News
Diweddariad Bioddiogelwch i Gymru 2026: Blwyddyn brysur hyd yma!
Gyda marc cnoi amheus, ci canfod arbenigol a dulliau newydd o fonitro ynysoedd - mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i'r ...
8th Sep 2026
Gyda marc cnoi amheus, ci canfod arbenigol a dulliau newydd o fonitro ynysoedd - mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur i'r tîm sy'n diogelu ynysoedd adar môr Cymru rhag ysglyfaethwyr ymledol.
5 min read
Mae Bioddiogelwch i Gymru yn gweithio gyda 13 o ynysoedd o amgylch arfordir Cymru sydd wedi’u dynodi’n Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig neu’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar gyfer adar môr sy’n bridio. Mae ynysoedd Cymru yn bwysig yn fyd-eang ar gyfer adar môr sy’n bridio, gan gynnwys dros hanner poblogaeth adar drycin Manaw y byd, trydydd nythle mwyaf gwylanwyddau yn y byd a nifer sylweddol o lawer o rywogaethau eraill.
Mae ein ffocws yn syml: atal mamaliaid goresgynnol sy’n ysglyfaethu, fel llygod mawr, rhag cyrraedd yr ynysoedd; canfod unrhyw ymlediad yn gyflym; ac ymateb ar unwaith i atal ysglyfaethwyr rhag bridio a dinistrio poblogaethau adar môr drwy fwyta wyau, cywion a hyd yn oed adar hŷn. Gall un llygoden fawr feichiog gynhyrchu cytref o fwy na 300 mewn wyth mis yn unig, felly mae ymateb cyflym yn hanfodol.
Ar 20 Ebrill, daethpwyd o hyd i farciau cnoi ar floc cnoi cwyr yn ystod ymarfer goruchwylio rheolaidd ar Ynysoedd y Moelrhoniaid, grŵp o ynysoedd creigiog 3km oddi ar gornel gogledd orllewinol Ynys Môn sydd wedi’u dynodi’n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar gyfer môr-wenoliaid sy’n bridio, gan gynnwys Môr-wenoliaid y Gogledd, Môr-wenoliaid a Môr-wenoliaid Gwridog, yn ogystal â Phalod. Diolch i Gynllun Bioddiogelwch Ynysoedd y Moelrhoniaid, a ddatblygwyd ar y cyd gan reolwr yr ynys a’r tîm bioddiogelwch, llwyddodd staff i ymateb yn gyflym, gan sicrhau’r drwydded angenrheidiol i ddefnyddio gwenwyn llygod, casglu offer o’n Canolfan Ymateb Cyflym, a sefydlu grid gwenwyn llygod ar draws yr ynys. Ar yr un pryd, bu ein tîm Cŵn Canfod ar gyfer Cadwraeth, Greg a Jinx, yn chwilio’r ynys am arwyddion o lygod mawr.
Yn ffodus, ni welwyd dim arwyddion pellach, sy’n awgrymu mai un cnofil, fwy na thebyg, oedd yn gyfrifol am y marciau cnoi, ac mae’n ymddangos bod y cnofil hwnnw wedi marw yn ystod y gaeaf caled. Roedd yn ganlyniad lwcus, ond hefyd yn neges ddifrifol i’n hatgoffa o bwysigrwydd bod yn wyliadwrus.
Mae dulliau traddodiadol o oruchwylio fel trapiau camera a blociau cnoi cwyr yn cael eu defnyddio ar draws ynysoedd drwy gydol y flwyddyn i roi gwybod i ni’n gynnar am lygod mawr. Hefyd, mae gennym Jinx, a’i hyfforddwr Greg. Ci canfod yw Jinx, wedi’i hyfforddi’n union fel cŵn canfod bomiau a chyffuriau ond ar gyfer arogli llygod mawr. Ein nod yw cael Jinx draw i bob ynys o leiaf unwaith y flwyddyn i chwilio am lygod mawr, ond roedd tywydd ansefydlog y gwanwyn wedi gwneud ymweliadau ag ynysoedd yn anodd eleni. Er gwaethaf hyn, llwyddodd Greg a Jinx i gwblhau archwiliadau rheolaidd o ynys Sgogwm ac ynys Dewi, a bu tîm cŵn Bioddiogelwch i’r Alban, sydd wedi’i leoli dros dro yng ngogledd Cymru, ar ynys Enlli. Gyda’u cefnogaeth nhw, roedd Greg a Jinx yn rhydd i ganolbwyntio ar archwiliadau o gychod a chargo – rhan hanfodol arall o atal cnofilod rhag cyrraedd yr ynysoedd.
Roedd blynyddoedd o gynllunio a sawl ymgais aflwyddiannus wedi talu ar eu canfed pan gyrhaeddon ni Ynys Aberteifi o’r diwedd i ddefnyddio offer goruchwylio gyda’r rheolwr ynysoedd o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru. Y nod yw cadarnhau nad oes cnofilod ar yr ynys o hyd a defnyddio’r canfyddiadau i ddiweddaru’r Cynllun Bioddiogelwch.
Ar y tir mawr, rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth cyn i ymwelwyr hwylio. Mae arwyddion bioddiogelwch newydd wedi cael eu gosod yn Martin’s Haven, lle mae cychod yn gadael am Ynys Sgomer, ar ôl gweld llygod mawr o amgylch y lanfa. Mae matiau cwrw a thaflenni Bioddiogelwch i Gymru yn cael eu dosbarthu drwy fusnesau lleol, gan ddarparu rhestrau gwirio ar gyfer bioddiogelwch a chyngor ymarferol i helpu ymwelwyr i ddiogelu adar môr Cymru sydd o bwys rhyngwladol.
Yn ddiweddar, rydym wedi rhoi mwy o offer goruchwylio yn uniongyrchol yn nwylo staff a chymunedau’r ynysoedd i sicrhau bod cnofilod yn cael eu canfod yn gyflym. Mae'r "hybiau bach" newydd hyn yn cynnwys trapiau camera safonol ac o bell, yn ogystal â chanllawiau adnabod i helpu timau i adnabod marciau cnoi ac olion traed yn hyderus. Mae cymorth, hyfforddiant a chyfarpar ychwanegol hefyd wedi cael eu darparu yn dilyn digwyddiadau anarferol o ysglyfaethu ar Ynys Enlli ac Ynys Echni.
Mae Trinity House, awdurdod goleudai cyffredinol Cymru, Lloegr, Ynysoedd y Sianel a Gibraltar yn ymweld ag ynysoedd yn rheolaidd i gynnal a chadw eu goleudai. Gyda goleudai ar saith o’n tair ar ddeg o ynysoedd adar môr yng Nghymru, rydym wedi helpu i ddatblygu Cynllun Bioddiogelwch newydd ar gyfer staff Trinity House, gan ddefnyddio dulliau bioddiogelwch a chodi ymwybyddiaeth o beryglon cyflwyno rhywogaethau newydd i’r ynysoedd hyn.
O ymateb i farciau cnoi amheus ar Ynysoedd y Moelrhoniaid o fewn dyddiau, i gyrraedd Ynys Aberteifi o’r diwedd, mae 2026 wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at bwysigrwydd bioddiogelwch ynysoedd, gan gadw’r ynysoedd hyn a’r adar môr sy’n dibynnu arnyn nhw yn ddiogel rhag llygod mawr.