News
Saving albatrosses on the high seas
To mark World Albatross Day, Adam Charlton from the RSPB Marine Team, looks at global efforts to save these remarkable b...
11th Jun 2026
Bydd cannoedd o bobl yn ymgynnull yng Nghaerdydd ym mis Medi i ddangos eu cefnogaeth i weithredu brys er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd. Fase'n grêt gweld chi yno hefyd.
5 min read
Bydd Lobi Torfol Gweithredwch Nawr am y Dyfodol yn dod i’r Senedd ddydd Mercher 17 Medi. Rydym yn ymuno â Climate Cymru a llawer o sefydliadau ac unigolion eraill o bob cwr o Gymru i gynllunio’r digwyddiad. Bydd y trefnwyr yn helpu i amserlennu cyfarfodydd gydag Aelodau o’r Senedd drwy gydol y dydd, fel y gall y cyfranogwyr godi’r materion sydd bwysicaf iddyn nhw, gyda’u cynrychiolwyr etholedig.
Gofynnwn i chi, ein cefnogwyr, i gofrestru nawr a dod â’ch straeon personol am gân yr adar yn diflannu, mannau gwyrdd gwerthfawr a datblygiadau lleol i’w trafod gyda’ch AS, gan ddangos yn uniongyrchol yr ystod a’r brys sydd ei angen i fynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar natur ledled Cymru.
Yn ystod y digwyddiad, byddwch yn cael eich annog i ddweud eich dweud a ‘chodi gwrychyn’, gan ychwanegu eich negeseuon o obaith ar gyfer dyfodol ein bywyd gwyllt a’n mannau gwyllt i ein gosodiad ‘adenydd gobaith’. Rhai gweithgareddau eraill drwy gydol y dydd fydd teithiau cerdded bywyd gwyllt, gweithdai creadigol a sgyrsiau gan arbenigwyr.
Mae lobi torfol Cymru yn dilyn llwyddiant digwyddiad tebyg lle cyfarfu miloedd o bobl â’u Haelodau Seneddol yn San Steffan ym mis Gorffennaf (gweler llun), gan alw am y camau brys sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.
Credwn yn gryf fod eich lleisiau yn hanfodol ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried penderfyniadau hollbwysig sy’n ymwneud â ffermio, natur, yr hinsawdd a’r gymuned, ac mae etholiad y Senedd ar y gorwel. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni, i gwrdd â’ch Aelodau o’r Senedd ac i siarad am y pethau sydd bwysicaf i chi.
Does dim angen i chi fod yn arbenigwr. Os ydych chi’n poeni am y dyfodol – am fywyd gwyllt, swyddi gwyrdd, ynni adnewyddadwy neu eich cymuned – mae eich llais yn bwysig. Efallai ei fod yn swnio’n frawychus, ond bydd popeth sydd ei angen arnoch i deimlo’n hyderus ac yn barod i siarad â’ch AS, yn unigol neu mewn grŵp, yn cael ei ddarparu cyn y digwyddiad.”
Rydyn ni’n annog pobl ledled Cymru i gymryd rhan, gyda chyllid posibl ar gael i’r rhai sydd ei angen fwyaf, i helpu i dalu costau teithio i Gaerdydd.