News
Newyddion bendigedig i natur Cymru!
Mae natur Cymru bellach yn gam mawr yn nes at adferiad, diolch i chi.
Mae natur Cymru bellach yn gam mawr yn nes at adferiad, diolch i chi.

Diolch i filoedd o ymgyrchwyr a chefnogwyr RSPB Cymru a gysylltodd â'u Haelodau o'r Senedd, mae natur Cymru bellach yn gam mawr yn nes at adferiad.
Hir bu’r aros am Ddeddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026. Roedd diffyg llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2020, sydd yn hanfodol os ydym am fynd i'r afael â'r argyfwng natur a gyhoeddodd y Senedd ei hun yn 2021. Er bod blynyddoedd wedi mynd heibio cyn pasio deddfwriaeth i lenwi’r bylchau hyn, mae’r Ddeddf, a gyhoeddwyd ddoe, yn cynnwys yr uchelgais sydd angen arnom ei weld i adfer natur.

Mae tair rhan i’r Ddeddf, ac mae pob un yn mynd i’r afael ag agwedd gwahanol.
Mae’r rhan gyntaf yn cynnwys egwyddorion amgylcheddol rhyngwladol yn neddfwriaeth Cymru, a fydd yn gweithredu i lunio polisi yng Nghymru, gan gynnwys:
Mae hyn yn golygu, fydd rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried effaith ar yr amgylchedd yn iawn wrth iddynt lunio polisïau neu wneud penderfyniadau newydd. Ni ellir trin diogelu'r amgylchedd fel rhywbeth i'w ystyried yn ddiweddarach bellach — rhaid ei gynnwys yn y broses benderfynu o'r cychwyn.
Mae’r ail ran yn creu Swyddfa Llywodraethu Amgylcheddol Cymru - corff gwarchod amgylcheddol a fydd yn gorfodi endidau i gydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol. Cymru oedd yr unig wlad yn y DU oedd heb greu corff gwarchod amgylcheddol parhaol ag annibynnol ers gadael yr UE. Mae'r hawl i bobl reportio unrhyw bryderon i'r OEGW bellach wedi ei sefydlu mewn cyfraith, gan ddiogelu mynediad at gyfiawnder amgylcheddol.
Mae’r drydedd rhan yn sefydlu fframwaith ar gyfer gosod targedau amgylcheddol rhwymol gyfreithiol, gan sicrhau y bydd Gweinidogion y dyfodol yn atebol am gyflwr natur.
Mae newidiadau i'r Bil, trwy ei chamau gwahanol, wedi gwella'r amddiffyniad amgylcheddol y mae'r Bil yn ei roi - newidiadau hanfodol a fydd yn effeithio'n bositif ar ein natur yn y blynyddoedd dilynol. Rydym yn falch bod y tri phrif ofyn a oedd yn rhan o'n e-deiseb y llynedd wedi ei gynnwys yn fersiwn derfynol y Bil, gan ddangos y dylanwad allwn ni gael wrth weithredu gyda'n gilydd.

Nid dyma’r diwedd ar y gwaith caled. Er yn uchelgeisiol, dim ond fframwaith yw’r ddeddf o hyd. Yn ystod y ddwy flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth Cymru’n datblygu cyfres o dargedau i ysgogi adferiad natur - a bydd RSPB Cymru’n eirioli’n gryf dros y newidiadau y mae natur eu hangen yng Nghymru.
Heb filoedd o bobl fel chi yn codi eich llais ac yn galw am weithrediad i ddiogelu ag adfer natur, ni fyddai'r llwyddiannau hyn yn bosibl. Diolch!