arolwg rhwng 3 a 23 Mawrth 2025. Cwblhawyd cyfanswm o 1,000 o gyfweliadau ar-lein, gyda'r canlyniadau'n gynrychioliadol o'r boblogaeth oedolion (16+ oed) yng Nghymru.