Gall pob math a graddfa o ddatblygiad a newid defnydd tir effeithio ar fywyd gwyllt a’r cynefinoedd y maent yn dibynnu arnynt. Rhaid asesu pob cynnig datblygu ar gyfer eu heffaith bosibl ar rywogaethau a chynefinoedd, waeth beth yw eu maint. Fodd bynnag, ni fydd angen cynnal asesiad ecolegol ar gyfer pob cynnig. Dim ond pan fydd risg resymol y bydd rhywogaeth neu gynefin a warchodir yn bresennol ar safle’r datblygiad y gofynnir am asesiadau ecolegol.
Mae awdurdodau cynllunio lleol (ACLl) yn aml yn mynnu bod ‘rhestr wirio bioamrywiaeth’ yn cael ei llenwi a’i chyflwyno gyda’r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio, sy’n helpu ymgeiswyr i asesu’r tebygolrwydd y bydd eu safle’n cynnal rhywogaethau a warchodir, ac a fyddai effaith eu datblygiad yn ysgogi’r angen am asesiad ecolegol.
Mae gan rai Awdurdodau Cynllunio Lleol feini prawf datblygu a throthwyon dangosol hefyd i helpu ymgeiswyr i ddeall pryd y gallai fod angen asesiad ecolegol.
Bydd rhai mathau a lleoliadau o safleoedd datblygu yn fwy tebygol o gefnogi rhywogaethau a warchodir, ee adeiladau sy’n cynnwys nodweddion sy’n addas ar gyfer ystlumod, gerddi mawr mewn ardaloedd maestrefol / gwledig sy’n gallu darparu cynefinoedd ar gyfer adar bridio, moch daear ac ymlusgiaid, neu safleoedd sy’n agos at ardaloedd o ddiddordeb ecolegol (ee safle bywyd gwyllt dynodedig lleol neu safleoedd dynodedig statudol o bwysigrwydd cenedlaethol neu ryngwladol).
Ar gyfer safleoedd bywyd gwyllt statudol sy’n cael eu gwarchod gan y gyfraith, rhaid ystyried effeithiau oddi ar y safle neu effeithiau ‘anuniongyrchol’ datblygiad. Er enghraifft, gallai hyn fod yn newidiadau hydrolegol i safle gwlyptir neu gynnydd o ran effeithiau hamdden o ganlyniad i’r datblygiad arfaethedig.