Cyhoedd Cymru yn cefnogi gweithredu brys dros fyd natur, yn ôl arolwg barn newydd
Ers i'r RSPB ddechrau, rydym wedi ceisio helpu rhywogaethau i ffynnu ac mae hynny'n dal i fod wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Erbyn hyn, mae'r bygythiadau maen nhw'n eu hwynebu yn wahanol nawr, ond mae ein hangen a'n hangerdd i helpu bywyd gwyllt yn dal i fod.

Cyhoeddwyd: 3 Ebr 25
Pwnc: Y cyhoedd yng Nghymru yn cefnogi gweithredu ar frys dros fyd natur.
Gobeithiwn fod pobl Cymru yn teimlo'r un peth hefyd. Felly, ddechrau mis Chwefror, fe wnaethom gomisiynu arolwg ynghylch agweddau pobl ar fywyd gwyllt a natur yng Nghymru, i ddarganfod hynny.
Cynhaliwyd yr arolwg gan Beaufort Research Limited a chynhaliwyd gwaith maes ar gyfer yr arolwg rhwng 3 a 23 Mawrth 2025. Cwblhawyd cyfanswm o 1,000 o gyfweliadau ar-lein, gyda'r canlyniadau'n gynrychioliadol o'r boblogaeth oedolion (16+ oed) yng Nghymru.
Yn ddi-os, dangosodd yr arolwg fod pobl Cymru eisiau amddiffyniadau cryfach i natur.
Gwyddom bod natur Cymru’n diflannu’n ddychrynllyd o gyflym. Mae’r adroddiad diweddaraf ar Sefyllfa Natur yng Nghymru yn dangos bod un o bob chwe rhywogaeth bellach mewn perygl o ddiflannu’n llwyr yn genedlaethol, a bu gostyngiad o 20% ym mywyd gwyllt Cymru ers 1994. Yn galonogol, mae pobl yng Nghymru eisiau gweld y tueddiadau hyn yn cael eu gwyrdroi – gyda 77% o’r rhai a holwyd yn dweud eu bod eisiau gweld mwy o natur yn ffynnu yn eu mannau gwyrdd lleol a 80% yn teimlo bod yr amser sy’n cael ei dreulio ym myd natur yn bwysig i’w hiechyd a’u llesiant.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiadau uchelgeisiol i adfer natur ond mae’n methu â chyflawni yn ôl adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn Senedd Cymru. Roedd y Pwyllgor yn feirniadol iawn o’r cynnydd araf y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud wrth gyflawni eu hymrwymiadau allweddol, gan gynnwys y targed rhyngwladol o warchod 30% o diroedd a moroedd ar gyfer byd natur erbyn 2030. Un opsiwn a ystyriwyd gan y Pwyllgor er mwyn hybu gweithredu dros natur oedd y ‘Bil Natur Bositif’ sydd ar y gweill ar lywodraethiant amgylcheddol a thargedau bioamrywiaeth. Bydd y Bil yn creu corff gwarchod amgylcheddol newydd i Gymru, yn dod ag egwyddorion amgylcheddol craidd yn gyfraith yng Nghymru, ac yn cyflwyno targedau cyfreithiol rhwymol ar gyfer adferiad byd natur.
Mae’r cyfle i ddod â byd natur yn ôl o’r dibyn yn crebachu ar gyfradd frawychus. Os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei hymrwymiadau i fioamrywiaeth, mae angen newid sylweddol yn y gweithredu. All natur ddim aros.
Mae’n ymddangos bod natur yn uchel ar yr agenda gyhoeddus hefyd. Dangosodd yr arolwg diweddar fod 74% yn cytuno bod angen targedau cyfreithiol i adfer byd natur ac roedd dros dri chwarter (76%) yn credu bod angen i lywodraethau nawr ac yn y dyfodol gymryd mwy o gamau i fynd i’r afael â cholli natur.
Mae’r Bil Egwyddorion Amgylcheddol, Llywodraethu a Bioamrywiaeth sydd ar y gweill yn rhoi cyfle i osod targedau uchelgeisiol, ynghyd â chynllun cyflawni cadarn, i sbarduno gweithredu ar draws pob sector ar gyfer adfer natur. Atebolrwydd y llywodraeth am sefyllfa byd natur fydd yn torri’r cylch ‘rhy ychydig, yn rhy hwyr’ sydd wedi caniatáu i’n bywyd gwyllt barhau i ddirywio ac yn rhoi’r siawns orau i fyd natur ffynnu yng Nghymru.
Mae Cymru’n gartref i dirweddau syfrdanol yr ydym i gyd yn eu caru. Ac mae dros 80% o Gymru’n cael ei ffermio mewn rhyw ffordd. Felly, mae gan ffermwyr hefyd ran allweddol i’w chwarae o ran achub natur. Dylai’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy sydd ar y gweill, os caiff ei ddylunio’n gywir, fod yn ffordd effeithiol arall o helpu Cymru i gyrraedd targedau bioamrywiaeth a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â helpu ffermwyr i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a dyna pam yr ydym ar hyn o bryd yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol ffermio sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd a natur yng Nghymru, drwy ein e-weithred ar-lein.
Canfu’r arolwg barn hefyd fod ychydig dros ddwy ran o dair (67%) o ymatebwyr yn credu y dylai fod yn ofynnol i ffermwyr ddefnyddio’r cyllid maent yn ei gael gan Lywodraeth Cymru i ffermio mewn ffordd sydd o fudd i natur ac sy’n mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae natur yn amlwg yn fater pwysig i bobl yng Nghymru; dylai Llywodraeth Cymru gael hyder o hyn a gyrru uchelgais ar gyfer adfer natur yng Nghymru.