News
Behind the scenes as Sam & Ade Go Birding on our nature reserves
Series two of the hit show featured RSPB Ynys-hir and RSPB Bempton Cliffs. Our reserves teams tell all!
20th Oct 2026
Mae natur yn rhan o'r hyn sy'n gwneud Cymru mor arbennig. Ond gyda bywyd gwyllt yn dirywio a phenderfyniadau hollbwysig ynghylch cyllid yn y dyfodol ar y gorwel, dyma'r amser i godi llais dros y byd natur rydyn ni'n ei garu.
5 min read
Dychmygwch Gymru lle mae Gwenoliaid Duon yn gwibio ac yn sgrechian uwchben ein toeon, Palod yn ffynnu ar hyd ein harfordir, a'n hafonydd, ein coetiroedd a'n cefn gwlad yn llawn bywyd.
Cymru lle mae ffermwyr yn cael eu cefnogi i weithio law yn llaw â natur, ein rhywogaethau sydd dan y bygythiad mwyaf yn adfer, a bywyd gwyllt yn ffynnu ym mhob cymuned.
Mae'r dyfodol hwn o fewn ein cyrraedd. Ond dim ond os byddwn ni'n buddsoddi mewn natur.
Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi ei chyllideb nesaf, mae gennym gyfle pwysig i sicrhau bod natur yn cael y buddsoddiad sydd ei angen arni'n daer. Ac mae angen eich help chi i wireddu hynny.
Mae Cymru'n gartref i fywyd gwyllt a mannau gwyllt anhygoel, ond mae natur mewn trafferthion.
Datgelodd adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2023 fod bywyd gwyllt Cymru wedi dirywio 20% ar gyfartaledd ers 1994, gydag un o bob chwe rhywogaeth a aseswyd mewn perygl o ddiflannu o Gymru.
O alwadau cyfarwydd y Gylfinir i'r Gwenoliaid Duon sy'n bywiogi ein hawyr yn yr haf, mae rhai o'n hadar mwyaf annwyl yn diflannu. Mae poblogaethau Gwenoliaid Duon wedi gostwng 76% ers 1995, tra bo perygl y gallai'r Gylfinir ddiflannu fel rhywogaeth sy'n nythu yng Nghymru.
Ond nid mater o fywyd gwyllt yn unig yw hyn. Mae natur yn darparu sylfeini ein bywydau bob dydd, o'r aer glân rydyn ni'n ei anadlu a'r dŵr rydyn ni'n ei yfed, i'r priddoedd iach sy'n cynhyrchu ein bwyd.
Mae cynefinoedd iach hefyd yn helpu i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd, storio carbon a gwneud ein tirweddau'n fwy gwydn yn wyneb newid hinsawdd.
Pan fydd natur yn ffynnu, rydyn ni i gyd ar ein hennill.
Y newyddion da yw ein bod ni'n gwybod sut i helpu natur i adfer.
Ledled Cymru, mae ffermwyr, cymunedau, sefydliadau cadwraeth a busnesau eisoes yn cydweithio i adfer cynefinoedd, diogelu rhywogaethau sydd dan fygythiad a chreu lle i fywyd gwyllt ffynnu.
Ond er mwyn gwneud gwahaniaeth parhaol, mae angen adeiladu ar y gwaith hwn, gyda buddsoddiad a chefnogaeth hirdymor sy'n galluogi natur i adfer ar y raddfa ac ar y cyflymder sydd eu hangen.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wyrdroi dirywiad natur erbyn 2030. Bydd ei chyllideb nesaf yn gyfle pwysig i droi'r ymrwymiad hwnnw'n gweithredu.
Mae hynny'n golygu buddsoddi mewn adfer natur, cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir i helpu bywyd gwyllt ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy, a sicrhau bod natur wrth galon penderfyniadau sy'n effeithio ar ddyfodol Cymru.
Oherwydd nid diogelu bywyd gwyllt yn unig yw buddsoddi mewn natur. Mae'n golygu buddsoddi mewn cymunedau iachach, amgylchedd mwy gwydn a dyfodol gwell i genedlaethau'r dyfodol.
Rydyn ni'n gwybod bod pobl ledled Cymru'n poeni'n fawr am natur. Mewn arolwg a gomisiynwyd gan RSPB Cymru yn 2025, dywedodd 78% o'r ymatebwyr hoffent weld mwy o natur yn ffynnu yn eu mannau gwyrdd lleol, tra bod 76% yn credu bod angen i lywodraethau wneud mwy i fynd i'r afael â cholli natur.
Nawr yw eich cyfle chi i sicrhau bod eich Aelod o'r Senedd (AS) yn clywed y neges honno hefyd.
Rydyn ni'n gofyn i bobl ledled Cymru anfon cerdyn post rhithwir at eu AS, gan rannu pam mae natur yn bwysig iddyn nhw a galw am fwy o fuddsoddiad yn ei dyfodol.
Boed yn adar sy'n ymweld â'ch gardd, yn hoff daith gerdded drwy'r coed neu'n fywyd gwyllt ar hyd ein harfordir, gall eich llais chi helpu i ddangos i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau faint mae natur yn ei olygu i ni.
Dewiswch eich cerdyn post. Dangoswch eich cefnogaeth. Codwch eich llais dros natur.
Anfonwch gerdyn post at eich AS yma.