News

100 o wneuthurwyr ffilmiau ifanc yn dod at ei gilydd i greu Our Beautiful Wild

Mae dros 100 o bobl ifanc o bob cwr o’r DU wedi dod at ei gilydd i greu ffilm o’r enw Our Beautiful Wild, sy’n dangos y camau maen nhw’n eu cymryd ar gyfer byd natur a’r hinsawdd, a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Y bobl ifanc, rhwng 13 a 25 oed, oedd yn gyfrifol am ysgrifennu, cynhyrchu a golygu’r ffilm 20 munud. Darllenwch ymlaen i ddarganfod sut allwch chi ymuno â pherfformiad cyntaf y ffilm ar-lein ar 27 Tachwedd.

5 min read
A person operating a camera outdoors filming a group of people sat in the grass.
On this page

Neges o obaith

Mae Our Beautiful Wild yn canu’r larwm ar gyfer byd natur ond, yn y pen draw, mae hefyd yn cyfleu neges gadarnhaol o obaith a theimlad bod newid bob amser yn bosibl.

Daeth y bobl ifanc o amrywiaeth eang o gefndiroedd ledled y DU, ac roedd gan bob un ohonynt eu profiadau gwahanol o natur, a’u straeon unigryw eu hunain. Cawsant eu huno gan eu cariad at fyd natur, a’u hawydd i helpu i’w achub. 

Sgiliau a phrofiadau newydd

Doedd y rhan fwyaf o’r bobl ifanc a gymerodd ran erioed wedi creu ffilm fer o’r blaen, ac roedden nhw’n awyddus i gymryd rhan mewn creu rhywbeth newydd. Drwy weithdai ar-lein ac wyneb yn wyneb, a dosbarthiadau meistr gan arbenigwyr yn y diwydiant, fe ddysgon nhw amrywiaeth o sgiliau newydd: ysgrifennu sgriptiau, recordio trosleisiau, ffilmio a golygu. Cawson nhw gefnogaeth gan lu o enwogion, gan gynnwys Naomi Wilkinson, y cyflwynydd teledu plant, a’r actor, Cel Spellman.

Er hynny, y bobl ifanc eu hunain oedd yn gyfrifol am gymryd yr awenau a rheoli’r prosiect: ysgrifennu’r bwrdd stori, ffilmio 2,000 o fideos, a golygu fersiwn terfynol y ffilm. 

Young people brainstorming ideas on a wall.

“Prosiect angerddol”

Mae Tash Ballantyne yn aelod o grŵp llywio’r ffilm a chyngor ieuenctid yr RSPB. Dywedodd: “Mae’r ffilm hon wedi bod yn brosiect angerddol o’r cychwyn cyntaf. Nid er mwyn bod yn gyfarwyddwyr byd-enwog y gwnaethom ni greu’r ffilm hon. Cafodd y ffilm ei chreu oherwydd ein cariad at fyd natur, a’n hawydd i’w helpu.” 

Ychwanegodd: “Yr hyn y byddwn i’n ei ddweud wrth y bobl ifanc sy’n ei gwylio yw ‘Peidiwch â rhoi’r ffidil yn y to’. Mae gennym yr hawl i ddymuno dyfodol gwell i fyd natur, yn ogystal ag i ni ein hunain. Nid yw’r rhain yn annibynnol ar ei gilydd, a thrwy fod yn bositif, bydd newidiadau cadarnhaol yn siŵr o ddigwydd.”  

Bydd Our Beautiful Wild yn cael ei dangos mewn ysgolion, clybiau cymdeithasol a chartrefi ledled y DU, a’r gobaith yw y bydd miloedd yn rhagor o bobl ifanc yn cael eu hysbrydoli i weithredu dros fyd natur. Os hoffech chi gynnal eich dangosiad eich hun, darganfyddwch sut gyda’r pecyn adnoddau sgrinio isod.

Mynnwch eich pecyn adnoddau sgrinio

Young people checking their camera, working together in the woods.

Yn benderfynol o weithredu i achub byd natur

Mae Our Beautiful Wild yn dangos cenhedlaeth sy’n benderfynol o weithredu i achub byd natur ym mha bynnag ffordd y gallant, a chafodd ei chynllunio i gyd-fynd â chynhadledd COP28 ar newid yn yr hinsawdd a gynhaliwyd yn Dubai ar 30 Tachwedd–12 Rhagfyr 2023, ac yn dilyn yr adroddiad diweddar ar Sefyllfa Byd Natur, a ganfu fod bron i un o bob chwe rhywogaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban mewn perygl o ddiflannu’n llwyr.

Cofrestrwch nawr i gael eich lle ym mherfformiad ar-lein Our Beautiful Wild am 17:00 ar 27 Tachwedd 2023. Gwyliwch y rhaghysbyseb ar YouTube: gwyliwch ar YouTube.

Cefnogwyd y prosiect gan yr RSPB, WWF-UK, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr asiantaeth greadigol World Pencil, a nifer o lysgenhadon enwog. 

Mwy o wybodaeth

I ddarganfod mwy am Lleisiau Ifanc dros Natur a’n ffilm Our Beautiful Wild, ewch draw i wefan Achub Ein Hynysoedd Gwyllt.

Share this article