Advice

Sut i ymateb i ymgynghoriad ar gynllun lleol neu gynllun datblygu lleol

10 awgrym ar gyfer ymateb i ymgynghoriadau ar gynlluniau datblygu i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

On this page

Mae cynlluniau datblygu awdurdodau cynllunio lleol, a elwir yn 'gynlluniau lleol' yn Lloegr a 'chynlluniau datblygu lleol' yng ngweddill y DU, yn rhan bwysig o'r system gynllunio. Mae’n werth chweil cymryd rhan mewn ymgynghoriadau cyhoeddus ar y cynllun datblygu pan fydd eich un chi’n cael ei adolygu neu ei adnewyddu. Drwy gymryd rhan, gallwch siarad dros fyd natur a sicrhau bod datblygiadau newydd yn ystyried buddiannau bywyd gwyllt lleol.

Gall y cynlluniau hyn ddyrannu safleoedd strategol ar gyfer datblygu, gan sefydlu egwyddor o blaid rhoi caniatâd cynllunio ar y safleoedd hynny. Gallant hefyd gynnwys polisïau cadarnhaol sy’n cefnogi’r gwaith o ddiogelu a gwella bioamrywiaeth, fel mynnu bod rhai datblygiadau newydd yn cynnwys nodweddion sy’n ystyriol o fywyd gwyllt a hinsawdd.

Dyma 10 awgrym syml i helpu i gynyddu effeithiolrwydd eich ymgysylltiad. Gellir defnyddio llawer o’r awgrymiadau hyn hefyd mewn mathau eraill o gynlluniau lle ceir proses ymgynghori â’r cyhoedd.

1. Ceisiwch ymgysylltu’n gynnar â phroses y cynllun datblygu.

Yn ddelfrydol, dylech geisio ymateb ar bob cam o’r ymgynghoriad (fel arfer mae o leiaf dau gam mewn cynlluniau datblygu newydd), ond nid yw methu cam cynharach yn eich atal rhag cyflwyno sylwadau yn nes ymlaen. Ond gorau po gyntaf, oherwydd byddwch yn gallu cael mwy o ddylanwad bryd hynny oherwydd bod yr opsiynau polisi gwahanol fel arfer yn cael eu cyflwyno yn y cam cyntaf. Wrth i’r broses ymgynghori fynd yn ei blaen ac wrth i’r cynllun drafft newydd ddatblygu, gallwch chi ddim ond cynnig sylwadau ar rai pethau. 

Ceisiwch gyfrannu adeg llunio’r cynllun lleol pan fydd safleoedd yn cael eu hystyried a’u penderfynu. Mae’n bosib y bydd yn rhy hwyr os yw eisoes wedi’i gynnwys yn y cynllun ac adeg y cais am ganiatâd cynllunio” -Mel, Chippenham, hyrwyddwr natur lleol

2. Ystyriwch ffurfio grŵp i gyflwyno sylwadau sy’n bwysig i chi gyd.

Mewn undeb mae nerth, felly mae’n gallu bod yn effeithiol iawn i gydlynu eich sylwadau gydag eraill sy’n rhannu eich pryderon neu syniadau am bolisïau penodol. Efallai y byddai’r grŵp yn gwrthwynebu cynnig i ddyrannu safle penodol ar gyfer tai neu ddatblygiad arall. Neu efallai eich bod am ddadlau o blaid polisïau cryfach i gefnogi natur yn lleol, fel mynnu bod datblygiadau newydd yn cynnwys brics nythod Gwenoliaid Du. Os bydd pawb yn eich grŵp yn cadw at yr un neges neu neges debyg, bydd yn helpu i sicrhau bod y sawl sy’n gwneud y cynllun yn clywed eich llais yn gliriach.

3. Canolbwyntiwch ar y rhannau o’r cynllun datblygu drafft sy’n peri pryder i chi.

Mae cynlluniau datblygu yn cynnwys llawer o wahanol bolisïau a gwybodaeth ar gyfer yr ardal dan sylw, ond nid oes rhaid i chi wneud sylw ar bopeth. Gallwch chi ateb y rhannau rydych chi am eu newid neu eu cefnogi. Fodd bynnag, meddyliwch am unrhyw gysylltiadau â rhannau eraill o’r cynllun. Er enghraifft, efallai y bydd cynnig arfaethedig i ddyrannu tir ar gyfer datblygiad newydd, yn eich barn chi, yn effeithio ar fywyd gwyllt lleol pwysig ond hefyd yn gwrthdaro â pholisïau eraill yn y cynllun drafft sy’n ceisio gwarchod ac adfer byd natur. Gall tynnu sylw at anghysonderau o’r fath helpu i ddylanwadu ar newidiadau.

A lone Marsh Warbler singing in a tree surrounded by small green leaves.
Marsh Warbler
Cofiwch

Nid oes rhaid i chi fod yn byw yn ardal y cynllun datblygu er mwyn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Fel arfer, gofynnir i chi roi eich enw, eich cyfeiriad a manylion eraill at ddibenion monitro, ond dylai eich sylwadau gael yr un pwysau ag unrhyw drigolion lleol o hyd.

4. Ceisiwch ateb cwestiynau’r ymgynghoriad rydych chi’n ymateb iddo.

Does dim rhaid i chi ateb cwestiynau’r ymgynghoriad, ond gall cyflwyno eich sylwadau ar ffurf unrhyw gwestiynau perthnasol helpu i sicrhau bod eich sylwadau yn berthnasol ar y cam hwnnw yn y broses. Os nad yw eich sylwadau yn berthnasol i gwmpas y cynllun neu ar y cam penodol hwnnw o’r broses ymgynghori, mae’n bosib na fyddant yn cael eu hystyried yn briodol ac felly yn cael eu hanwybyddu. Gall ateb cwestiynau’r ymgynghoriad helpu i sicrhau eich bod yn canolbwyntio ar y materion cywir sy’n agored i’w trafod.

5. Cofiwch edrych ar unrhyw bapurau cefndir perthnasol neu ddogfennau ategol.

Talwch sylw ar y manylion oherwydd efallai byddwch yn darganfod darnau pwysig o wybodaeth mewn dogfennau technegol eraill, megis yr Arfarniad o Gynaliadwyedd neu’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (os oes yna safleoedd bywyd gwyllt o bwys rhyngwladol). Gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu sylw at unrhyw wallau, anghysondebau neu fylchau yn y dogfennau hyn lle maent yn ymwneud â’r materion sy’n peri pryder i chi.

6. Lle bo’n bosibl, dangoswch sut mae eich sylwadau’n cael eu hadlewyrchu mewn polisïau, canllawiau neu ddeddfwriaeth cynllunio cenedlaethol.

Mae’n ddefnyddiol iawn os gallwch ddangos bod eich pryderon yn seiliedig ar ganllawiau (ee canllawiau’r llywodraeth neu asiantaeth y llywodraeth), deddfwriaeth neu bolisïau haen uwch eraill, fel polisïau cynllunio cenedlaethol. Byddwch mor benodol â phosibl drwy roi cyfeirnodau clir a hyd yn oed dyfynnu rhannau byr o bolisïau, canllawiau neu ddeddfwriaeth o’r fath lle rydych chi’n teimlo eu bod yn helpu i gefnogi eich achos.

7. Rhowch resymau a thystiolaeth glir os oes modd i gefnogi eich sylwadau.

Yn yr un modd â cheisiadau cynllunio, os yw eich sylwadau yn cael eu hategu gan resymu clir a chadarn a, lle bo modd, tystiolaeth wrthrychol, bydd fel arfer yn cael mwy o effaith. Gall cynnwys enghreifftiau cadarnhaol o gynlluniau datblygu eraill hefyd helpu i ategu eich achos.

8. Byddwch yn glir ynghylch unrhyw newidiadau yr hoffech eu gweld yn y cynllun i fynd i’r afael â’ch pryderon.

Efallai mai’r unig ffordd o fynd i’r afael â’ch pryderon fyddai dileu cynnig arfaethedig i ddyrannu tir neu ddiddymu polisi. Ond a oes newidiadau llai eraill y gellid eu gwneud i’r cynllun a fyddai’n helpu. Er enghraifft, gallai ychwanegu gofyniad am fesurau lliniaru penodol at bolisi dyrannu tir fod yn ddigon i ddiogelu’r buddiannau bywyd gwyllt rydych chi’n poeni amdanyn nhw.

Meddyliwch lle gallech chi gyfaddawdu a lle rydych chi am ddadlau i’r eithaf.” -Hyrwyddwr natur lleol

A lone Green Tiger Beetle on a bed of dried leaves.

9. Byddwch yn barod i gadw mewn cysylltiad a chyflwyno sylwadau pellach yng nghamau diweddarach y cynllun.

Os ydych chi wedi codi pwynt yn gynnar yn y broses ymgynghori, peidiwch â chymryd yn ganiataol bod y gwaith wedi’i wneud! Cadwch olwg ar gamau pellach y cynllun wrth iddo ddatblygu i weld a yw eich pryderon wedi cael sylw; efallai y bydd angen i chi barhau i wneud eich pwyntiau os bydd materion heb eu datrys. A chofiwch fod yn rhaid i chi ymateb i gam olaf yr ymgynghoriad ar y cynllun datblygu os ydych chi eisiau cymryd rhan yn y broses archwilio. Bydd y rhan hon o’r broses yn eich galluogi i godi eich pryderon gydag asesydd annibynnol a benodir gan y Llywodraeth i brofi ‘cyfanrwydd’ y cynllun.

Tarwch olwg ar ein canllaw i gynlluniau lleol/cynlluniau datblygu lleol yn y ddogfen Deall Cynllunio ar gyfer eich gwlad i gael rhagor o wybodaeth am y broses archwilio ac unrhyw wahaniaethau yn y drefn ymgynghori ac archwilio cynlluniau (ee yng Ngogledd Iwerddon, mae’r cynllun datblygu lleol mewn dwy ran gyda phroses ymgynghori ac archwilio ar wahân).

10. Ystyried cynrychiolaeth a chyngor proffesiynol.

Os oes gennych yr arian, gall cyflogi arbenigwr cynllunio, arbenigwr ecoleg, neu arbenigwr technegol arall i'ch cefnogi drwy'r broses fod yn werthfawr iawn. Ond os nad oes gennych chi’r gyllideb ar gyfer y math hwn o gymorth, efallai y bydd cyngor am ddim ar gael i chi, gan gynnwys gan unigolion neu grwpiau eraill sy’n fodlon rhannu eu profiadau eu hunain. Tarwch olwg ar  ein tudalen Adnoddau am wasanaethau cyngor neu gymorth posibl arall sydd ar gael yn eich ardal.

7-spot Ladybird
Cofiwch

Dylech allu cofrestru i gael diweddariadau e-bost ar eich cynllun lleol/cynllun datblygu lleol drwy wefan eich awdurdod lleol. Dylid hefyd rhoi gwybod am unrhyw ymgynghoriadau cyhoeddus mewn cylchlythyrau cymunedol lleol. Gallwch ddod o hyd i fanylion eich awdurdod lleol sy’n llunio cynllun datblygu lleol yma.