News
The Big Garden Birdwatch 2026 results are in!
We reveal the Birdwatch 2026 results and discuss new guidance for feeding our garden birds.
10th Apr 2026
Mae lansio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn ddatblygiad pwysig yn y ffordd caiff arian cyhoeddus ei ddefnyddio i gefnogi ffermio yng Nghymru.
5 min read
Bwriad y cynllun hir disgwyliedig yw defnyddio cannoedd o filiynau o bunnoedd bob blwyddyn i helpu ffermwyr Cymru i bontio i ddyfodol cynaliadwy lle maen nhw'n cynhyrchu bwyd ochr yn ochr â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Rydym yn croesawu'r dull gweithredu hwn gan nad yw polisïau na thaliadau ffermio yn y gorffennol wedi cefnogi na buddsoddi'n ddigonol mewn ffermio sy'n cydbwyso cynhyrchu bwyd a natur. Mae hyn wedi golygu bod cyflwr a maint ein bioamrywiaeth a'n hadnoddau naturiol wedi lleihau'n sylweddol.
Dylai pob un ohonom fod yn poeni am sefyllfa byd natur yng Nghymru ar hyn o bryd oherwydd mae gan natur yr hawl gynhenid i ffynnu ac mae’n rhoi llu o fanteision amgylcheddol hanfodol i ni, gan gynnwys yr aer rydym yn ei anadlu a’r dŵr rydym yn ei yfed. Newid hinsawdd a cholli byd natur yw'r bygythiadau mwyaf i gynhyrchu bwyd domestig hefyd. Mae cynllun sy'n defnyddio arian cyhoeddus i fuddsoddi mewn ffermio sy'n mabwysiadu dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â'r heriau hyn yn ffordd dda iawn o ddefnyddio arian cyhoeddus ac yn hanfodol i gydnerthedd amaethyddiaeth a llesiant ein cenhedlaeth ni a chenedlaethau'r dyfodol.
Er bod lansiad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gam pwysig yn y cyfeiriad iawn ac y bydd yn helpu ffermwyr i bontio at reoli tir yn gynaliadwy, ni fydd hyn ar ei ben ei hun yn ddigon i stopio – heb sôn am wrthdroi – y dirywiad mewn natur, nac ymateb yn ddigonol i effeithiau cynyddol newid hinsawdd. Er mwyn cefnogi ffermwyr o Fôn i Fynwy i adfer byd natur, sy'n cynnwys rhoi hwb i gynyddu niferoedd rhywogaethau cyffredin, rheoli ein safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf (gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig), ac achub ein rhywogaethau sydd dan y bygythiad mwyaf, rhaid i'r cynllun fynd ymhellach.
Mae hi’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid gwledig i ddatblygu ac i weithredu gweddill y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar frys (cyn diwedd 2026) ac i sicrhau bod y cynllun yn ffordd effeithiol o hyrwyddo pontio ffermio yng Nghymru i ddyfodol cynaliadwy. Ar gyfer byd natur, mae hyn yn golygu:
Sector bwyd a ffermio Cymru fydd allyrrydd domestig mwyaf Cymru o nwyon tŷ gwydr erbyn canol y 2030au. Ar ôl cael gwared ar y gofyniad am 10% o orchudd coetir, a oedd i fod i gefnogi ffermio i helpu i gyrraedd targedau hinsawdd, mae hi’n hanfodol hefyd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i sefydlu (erbyn diwedd 2026) sut bydd y cynllun nawr yn sicrhau bod ffermio yn gwneud y cyfraniad gofynnol a theg at fynd i'r afael â heriau newid hinsawdd.
Mae’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhoi cyfle unigryw i Gymru sefydlu cynllun teg a chyfiawn sy’n buddsoddi arian cyhoeddus mewn ffermio a rheoli tir yn gynaliadwy i fynd i’r afael â rhai o'r heriau mwyaf sydd o’n blaenau. Am y rheswm hwn, rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i adolygu'n barhaus effeithiolrwydd pob agwedd ar y cynllun o'i lansio ac i wneud newidiadau i ofynion y cynllun a'r cymhellion ariannol yn ôl yr angen i sicrhau gwerth am arian a chanlyniadau ac amcanion y cynllun