Feature

Pam fod Côr y Bore Bach eleni’n werth codi’n gynnar amdani

Mae yna rywbeth arbennig am fod ar eich traed yn ddigon cynnar i glywed y dydd yn dechrau.

A person walking near trees on a misty dawn morning.
On this page

Cyhoeddwyd: 30 Ebrill

Wrth i’r haul godi, mae tawelwch y bore bach yn ildio’n raddol i un o synau mwyaf ysbrydoledig natur — côr y bore bach.

Dydd Sul, 3 Mai, yw Diwrnod Rhyngwladol Côr y Bore Bach — cyfle blynyddol i oedi a gwerthfawrogi’r digwyddiad naturiol rhyfeddol hwn. Ble bynnag yr ydych, o strydoedd y ddinas i dirweddau gwledig, does dim angen teithio’n bell i’w brofi.

Beth yw Côr y Bore Bach?

Er ei fod yn swnio fel cymysgedd llawen o ganeuon, mae rhythm naturiol i gôr y bore bach. Adar fel y Robin Goch a’r Aderyn Du sy’n dechrau’n aml, gan eu bod yn gallu gweld mewn golau gwan. Wrth i’r awyr oleuo, mae rhywogaethau eraill yn ymuno, gan greu corws cyfoethog ac amrywiol.

Nid ar hap y mae’r canu hwn. Mae’n rhan bwysig o ymddygiad adar, gan helpu i amddiffyn tiriogaeth ac i ddenu cymar yn ystod y tymor bridio.

Pam mae'n bwysig

Er y gall côr y bore bach deimlo’n dragwyddol, nid yw’n rhywbeth y gallwn ei gymryd yn ganiataol. Mewn rhai ardaloedd, mae cyfoeth y gân yn dirywio, gan adlewyrchu’r pwysau ehangach ar natur.

Gydag etholiadau’r Senedd ar y gorwel ar 7 Mai, mae’n bwysig cofio fod y penderfyniadau a wneir yn y blynyddoedd nesaf am gael effaith uniongyrchol ar ddyfodol bywyd gwyllt Cymru. O ffermio er les natur i gynllunio trefol, mae’r polisïau rydym yn eu cefnogi yn siapio’r cynefinoedd y mae adar yn dibynnu arnynt.

Mae clywed Ehedydd dros gae neu Frych y Coed yn canu mewn parc lleol yn arwydd o amgylchedd iach — un sydd angen ei ddiogelu a’i gryfhau.

Lighthouse at South Stack
South Stack
Etholiadau'r Senedd 2026

Does gan fyd natur ddim pleidlais - ond mae gennych chi. Dyma eich cyfle i godi llais dros fywyd gwyllt yng Nghymru.

Sut i gymryd rhan

Nid oes angen gwybodaeth nac offer arbennig i fwynhau côr y bore bach. Dyma rai ffyrdd syml o’i fwynhau:

  • O’r ffenestr: Agorwch y ffenestr yn gynnar a gwrandewch o’ch cartref
  • Camwch allan: Ewch allan i’r ardd, y balconi neu’r drws ffrynt gyda diod gynnes
  • Archwiliwch yn lleol: Ymwelwch â man gwyrdd neu warchodfa natur leol os gallwch

Ble bynnag yr ydych, mae côr y bore bach yn hygyrch, yn rhad ac am ddim, ac ar gael i bawb.

Rhannwch eich profiad

Hoffem glywed sut rydych chi’n mwynhau côr y bore bach eleni. Rhannwch eich lluniau, fideos neu eich meddyliau ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #ClwbCoryBoreBach a thagio @RSPBCymru i fod yn rhan o ddathliad ledled Cymru.

Share this article