Rhaid i Lywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle i fuddsoddi mewn natur
Mae adroddiad newydd yn dangos y gallai buddsoddi mewn natur greu 5,630 o swyddi ac ychwanegu £7.2 biliwn at economi Cymru.
.jpg)
On this page
Mae natur yn sail i economi Cymru
Mis diwethaf, gwnaeth Llyr Gruffydd, Gweinidog Cabinet newydd dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, ddatganiad i’r Senedd ar ei blaenoriaethau ar gyfer ei bortffolio. Yn galonogol, agorodd gydag ymrwymiad y Llywodraeth i weithredu dros hinsawdd a natur “nid yn unig oherwydd ei bwysigrwydd amgylcheddol … ond hefyd oherwydd ei bwysigrwydd canolog i ffyniant, iechyd a gwydnwch Cymru”.
Mae canolbwyntio ar weithred dros natur yn angenrheidiol: dangosodd adroddiad Sefyllfa Natur Cymru 2023 bod toreithrwydd rhywogaethau tir a dŵr croyw wedi gostwng 20% ledled Cymru yn ystod y tri degawd diwethaf, ac mae un ym mhob chwe rhywogaeth dan fygythiad o ddiflannu o Gymru. Mae pwysau hanesyddol a pharhaol ar ein bywyd gwyllt yn golygu bod Cymru ymysg un o'r gwledydd byd-eang sydd wedi gweld ei natur yn dirywio fwyaf.
Yr achos economaidd dros natur
Yn ystod yr un wythnos a datganiad y Gweinidog Cabinet, wythnos a welodd tymereddau uchel rhoi diwedd ar ddigwyddiadau Wythnos Gweithredu ar Hinsawdd Llundain, gyhoeddodd yr RSPB adroddiad newydd: Achos Economaidd ar gyfer Natur.
Mae’r adroddiad yn pwysleisio rhan hanfodol natur yn ein heconomi, gan ddyfynnu amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod gwerth yr amgylchedd naturiol yng Nghymru o leiaf £97 biliwn, wedi’i seilio ar werth y buddion mae’n rhoi i gymdeithas (gan nodi dim ond amcangyfrif rhannol yw hwn). Fel dwedodd y Gweinidog Cabinet, “Nid pethau dewisol yw aer glân, dŵr glân, priddoedd iach ac ecosystemau ffyniannus. Maen nhw'n cynnal iechyd y cyhoedd, maen nhw'n diogelu cymunedau ac yn creu'r amodau i Gymru ddatblygu'n gynaliadwy.”
Yn ôl yr adroddiad, mi fydd yna fwlch cyllido dros natur yng Nghymru o £526 miliwn y flwyddyn, am ddeng mlynedd, y tu hwnt i lefelau presennol o wariant Llywodraeth Cymru. Yn hollbwysig, mae hefyd yn amcangyfrif y byddai buddsoddi’r cyllid ychwanegol hwn yn cefnogi 5,630 o swyddi newydd, a chreu £7.2 biliwn o allbwn economaidd yn yr economi Cymreig dros y ddeng mlynedd. Byddai’r buddion hyn yn hybu sectorau gwahanol, gan gynnwys pysgodfeydd, ffermio, rheoli tir a dŵr. I roi cyd-destun i’r rhifau hyn, mae 5,620 o swyddi yn gyfartal â thua 40% o swyddi dŵr, carthffosiaeth a gwastraff yng Nghymru; 20% o swyddi amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota; a 6% o swyddi'r sector adeiladu.
Troi uchelgais yn fuddsoddiad
Yn ystod ei ddatganiad, cyhoeddodd y Gweinidog Cabinet rownd ariannu newydd o Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, a fydd yn sicrhau buddsoddiad o £10 miliwn wedi’i ddarparu mewn partneriaeth â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Er bod hyn i'w groesawu, mae’n amlwg bod y cyllid hwn yn annigonol o’i gymharu â’r hyn sydd ei angen ar natur, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gyfeirio mwy o gyllid cyhoeddus at adfer natur.
Fel y dywedodd y Gweinidog Cabinet “ni all cyllid cyhoeddus ar ei ben ei hun gyflawni ein hamcanion ar gyfer yr hinsawdd a natur”. Croesawan ei ymrwymiad i ymgynghori, yn hwyrach eleni, ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn datgloi cyllid preifat cyfrifol i adfer ein tirweddau a morluniau.
Gyda thywydd poeth yr haf hwn yn torri pob record, mae'n amlwg bod angen y cynllun cyllid natur newydd hwn ar frys.