Advice

Sut i Sefyll yn Gadarn Dros Goed

Os ydych chi’n gweld coed yn cael eu torri neu eu tynnu ac yn poeni, dyma rai camau y gallwch chi eu cymryd i helpu.

Silhouette of three children playing under a tree at sunset.
On this page

A oes adar sy’n nythu yn bresennol?

O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 mae’n anghyfreithlon tynnu, difrodi neu ddinistrio nythod gweithredol, wyau a chywion pob aderyn gwyllt. A yw’r gwaith yn cael ei wneud yn ystod y prif dymor bridio adar (mis Mawrth i fis Medi)? Os felly, a’ch bod yn credu bod y goeden yn cynnwys nythod, gallwch gysylltu â’r Heddlu ar 101 a gofyn i siarad â’r Swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt. Dim ond yr Heddlu sydd â’r pŵer i orfodi’r gyfraith. Darllenwch fwy am adar a’r gyfraith yma.

Yn anffodus, nid yw’r Ddeddf yn gwarchod y cynefin lle mae adar yn byw pan nad ydynt yn nythu, felly mae’n bwysig gwirio statws cyfreithiol y goeden i weld a oes modd gwneud unrhyw beth am y gwaith (gweler isod).

A oes ystlumod yn bresennol?

Mae ystlumod a’u clwydfannau yn cael eu gwarchod gan y gyfraith, sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon difrodi, dinistrio neu darfu ar ystlumod neu eu safleoedd clwydo. Mae clwydfan yn cyfeirio at unrhyw le y mae ystlum yn ei ddefnyddio ar gyfer lloches, ac mae clwydfannau’n cael eu gwarchod p’un a yw ystlumod yn bresennol ai peidio. Darllenwch fwy am ystlumod a’u clwydfannau yma.

Os oes gan y gwaith y potensial i effeithio ar glwydfan ystlumod, rhaid i’r sawl sy’n gyfrifol am y gwaith (ee perchennog y goeden neu’r contractwr) sicrhau bod yr arolygon perthnasol yn cael eu cynnal (gan ymgynghorydd ecolegol profiadol). Mae hyn yn ofynnol p’un ai a yw’r goeden wedi'i diogelu ai peidio. Os cadarnheir bod clwydfan yno, a’i bod yn debygol o gael ei cholli, rhaid cael trwydded hefyd.

Os ydych chi’n poeni am waith a allai darfu ar ystlumod, mae’r daflen Ystlumod a Choed hon a gynhyrchwyd gan yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Ystlumod yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol. Mae’r cyngor ar dudalen 6 yn amlinellu pa gamau y gallwch eu cymryd.

Ydy’r goeden wedi’i diogelu?

Y peth cyntaf i’w sefydlu yw a yw’r goeden wedi’i diogelu – naill ai drwy orchymyn diogelu coed (GDC) neu ei lleoliad mewn Ardal Gadwraeth – drwy ddefnyddio map rhyngweithiol ar wefan eich awdurdod cynllunio (os yw ar gael) neu drwy gysylltu â nhw’n uniongyrchol. Dylai’r tîm cynllunio allu cadarnhau statws y goeden, neu gallant gyfeirio eich ymholiad at y Swyddog Coed.

Nid yw’r goeden wedi’i gwarchod - beth alla i'w wneud?

Yn anffodus, nid oes unrhyw gyfreithiau cynllunio a all atal coed rhag cael eu torri neu eu tynnu os nad ydynt yn cael eu gwarchod gan GDC neu wedi eu lleoli mewn Ardal Gadwraeth.

Fodd bynnag, gallech fynegi eich pryderon am yr effaith ar fywyd gwyllt i’r sawl sy’n gwneud y gwaith a gofyn a fyddai’n ystyried plannu coed newydd i liniaru’r rhai sydd wedi cael eu tynnu.

A view looking directly up at a tall, leafy tree canopy.

Mae’r goeden wedi’i diogelu - beth alla i'w wneud?

  • Chwiliwch drwy gofrestr gynllunio ar-lein yr awdurdod cynllunio gan ddefnyddio cyfeiriad lleoliad y goeden (os yn bosibl) i weld a oes caniatâd cynllunio neu ganiatâd gwaith coed wedi’i roi a fyddai’n caniatáu torri neu dynnu’r goeden. Cysylltwch â'r awdurdod cynllunio'n uniongyrchol os oes angen unrhyw help arnoch i ddod o hyd i'r wybodaeth hon.

 

  • Gallech hefyd chwilio am hysbysiad safle y dylid ei arddangos yn rhywle cyfagos os oes cais cynllunio neu gais am waith i goeden sy’n destun GDC wedi’i gyflwyno (sylwch nad oes ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer gwaith coed mewn Ardaloedd Cadwraeth). Bydd hysbysiad safle yn cynnwys cyfeirnod y cais y gallwch ei ddefnyddio i ddod o hyd i fanylion y cais ar y gofrestr gynllunio ar-lein, ynghyd â'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau os dymunwch.

 

  • Os oes gan y gwaith ganiatâd, ni fyddwch yn gallu atal y goeden rhag cael ei thorri neu ei thynnu. Fodd bynnag, dylai adroddiad Swyddog Cynllunio fod ar gael i’w weld ar y gofrestr cynllunio ar-lein, ochr yn ochr â dogfennau eraill y cais, a fydd yn egluro’r rhesymau dros y penderfyniad ac unrhyw gyfyngiadau y mae’n rhaid glynu wrthynt, fel amseriad y gwaith neu’r uchder y gellir torri’r coed.

 

  • Os byddwch yn sylwi bod gwaith coed yn cael ei wneud cyn i’r datblygiad gael caniatâd cynllunio (os yw’r cais cynllunio’n dal i gael ei ystyried gan yr awdurdod cynllunio), cysylltwch â’r tîm Gorfodaeth Cynllunio cyn gynted â phosibl i roi terfyn ar y gwaith a rhowch wybod i’r Swyddog Cynllunio a’r Swyddog Coed hefyd.

 

  • Os yw’r goeden wedi’i diogelu ond bod y gwaith yn cael ei wneud heb ganiatâd yr awdurdod cynllunio, canwch y larwm drwy gysylltu â’r tîm Gorfodaeth Cynllunio cyn gynted â phosibl i roi terfyn ar y gwaith. Mae gwaith anawdurdodedig ar goeden a ddiogelir yn drosedd. Eich awdurdod cynllunio fydd yn penderfynu pa gamau y dylid eu cymryd nesaf, a fydd yn dibynnu ar ddifrifoldeb y trosedd. Fodd bynnag, gall achosion mwy difrifol arwain at erlyniad (ee os bydd coeden sy’n destun GDC mewn cyflwr da yn cael ei thynnu).
A child with their arms wrapped around a thick tree trunk.

Alla i gyflwyno cais i goeden gael ei diogelu?

Os oes coeden yn eich ardal leol a ddylai gael ei diogelu yn eich barn chi, gallwch gyflwyno cais i’ch awdurdod cynllunio. Mae Cyfeillion y Ddaear wedi cynhyrchu’r canllaw hwn – How to protect trees: a guide to tree preservation orders – sy’n cynnwys canllaw cam wrth gam ar sut i wneud cais am Orchymyn Diogelu Coed.

Cofiwch mai dim ond os oes gan goeden ddigon o werth amwynder (sy’n dibynnu ar ffactorau fel oedran a disgwyliad oes, cyflwr, gwerth bywyd gwyllt, gwelededd i’r cyhoedd neu bwysigrwydd i’r amgylchedd lleol), neu os yw'r goeden o dan fygythiad dybryd, y gall awdurdodau cynllunio wneud GDC. Dysgwch fwy am hyn yn y tudalennau gwledig am amddiffyn coed a'n canllawiau system cynllunio (dan yr hybiau ‘prosesau gwneud penderfyniadau' eraill).

Sefyll yn Gadarn dros Goed!

Os ydych chi’n poeni bod coed yn eich ardal leol dan fygythiad, efallai yr hoffech chi ymgyrchu i’w diogelu. Dewch o hyd i bobl o’r un anian i’ch helpu i godi ymwybyddiaeth a gweithredu yn eich cymuned. I’ch cefnogi i sefydlu ymgyrch, rydym ni wedi cynhyrchu canllawiau ymgyrchu, ac mae gan sefydliadau eraill adnoddau defnyddiol hefyd, fel y canllaw Cyfeillion y Ddaear hwn, sy’n cynnwys rhai straeon ysbrydoledig am lwyddiant ar y diwedd.