Feature

Diogelu Grugieir Duon gyda’r Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Rhywogaethau

Ydych chi erioed wedi clywed cri fyrlymus unigryw Grugiar Ddu gwryw wrth iddo ddechrau ar ei ddefod paru blynyddol (sy’n cael ei alw’n lekking yn Saesneg)? Neu hyd yn oed wedi bod yn ddigon ffodus i weld un o'r adar trawiadol hyn yn eu cynefin ar yr ucheldir?

A lone Black Grouse looking striking as they walk across a frosty moorland.
On this page

Pam y Grugieir Duon?

Cyhoeddwyd: 8 Awst

Eleni, mae gwirfoddolwyr o Rwydwaith Gwirfoddolwyr Rhywogaethau’r RSPB wedi mentro allan i rostiroedd gogledd Cymru yn nhywyllwch cynnar y wawr, i geisio cael cipolwg ar berfformiad cyfareddol y Grugieir Duon gwryw sy’n paru.

Mae'r teithiau hyn ar godiad haul i gyd yn digwydd am reswm pwysig - er mwyn cyfrif y grugieir sy’n paru bob blwyddyn. Mae'r arolygon hyn yn y gwanwyn yn helpu i amcangyfrif niferoedd poblogaeth y rhywogaeth drawiadol hon sy’n dirywio. Maent yn rhan hanfodol o Brosiect Adfer Grugieir Duon yr RSPB, a ddechreuodd yn y 1990au.

Bydd Grugieir Duon sy’n ceisio paru yn cael eu cyfrif yn ofalus iawn er mwyn osgoi tarfu ar yr adar. Mae ein tîm ymroddedig o wirfoddolwyr wedi cael eu hyfforddi’n arbennig ddechrau'r gwanwyn i baratoi ar gyfer yr arolygon. Ar ddiwrnod y cyfrif, mae syrfewyr yn cyrraedd yn dawel cyn y wawr, yn gwylio o bellter diogel gan ddefnyddio binocwlars neu ysbienddrych, ac yn ymweld â phob safle unwaith yn unig yn ystod y tymor prysur. Drwy wneud hyn, gallwn ddysgu mwy am boblogaethau Grugieir Duon, gan wneud yn siŵr nad ydym yn amharu ar ymddygiad naturiol yr aderyn ar yr un pryd.

Anecdotau Gwirfoddolwyr

Clywn oddi wrth ddau wirfoddolwr sy'n helpu i achub un o rywogaethau mwyaf bregus Cymru.

Bore hyfryd yng nghefn gwlad Gogledd Cymru yn helpu byd natur!

Fe gyrhaeddon ni'r safle awr cyn iddi wawrio, ac er syndod i ni, fe glywon ni sŵn unigryw man paru yn syth. Fe wnaethon ni symud yn araf tuag at y sŵn a'n safle nesaf ond, yn anffodus, welson ni ddim byd. Fodd bynnag, cawson ni fwynhau golygfa hyfryd o’r haul yn codi, cwrdd â defaid chwilfrydig a chŵn cyfeillgar, a chawson ni glywed côr hyfryd y bore bach yn llawn synau'r Dryw; y telor; y fronfraith; yr Aderyn Du a’r Titw Tomos Las. Bore hyfryd yng nghefn gwlad gogledd Cymru yn helpu byd natur!

Kathryn McGrath – gwirfoddolwr

 

Profiad gwych i fod yn rhan ohono

Roedd hi'n dal yn dywyll pan gyrhaeddon ni'r safle a dechrau cerdded ar draws y rhosydd i gyrraedd ein parth dynodedig i gyfrif y grugieir. Roeddwn i'n gyfarwydd â’r tir ar ôl cynnal arolygon Gylfinirod ychydig wythnosau'n gynharach, ond roedd hi'n anodd cerdded drwy lwyni glaswellt a thwmpathau o fwsogl yng ngolau dydd - heb sôn am gyda dim ond golau tortsh pen! Er hynny, fe wnaethon ni gyrraedd ein parth mewn pryd i weld y goleuni cyntaf ar y gorwel a dilyn y llwybr a oedd wedi cael ei fapio ymlaen llaw, gan gadw'r llygaid a'r clustiau ar agor ar gyfer unrhyw olion o'r adar hynod.

Yn ystod tri chwarter cyntaf ein harolwg, welson ni na chlywon ni ddim byd, ac roeddwn i’n dechrau poeni y byddai'n rhaid inni fynd i’r cyfarfod ar ôl yr arolwg yn waglaw. Yna, ychydig gannoedd o fetrau o ddiwedd ein parth, fe wnaethon ni ei glywed. Y byrlymu nodweddiadol, fel dŵr yn berwi mewn padell, ac yna'r sgrech “a beth?!”. Roedd o leiaf dau yn ceisio paru yn rhywle! Fe wnaethon ni anelu at godiad bach yn y tir i gael yr olygfa orau bosibl a syllu drwy ysbienddrych nes bod ein llygaid yn dyfrio. Ond wnaethon ni ddim hyd yn oed gweld arlliw o’r aeliau coch llachar hynny. Ar ôl munudau lawer, fe wnaethon ni roi'r ffidil yn y to a symud ymhellach ymlaen - a chlywed sŵn man paru arall! Unwaith eto, fe wnaethon ni archwilio pob twmpath glaswelltog a phob darn o rug, ond yn aflwyddiannus. Ar ôl cyrraedd pen draw ein parth, aethon ni’n ôl i'r car. Roedden ni a'r daflen gofnodi wedi derbyn erbyn hynny mai'r cyfan a gawson ni oedd cyfeiriad y synau, a'r pwyntiau lle'r oedden ni wedi'u clywed. Roedd yr haul bron wedi codi’n llwyr erbyn hyn, ac roedd goleuni euraidd yn taro ar fynyddoedd pell Eryri, gan addo diwrnod poeth i ddod. Er na welais unrhyw rugiar, roedd yn dal yn brofiad gwych i fod yn rhan ohono, yn achos pwysig i gyfrannu ato, ac roedd yn bleser hyd yn oed clywed y gri enwog honno yn y gwyllt. Efallai y caf i fwy o lwc y flwyddyn nesaf.

Kate Harrison - Gwirfoddolwr

Dyma sut y gallwch chi gymryd rhan

Dechreuodd prosiect Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Rhywogaethau yr RSPB yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ond diolch i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, mae'r Rhwydwaith bellach wedi ehangu i Gymru a'r Alban.

Os ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael eich ysbrydoli ac yr hoffech gymryd rhan mewn prosiectau adfer rhywogaethau neu unrhyw rolau gwirfoddoli eraill, ewch i dudalen Cyfleoedd Gwirfoddoli RSPB.

Os na allwch chi ddod o hyd i'r math o rôl wirfoddoli rydych chi'n chwilio amdani o'n rhestr o gyfleoedd, cysylltwch â ni er mwyn i ni allu eich helpu i ddod o hyd i'r rôl iawn i chi! Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol drwy anfon e-bost at SpeciesVolunteerNetwork@rspb.org.uk

Ariannu a chymorth

Mae prosiect adfer y Grugieir Duon yn bosibl diolch i'r Gronfa Rhwydwaith Natur, a gynhelir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru (NRW).

Partneriaid RSPB sy'n cymryd rhan yn gyfrifon y Grugieir Duon yw NRW, National Landscapes, a COFNOD, Gwasanaeth Gwybodaeth Amgylcheddol gogledd Cymru.

Share this article