Feature

Deall ystyr ‘ystyriaeth berthnasol’ a ‘pwysau’ o ran penderfyniadau cynllunio

Dysgwch ystyr y termau hyn i’ch cynorthwyo i ymateb yn effeithiol i geisiadau cynllunio

A waterfall surrounded by autumnal trees
On this page

Last updated: 2 July 2025

Beth yw ystyr ‘ystyriaeth berthnasol’ ym maes cynllunio?

Mae ystyriaeth berthnasol yn egwyddor bwysig ym maes cynllunio. Mae ystyriaeth berthnasol yn fater sy’n berthnasol i gais cynllunio y dylid ei ystyried pan wneir penderfyniad. Nid yw ystyr y term wedi’i ddiffinio yn y gyfraith. Yn gyffredinol, gall unrhyw fater sy’n ymwneud â defnyddio a datblygu tir er budd y cyhoedd fod yn ystyriaeth berthnasol. Gall ystyriaethau perthnasol gynnwys materion sy’n ymwneud â safleoedd penodol, fel colli coed, effaith ar fywyd gwyllt, neu broblemau traffig, neu faterion mwy cyffredinol, fel polisïau cynllunio neu benderfyniadau cynllunio blaenorol (gan gynnwys penderfyniadau apêl). Rhaid i’r corff sy’n penderfynu, sef yr awdurdod cynllunio lleol fel arfer, roi sylw i’r holl ystyriaethau perthnasol pan fydd yn penderfynu cymeradwyo neu wrthod cais cynllunio.

Nid yw pob mater yn ystyriaeth berthnasol. I gael ei ystyried yn berthnasol, rhaid bod i’r mater bwrpas cynllunio a rhaid iddo fod yn berthnasol i’r datblygiad arfaethedig. Bwriedir i’r system gynllunio ddiogelu budd y cyhoedd, felly nid yw materion preifat yn ystyriaethau perthnasol. Er enghraifft, nid yw pryderon cymydog y bydd datblygiad yn effeithio ar werth ei eiddo, colli golygfa breifat, nac anghydfod rhwng cymdogion ynghylch ffiniau yn ystyriaethau perthnasol. Ni ellir ystyried cymhelliad posibl yr ymgeisydd na’i ymddygiad personol ychwaith.

Song Thrush, perched on small branch
Song Thrush
Gair i gall

Pan fyddwch yn ymateb i gais cynllunio, ceisiwch sicrhau bod eich sylwadau’n canolbwyntio ar faterion sy’n debygol o fod yn ‘berthnasol’, gan mai i’r materion hyn y rhoddir y pwysau mwyaf yn y broses benderfynu.

Beth yw ystyr ‘pwysau’ o ran penderfyniadau cynllunio?

Rhaid i’r corff sy’n penderfynu, yr awdurdod cynllunio lleol fel arfer, gymharu’r holl ystyriaethau perthnasol sy’n gysylltiedig â chynnig datblygu a chloriannu’r holl effeithiau er mwyn penderfynu. Po bwysicaf yw effaith, y mwyaf o bwysau a fydd ganddi pan gaiff y cais cynllunio ei gloriannu yn ei grynswth.

Rhoddir y pwysau mwyaf i bolisïau cynllunio cenedlaethol a pholisïau a geir yng nghynllun datblygu lleol yr awdurdod cynllunio lleol, gan fod rhaid penderfynu ar geisiadau cynllunio yn unol â’r polisïau hyn. Os yw safle wedi’i ddyrannu ar gyfer tai neu at ddefnydd arall mewn cynllun datblygu lleol, penderfynwyd eisoes ar yr egwyddor o ddatblygu’r safle, felly ni fydd modd ichi ddadlau yn erbyn y rhagdybiaeth o blaid datblygu. Serch hynny, nid yw’r ffaith bod safle wedi’i ddyrannu mewn cynllun yn golygu y bydd unrhyw geisiadau cynllunio a gyflwynir yn y dyfodol yn cael caniatâd cynllunio yn awtomatig. Gellir gwrthod ceisiadau o hyd os nad ydynt yn cydymffurfio â pholisïau eraill neu ddeddfwriaeth. Hyd yn oed os ydych yn gwrthwynebu egwyddor datblygu’r safle, gallwch ddylanwadu’n gadarnhaol o hyd ar y ffordd y caiff ei ddylunio neu’i ddatblygu drwy gyflwyno sylwadau am gais cynllunio a gyflwynir yn y dyfodol i sicrhau bod yr awdurdod cynllunio lleol yn ystyried byd natur a buddiannau eraill, gan gynnwys gofynion bioamrywiaeth.

Bydd mwy o bwysau hefyd yn cael ei roi i effeithiau ar safleoedd a rhywogaethau a warchodir gan y gyfraith. Er enghraifft, safleoedd dynodedig, fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig, a rhywogaethau penodol sy’n cael eu gwarchod i raddau mwy helaeth o dan ddeddfwriaeth diogelu bywyd gwyllt y DU neu oherwydd eu bod yn cael eu cydnabod yn rhywogaethau sydd o bwys o ran cadwraeth. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch ein canllaw Sut i asesu pwysigrwydd safle sy’n cael ei fygwth gan ddatblygiad.

Yn gyffredinol, rhoddir mwy o bwysau i’r materion hynny y ceir tystiolaeth i’w hategu, er enghraifft, cofnodion bywyd gwyllt sy’n dangos bod poblogaeth o adar penodol neu rywogaeth a warchodir yn bresennol ar y safle datblygu. Bydd y broses benderfynu hefyd yn rhoi mwy o bwysau i dystiolaeth wyddonol a gyhoeddwyd o ganlyniadau effeithiau posibl ar y rhywogaeth sy’n bresennol. Felly, i sicrhau bod i’ch dadl fwy o bwysau, mae’n hanfodol eich bod yn cynnwys unrhyw dystiolaeth neu gofnodion eraill yr ydych wedi’u casglu neu gael gafael arnynt pan fyddwch yn cyflwyno’ch sylwadau am gais cynllunio i’r awdurdod cynllunio lleol. Mynnwch gip ar ein canllaw Sut i gofnodi bywyd gwyllt i gael cyngor ynghylch casglu eich data bywyd gwyllt eich hun.

Dylai swyddogion cynllunio ddangos sut y maent wedi ystyried pob mater perthnasol a phennu faint o bwysau a roddir iddo yn eu hadroddiadau ysgrifenedig sydd ar gael i’w gweld ar gofrestr cynllunio ar-lein yr awdurdod cynllunio lleol ar ôl iddo benderfynu. Os bydd pwyllgor cynllunio’n penderfynu ar gais, cyhoeddir yr adroddiad cyn cyfarfod y pwyllgor.

Share this article