News

Diogelu dyfodol y Gylfinir ar draws Rhostiroedd Gogledd Cymru

Mae cri swynol y Gylfinir yn un o synau nodweddiadol ucheldiroedd Cymru. Ond ar hyd a lled y DU, mae niferoedd yr aderyn eiconig hwn yn dirywio’n ddifrifol.

5 min read
Curlew on moorland, North Wales
On this page

Sefyllfa ansefydlog y Gylfinir

Mae’r niferoedd bridio wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf, ac os na wnawn ni weithredu ar frys, gallai’r Gylfinir ddiflannu fel aderyn bridio yng Nghymru erbyn 2033.

Fodd bynnag, ar draws tirweddau ucheldirol Ysbyty Ifan a Hiraethog, mae gobaith o hyd.

Mae Rhostiroedd Gogledd Cymru yn cynnal y boblogaeth fridio fwyaf sydd ar ôl yng Nghymru, sy’n cyfrif am tua 10% o boblogaeth y Gylfinirod yn genedlaethol. Mae’r ardal hon yn cwmpasu tua 8,500 hectar o dir ffermio, rhostir a mawndir, gan ddarparu’r clytwaith o gynefinoedd sydd eu hangen ar y Gylfinir i fridio. Tir agored ar gyfer nythu, mannau gwlyb ar gyfer bwydo cywion, ac ardaloedd sy’n cael eu rheoli’n ofalus ar gyfer pori.

Er gwaethaf hyn, mae llwyddiant bridio yn aml yn rhy isel i gynnal y boblogaeth. Mae’r pwysau ar gynefinoedd a chyfraddau ysglyfaethu uchel yn golygu bod llawer o nythod yn methu cyn y gall cywion fagu plu’n llawn. Heb ymyrraeth wedi’i thargedu, gallai cri’r Gylfinir ddistewi’n llwyr ar draws y bryniau hyn.

Gweithio gyda'n gilydd dros y Gylfinir

Mae Cri’r Gylfinir yn brosiect tair blynedd a arweinir gan RSPB Cymru sydd â’r nod o wrthdroi dirywiad y rhywogaeth eiconig hon ar Rostiroedd Gogledd Cymru. Mae’n adeiladu ar y gwaith a gyflawnwyd yn flaenorol drwy brosiect CurlewLIFE yn ardal Ysbyty Ifan a Hiraethog.

Mae’r prosiect yn cydweithio’n agos â dros 80 o ffermwyr a thirfeddianwyr lleol y mae Gylfinirod yn bridio ar eu tiroedd, ochr yn ochr â rhwydwaith cynyddol o wirfoddolwyr sy’n helpu i fonitro, gwarchod nythod, ac ymgysylltu â’r gymuned.

Mae ffermwyr yn ganolog i’r ymdrech hon, a thrwy fesurau rheoli cynefinoedd wedi’u targedu – gan gynnwys pori priodol, rheoli brwyn a blocio ffosydd – maen nhw’n helpu i greu’r math o amodau sydd eu hangen ar y Gylfinir i ffynnu.

Mae angen cymuned i achub y Gylfinir

I sawl cenhedlaeth, mae cri’r Gylfinir wedi bod yn rhan o fywyd ar Rostiroedd Gogledd Cymru.

Mae angen cymuned i achub y Gylfinir, a thrwy weithio gyda ffermwyr, gwirfoddolwyr a phartneriaid, mae’r prosiect yn sicrhau y bydd modd clywed ei gri gyfarwydd ar draws Rhostiroedd Gogledd Cymru am genedlaethau i ddod.

Cyllid

Mae prosiect Cri’r Gylfinir wedi bod yn bosibl diolch i gyllid gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddarparwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.

Share this article