Advice
December's birds of the month
Five winter wonders to discover this festive season.
Gall yr adnodd hwn eich helpu i gyflawni eich nodau ymgyrchu drwy ganfod y bobl orau i ddylanwadu arnynt.

Ydych chi eisiau gwarchod bywyd gwyllt lleol sy’n cael ei fygwth gan gais datblygu newydd yn eich cymuned? Rydyn ni wedi llunio cyfres o ganllawiau Sut mae...i’ch helpu i sefydlu a rhedeg ymgyrch yn erbyn bygythiad datblygu, mawr neu fach. Yn y canllaw hwn rydyn ni’n archwilio mapio pŵer, techneg y gallwch ei defnyddio i nodi unigolion neu grwpiau a allai ddylanwadu ar y canlyniad.
Mae mapio pŵer yn adnodd y gallwch ei ddefnyddio i helpu eich grŵp ymgyrchu i ddeall pwy sydd â’r pŵer i helpu neu lesteirio eich ymgyrch. Wrth feddwl am fater eich ymgyrch, mae’n ddefnyddiol meddwl am bwy arall sydd â rhan yn y mater hwnnw, boed hynny oherwydd eu bod yn cytuno â chi neu oherwydd eu bod yn gwrthwynebu’r hyn rydych chi eisiau ei gyflawni. Yna mae hefyd yn bwysig meddwl faint o bŵer sydd gan y bobl hyn.
I ddechrau arni, cymerwch ddarn o bapur, a thynnu llinell fertigol fawr i lawr y canol. Yna, tynnwch linell lorweddol ar draws canol y llinell honno, gan greu grid. Mae’r llinell fertigol yn dangos faint o bŵer a dylanwad sydd gan bobl dros eich mater. Mae’r llinell lorweddol yn dangos a ydynt yn cefnogi neu’n gwrthwynebu safbwynt eich ymgyrch:

Gallai hyn gynnwys:
Mae croeso i chi ychwanegu unrhyw rai eraill y gallwch feddwl amdanynt. Ar ôl i chi lunio eich rhestr, dechreuwch eu gosod ar y map ar sail eu safle a’u dylanwad. Gellir dangos eu bod yn fwy neu’n llai dylanwadol neu gefnogol drwy eu rhoi ymhellach allan tuag at yr ymyl, neu’n nes at ganol y grid.
Mae’r blwch uchaf ar y dde yn dangos pobl sy’n ddylanwadol ac yn gefnogol i’ch ymgyrch. Mae’r rhain yn dargedau allweddol i chi siarad â nhw.
Mae’r blwch uchaf ar y chwith yn dangos pobl sy’n ddylanwadol ond sy’n gwrthwynebu eich ymgyrch. Meddyliwch pam mae’r bobl hyn yn eich gwrthwynebu, sut gallwch chi wrth-ddweud eu dadleuon ac efallai newid eu meddwl hyd yn oed.
Mae’r blwch isaf ar y dde yn dangos pobl sy’n gefnogol ond sydd heb lawer o ddylanwad. Rydych chi eisiau cyrraedd y bobl hyn gyda neges allweddol eich ymgyrch er mwyn iddyn nhw allu ymhelaethu arni yn eu rhwydweithiau eu hunain ac efallai cymryd rhan.
Mae’r blwch isaf ar y chwith yn dangos pobl sy’n gwrthwynebu ac nad oes ganddynt lawer o ddylanwad. Nid yw’r bobl hyn yn dargedau ar gyfer eich ymgyrch, ond gallai fod yn ddefnyddiol deall pam eu bod yn gwrthwynebu eich ymgyrch wrth i chi ddatblygu eich dadleuon.
Ar ôl i chi fapio eich rhanddeiliaid, dylai fod yn glir â phwy mae angen i chi gysylltu i symud eich ymgyrch ymlaen, a gweithredoedd pwy y mae angen i chi eu hystyried os ydych chi’n mynd i fod yn llwyddiannus yn eich nodau.
