Feature

Rhyddhau adar hela i gefn gwlad Cymru

Pam y tawelwch gan Lywodraeth Cymru? Ein pryderon am ryddhau miliynau o Ffesantod a Phetris Coesgoch yng Nghymru gyda rheoleiddio cyfyngedig.

Ring Necked Pheasant, adult male peering out from behind a tree
On this page

Cyhoeddwyd: 3 Ebr 25
Pwnc: Saethu adar hela a rheoli tir cysylltiedig.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno eu hargymhellion gerbron Llywodraeth Cymru ers dros ddeunaw mis, ac felly rydym ni’n awyddus i wybod pam fod Llywodraeth Cymru mor gyndyn o rannu a thrafod eu cynlluniau. 

Yr hanes hyd yma

Bum mlynedd yn ôl, fe wnaeth yr RSPB adolygu eu polisi ar saethu adar hela, a’r ffordd y mae’r tir, sy’n gysylltiedig â'r gweithgaredd yn cael ei reoli. Roedd yr adolygiad yn seiliedig ar adolygiad manwl gan wyddonwyr yr RSPB, ac mae'r adolygiad hwn yn dod i’r un casgliad â chasgliadau’r astudiaethau sydd wedi eu cyhoeddi ers hynny.  

Yn sgil y pryderon oedd wedi eu codi gan wyddonwyr am beryglon rhyddhau adar hela i gefn gwlad, yn enwedig mewn mannau sydd wedi eu dynodi’n bwysig i fywyd gwyllt, fe wnaeth Gweinidogion ofyn, yn 2022, i uwch swyddogion a Cyfoeth Naturiol Cymru ystyried gwahanol opsiynau i’w rheoleiddio. Galwodd Cyfoeth Naturiol Cymru am dystiolaeth gan eu rhanddeiliaid, ac wedi hynny fe wnaethant gomisiynu astudiaethau i wella eu dealltwriaeth a’u galluogi i wneud argymhellion gwybodus. Ym mis Mawrth 2023, fe gynhaliodd Cyfoeth Naturiol Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar eu cynigion, a'r bwriad oedd rhoi unrhyw newidiadau ar waith o 2024 ymlaen. Cafwyd miloedd o ymatebion, gan nifer o gefnogwyr yr RSPB, ac rydym ni’n ddiolchgar iawn am hynny. O fewn wythnosau ar ôl ddyddiad cau’r ymgynghoriad, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru na fyddai unrhyw newidiadau yn cael eu gweithredu tan dymor saethu 2025/26. Ym mis Hydref 2023, cafodd eu cyngor i Lywodraeth Cymru  ei gyhoeddi, ac ynddo maent yn datgan y dylid rheoli'r broses o ryddhau adar gyda “fframwaith trwyddedu cymesur sy’n seiliedig ar risg”. 

Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i’r Gweinidogion ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal adolygiad, ond mae hanner y cyfnod hwnnw wedi ei dreulio yn disgwyl am benderfyniad o Fae Caerdydd. 

Ein barn ni am yr argymhellion

Yn gryno, byddai'r cynigion hyn yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i ryddhau Ffesantod a Phetris Coesgoch heb ganiatâd.  Byddai’n rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn sicr na fyddai rhyddhau adar hela yn achosi niwed cyn iddynt roi trwydded i ganiatáu gwneud hynny mewn neu o amgylch ardaloedd sy’n cael eu hadnabod fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mewn ardaloedd eraill, byddai’r adar yn cael eu rhyddhau dan amodau ‘Trwydded Gyffredinol’ , byddai’r drwydded hon yn cyfyngu ar faint o adar fyddai’n cael eu rhyddhau mewn un ardal.  

Mae’r cynigion yn egluro’n glir pam na all y system bresennol ddiogelu natur yn ddigonol. Mewn mannau sydd wedi’u dynodi’n bwysig i fyd natur, sef Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig mae’n gwbl briodol na ddylai gweithgareddau pobl fod yn fygythiad i fywyd gwyllt. Er nad ydym ni’n credu fod y cynigion mor gadarn ag y dylent fod, rydym ni’n credu y gallent gyfrannu rhywfaint at leihau’r risgiau amgylcheddol a achosir gan ryddhau adar hela anfrodorol yn ddiderfyn.

Mae amser yn brin

Yn y tair blynedd ers cyhoeddi'r adolygiad, mae amcangyfrif o 2.4-6.9 miliwn o Ffesantod a Phetris Coesgoch wedi eu rhyddhau yng Nghymru, ac mae canlyniadau hyn wedi eu hamlinellu mewn amryw o astudiaethau sy’n trafod yr argyfwng natur a hinsawdd. Bydd rhagor o adar yn cael eu rhyddhau i gael eu saethu ym mis Gorffennaf eleni, a hynny er bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud fod y “mesurau rheoleiddio sydd eisoes yn bodoli yn annhebygol o fod yn ddigonol i reoli’r peryglon hyn yn effeithiol... Rydym ni’n credu mai rheoleiddio yw'r unig ffordd effeithiol o wella’r sefyllfa ac o reoli pethau mewn ffordd wybodus yn y dyfodol.” 

Mae'r broses o roi’r newidiadau hyn ar waith eisoes 12 mis ar ei hôl hi, ac mae perygl gwirioneddol na fyddant yn cael eu gweithredu cyn y dyddiad cau diwygiedig sydd wedi ei nodi gan y Llywodraeth, sef rhoi system drwyddedu ar waith cyn tymor saethu 2025/26, sy’n dechrau ym mis Medi. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddod i benderfyniad a gwneud cyhoeddiad ar frys i leihau’r peryglon o niwed amgylcheddol ac i anrhydeddu eu hymrwymiad i roi amser i bobl baratoi at y newid. 

Share this article