News
New study shows long-lasting effects of bird flu on Gannet colonies
Two of the world’s largest colonies may not recover from the impacts until 2041 at the earliest.
3rd Jul 2026
Ar Ddydd Mercher 17 Medi, daeth pobl o bob cwr o Gymru i Gaerdydd i ddangos eu cefnogaeth am weithredu brys er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd
5 min read
Roedd y Lobi Dorfol Gweithredwch Nawr am y Dyfodol yn gyfle i etholwyr eistedd gyda'i Aelodau o'r Senedd a chodi’r materion natur ag hinsawdd oedd bwysicaf iddyn nhw.
Cydweithion ni gyda Climate Cymru a llawer o sefydliadau ac unigolion eraill i gynllunio'r digwyddiad. Cafodd cyfarfodydd â ASs ei gynnal drwy gydol y dydd ac roeddent yn falch o weld cynrychiolwyr o ledled y wlad yn bresennol.
Yn ogystal â'r Lobi, cynhaliwyd gweithdai creadigol, digwyddiad panel gyda AS's a sgyrsiau gan bobl ifanc.
Cafodd y cyfranogwyr eu hannog i gymryd selfie a 'chodi gwrychyn' trwy ychwanegu eu negeseuon o obaith ar gyfer dyfodol ein bywyd gwyllt a’n mannau gwyllt i ein gosodiad ‘adenydd gobaith’

Mae digwyddiadau fel hyn yn ein hatgoffa nad yw democratiaeth yn ymwneud yn unig ag etholiadau — ond hefyd mae'n ymwneud â throi i fyny, codi llais a gwneud ein harweinyddion yn atebol.
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried penderfyniadau hollbwysig sy’n ymwneud â ffermio, natur, yr hinsawdd a’r gymuned, ac mae etholiad y Senedd ar y gorwel. Os ydych chi'n poeni am y dyfodol - am fywyd gwyllt, swyddi gwyrdd, egni adnewyddadwy neu eich cymuned - mae eich llais yn bwysig"
Diolch i bawb oedd yn bresennol a chododd eu lleisiau dros natur.