News
UK laws are failing birds of prey as widespread killing continues
New RSPB report backs tougher regulation through licensing for all gamebird shooting in the UK.
27th May 2026
Mae Llyn Efyrnwy yn gartref i boblogaeth sylweddol o Ditw Helyg, gyda mwy na 30 pâr bridio wedi’u cofnodi mewn arolygon diweddar. Nid camp fach yw hyn, gan fod nifer y Titw Helyg wedi gostwng 96% ledled y DU ers 1967.
5 min read
Yn fach, yn llwyd-feddal ac yn aml yn cael eu hanwybyddu, mae’r Titw Helyg yn adar rhyfeddol. Yn wahanol i lawer o rywogaethau eraill o ditwod, maent yn cloddio eu tyllau nythu eu hunain mewn pren meddal sy’n pydru — sy’n golygu eu bod yn gwbl ddibynnol ar goetiroedd gwlyb, prysg sy’n gyfoethog mewn coed marw a choed sy’n dirywio. Roedd y cynefinoedd hyn unwaith yn gyffredin, ond maent wedi dod yn fwyfwy prin wrth i reolaeth coetiroedd ffafrio amodau mwy taclus a sychach. O ganlyniad, mae’r Titw Helyg wedi dod yn ddangosydd pwysig o iechyd ecosystemau coetir gwlyb.
Yn Llyn Efyrnwy, mae’r dirwedd yn dal i ddarparu rhywfaint o’r hyn sydd ei angen arnynt. Mae ardaloedd o dir prysg a choetir gwlyb ar hyd glannau afonydd, ynghyd â chalendr o gwympo coed yn gylchol, (sy’n gysylltiedig â choedwigaeth fasnachol), wedi creu darnau o gynefin addas. Ond mae coetir helyg gwirioneddol wlyb — hoff gynefin y rhywogaeth — yn dal yn brin.
Mae hynny bellach yn newid.
Tan yn ddiweddar, roedd Coed Belan yn blanhigfa o Sbriws Norwy anfrodorol, wedi’i phlannu ar dir a arferai fod yn wlyptir. Dros amser, sychodd y pridd oherwydd y ffosydd draenio, gan ei wneud yn anaddas ar gyfer y cymysgedd o gynefinoedd y mae rhywogaethau fel y Titw Helyg yn dibynnu arnynt. Yn 2021, cafodd y blanhigfa ei chwympo fel rhan o ymdrech ehangach i adfer coetir brodorol ag adfywio’r safle.
Mi oedd y cam nesaf yr un mor bwysig: adfer y dŵr.
Drwy cau’r rhwydwaith o ffosydd draenio, roedd timau cadwraeth yn anelu at ail-wlychu’r goedwig, gan ganiatáu i brosesau naturiol ddychwelyd. Mae priddoedd gwlyb yn arafu dadelfeniad, yn annog pryfed, ac yn hyrwyddo twf helyg a choed brodorol eraill — gan greu’n union y math o amodau sydd eu hangen ar Ditwod Helyg i ffynnu.
Cafodd y gwaith hwn hwb mawr yr hydref diwethaf, pan roddodd Heartlands Pipelines Ltd eu hamser a’u peiriannau i osod prif bibell ddŵr gerllaw. Mewn un diwrnod, llwyddodd dau gloddiwr i gau 400 metr o ffosydd draenio. Ar yr un pryd, plannodd eu tîm dros 700 o goed brodorol, gan gynnwys Helyg, Gwernen, Aethnen a Bedw, gan helpu i gyflymu adferiad y goedwig a chynyddu ei hamrywiaeth.
Mae’r trawsnewid eisoes ar y gweill. Wrth i lefelau’r dŵr godi a llystyfiant ddechrau adfywio, bydd Coed Belan yn newid o fod yn blanhigfa wedi’i draenio i fod yn goedwig wlyb fywiog a deinamig. Dros amser, bydd yn datblygu’r dryslwyni trwchus, y pren marw a’r bywyd pryfed cyfoethog sy’n diffinio’r cynefin hwn.
I Ditwod Helyg, gallai hyn olygu tiriogaethau newydd, safleoedd nythu newydd, a dyfodol cryfach.
Ac i’r rhai sy’n cerdded y llwybrau hyn yn y dyfodol, mae addewid o glywed eu galwad unigryw — “si-si ta ta ta” — yn atsain drwy goetir sydd unwaith eto wedi’i siapio gan ddŵr, bywyd gwyllt ac adfer gofalus.