Canlyniadau Gwylio Adar yr Ysgol 2025

'Diolch yn fawr' i bawb a gymerodd ran yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol 2025. Mae'r canlyniadau bellach ar gael, felly mae'n bryd gweld sut mae eich ysgol yn cymharu ag ysgolion eraill ledled y DU.

Three children sat on a wooden bench outside of their school.
Newydd ar gyfer 2025

Rydyn ni'n ei gwneud hi'n haws i'ch disgyblion ddefnyddio canlyniadau Gwylio Adar yr Ysgol i ddatblygu eu sgiliau trin data.

  • Rydyn ni wedi cynnwys y cyfartaledd cymedrig o adar a gofnodwyd yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol ar gyfer ein deg uchaf. Cofiwch, gallwch lawrlwytho data hanesyddol o'n tudalen adnoddau i gymharu.
  • Mae gennych wers trin data PowerPoint newydd, a gynlluniwyd gan TG Archifau. Defnyddiwch hon i addysgu'ch disgyblion i ddefnyddio adnodd siart bar ar-lein i gyflwyno canlyniadau eleni, neu greu graff llinell i gymharu niferoedd a gofnodwyd o adar dros y blynyddoedd diwethaf.

Pa aderyn ddaeth i'r brig?

Mae Gwylio Adar yr Ysgol yn rhoi cipolwg blynyddol ar sefyllfa rhai o'n hadar mwyaf poblogaidd ar dir ein hysgol. Edrychwch i weld y deg prif aderyn a welwyd yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol eleni. Sut mae'n cymharu â'r hyn a welsoch ar dir eich ysgol?

Ni fyddai'r arolwg hwn wedi bod yn bosibl heb i athrawon a disgyblion ddod yn ddinasyddion wyddonwyr am y diwrnod. Diolch!

1. Ysguthan

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 6.2

Ysguthanod yw'r colomennod mwyaf a’r rhai mwyaf cyffredin yn y DU. Maen nhw i'w gweld mewn trefi, dinasoedd a chefn gwlad. 

2. Aderyn Du

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 5.7

Mae’r Aderyn Du yn aderyn gardd cyffredin. Gwrandewch ar y gwryw yn canu, yn aml o ben coeden neu bot simnai.

3. Brân Dyddyn

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 4.8

Mae brain yn perthyn i deulu’r Corvidae, sy'n cynnwys Sgrech y Coed, Jac-dos, Ydfrain a Phiod. Sawl math o Corvidae ydych chi wedi'i weld?

4. Pioden

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 4.0

Gall yr adar mawr du a gwyn yma fod yn eithaf swnllyd ac mae ganddyn nhw alwad cras sy'n swnio fel rhywun yn chwerthin. Ydych chi wedi clywed un?

 

5. Aderyn y To

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 4.0

Mae Adar y To i'w gweld yn agos at bobl yn unig. Byddan nhw’n aml yn ymweld â bwydwyr adar ac efallai y byddwch yn eu gweld yn nythu o dan fondo tai.

6. Drudwen

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 4.0

Mae Drudwy yn gymdeithasol ac yn enwog am ymgynnull mewn heidiau mawr yn y gaeaf. 'Murmuriadau' yw’r enw a roddir ar y rhain ac maen nhw’n gallu cynnwys hyd at filiwn o adar.

7. Colomen Wyllt

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 2.9

Mae Colomennod Gwyllt yn gallu bod yn wahanol arlliwiau a lliwiau, ac maen nhw’n gyffredin mewn ardaloedd trefol ledled y byd.

8. Gwylan Benddu

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 2.7

Er ein bod fel arfer yn meddwl am lan y môr wrth feddwl am wylanod, mae Gwylanod Penddu yr un mor hapus i mewn yn y tir ag ydyn nhw wrth y môr.

9. Robin Goch

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 2.5

Oeddech chi'n gwybod bod y Robin Goch weithiau'n cael ei alw'n gyfaill i'r garddwr? Yn aml, mae’r Robin Goch yn dilyn garddwyr wrth iddynt balu, gan obeithio dal mwydod neu chwilod sy'n codi i’r wyneb wrth i’r pridd gael ei symud.

10. Titw Tomos Las

Nifer cyfartalog yr adar a gofnodwyd: 2.3

Mae Titw Tomos Las yn aderyn bach lliwgar gyda phlu glas, gwyrdd a melyn. Byddan nhw’n ymweld â bwydwyr adar ac yn defnyddio bocs adar.

Parhau i ddysgu drwy natur

Os gwnaethoch chi fwynhau digwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol, edrychwch ar Her Wyllt yr RSPB. Mae hwn yn gynllun gwobrwyo am ddim i ysgolion i helpu plant i ymgysylltu â natur trwy gyfleoedd dysgu ymarferol. Drwy gymryd rhan yn nigwyddiad Gwylio Adar yr Ysgol, rydych chi eisoes gam yn nes at ennill Gwobr Efydd. Fe welwch lawer mwy o weithgareddau, gan gynnwys syniadau ar gyfer creu mwy o le i fywyd gwyllt ar dir eich ysgol.

A group of school children being lead through a long grass meadow by their teacher.
Cofrestrwch ar gyfer Learning Through Nature, e-gylchlythyr Addysg tymhorol yr RSPB

Os ydych chi’n gweithio mewn ysgol neu yn y sector addysg ac yr hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am nwyddau, adnoddau a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i helpu wrth addysgu a dysgu, cofrestrwch ar gyfer ein e-gylchlythyr addysg tymhorol.