Advice

Telerau ac Amodau — Disgownt yr RSPB am Ddod â'ch Cwpan eich Hun

Mae’r telerau ac amodau hyn (“ Telerau ac Amodau”) rhyngoch chi a RSPB Sales Limited, cwmni cyfyngedig sydd wedi’i ymgorffori yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr gyda rhif cwmni 02693778, is-gwmni masnachu sy’n eiddo llwyr i’r RSPB. Mae ei swyddfa gofrestredig yn The Lodge, Sandy, Bedfordshire, SG19 2DL (“RSPB” neu “ni”). Mae’r telerau ac amodau’n berthnasol i Gynllun Disgownt yr RSPB am Ddod a’ch Cwpan eich Hun.

Bydd defnyddio’r Cynllun Disgownt am Ddod a’ch Cwpan eich Hun yn cadarnhau eich bod wedi darllen a chytuno i’r Telerau a’r Amodau hyn. Felly, rhaid i chi ddarllen y telerau ac amodau hyn yn ofalus:

Mae’r Cynllun Disgownt am Ddod a’ch Cwpan eich Hun yn rhoi cyfle i chi gael 25c i ffwrdd mewn gwarchodfeydd sy’n cymryd rhan yn y cynllun, yn unol â’r canlynol:

1. Rydyn ni’n derbyn pob math o gwpanau cyn belled a bod gan y gwpan gaead diogel.
2. Os rydych yn dod â chwpan mawr ond yn archebu a thalu am ddiod maint cyffredin,  byddwch yn cael diod maint cyffredin yn eich cwpan.
3. Pan fydd yr aelod o’r tîm yn cymryd eich archeb, bydd yn gofyn i chi dynnu’r caead, dal gafael ar y caead a rhoi’r gwpan wag yn ôl iddyn nhw.
4. Rydyn ni’n croesawu cwpanau glân, ond os oes ychydig o weddillion yn eich cwpan, mae’n bosibl i aelod o’r tîm roi golchiad i’ch cwpan os oes angen.
5. Pan fydd eich diod yn barod, bydd yr aelod o’r tîm yn rhoi eich cwpan ar y cownter er mwyn i chi roi’r caead arno eich hun.
6. Os oes gennych gerdyn ffyddlondeb diodydd poeth gallwch gael stamp yn y gwarchodfeydd sy’n rhan o’r cynllun ynghyd â’ch disgownt ar gyfer defnyddio eich cwpan eich hun.
7. Dydych chi ddim yn cael rhagor o fuddion os ydych chi’n archebu eich degfed diod am ddim ar eich cerdyn ffyddlondeb diodydd poeth ac hefyd yn defnyddio eich cwpan eich hun.
8. Dim ond yng ngwarchodfeydd yr RSPB sy’n cymryd rhan y gellir defnyddio’r Cynllun Disgownt am Ddod a’ch Cwpan eich Hun. Nid yw pob gwarchodfa yn cymryd rhan yn y cynllun, holwch cyn archebu.
9. Ni allwch ddefnyddio’r Cynllun Disgownt am Ddod a’ch Cwpan eich Hun gydag unrhyw gynnig arall oni bai nodir fel arall ar y cynnig hwnnw, neu yn ôl ein disgresiwn.
10. Mae gennym hawl i wrthod gwasanaeth ar unrhyw bryd.
11. Mae gennym hawl i newid neu dynnu’r cynnig hwn yn ôl unrhyw bryd.
 

Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n deillio o’r Telerau ac Amodau hyn neu mewn cysylltiad â nhw (gan gynnwys anghydfodau nad ydynt yn ymwneud â chontractau neu hawliadau), yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.