News

A fydd cenedlaethau'r dyfodol yn dal i brofi hafanau adar môr Cymru?

Mae golygfeydd a synau cytrefi adar môr Cymru yn rhan o'r hyn sy'n gwneud ein harfordir mor arbennig. Ond heb weithrediad ar frys i adfer iechyd ein moroedd, mae dyfodol llawer o'r rhywogaethau eiconig hyn yn ansicr.

5 min read
Max Shearwater mid-flight over the sea.
On this page

Bob gwanwyn, mae arfordir Cymru yn ferw o fywyd unwaith eto. 

O Balod yn ymgynnull ar ynysoedd alltraeth i Wylogod yn gwasgu'n dynn ar glogwyni serth, mae ein moroedd yn gartref i un o olygfeydd bywyd gwyllt mwyaf trawiadol y DU. Ledled Cymru, mae miliynau o adar y môr yn dychwelyd i fridio, gan drawsnewid ein harfordir yn ferw o fywyd prysur, llawn sŵn a symudiad.

Ond ni ellir cymryd y golygfeydd rhyfeddol hyn yn ganiataol erbyn hyn. 

Yr heriau sy'n wynebu ein hadar môr

Mae poblogaethau llawer o adar y môr yn dirywio ar gyfradd frawychus. Mae rhywogaethau fel Huganod, Adar Drycin y Graig, Gwylanod Coesddu a sawl rhywogaeth o fôr-wenoliaid yn wynebu heriau cynyddol ar y môr ac ar y tir. Mae newid yn yr hinsawdd yn cynhesu ein moroedd ac yn effeithio ar argaeledd bwyd y mae adar y môr yn dibynnu arnynt i fwydo eu cywion. Mae ffliw adar wedi effeithio'n ddifrifol ar rai cytrefi yn ystod y blynyddoedd diwethaf, tra bo llygredd, ymyriad a heriau eraill yn parhau i gael effaith.

Mae Cymru yn gartref i rai o gytrefi adar y môr pwysicaf y DU. Mae safleoedd o bwysigrwydd rhyngwladol fel Ynys Gwales a'r Moelrhoniaid yn eistedd ochr yn ochr â chadarnleoedd cenedlaethol pwysig fel Ynys Dewi, Sgomer a Sgokholm, sydd gyda'i gilydd yn cynnal cannoedd o filoedd o adar y môr sy'n bridio bob blwyddyn. Mae'r lleoedd arbennig hyn yn denu pobol o bob cwr o'r DU a thu hwnt, gan gyfrannu'n bwysig at economïau lleol a thwristiaeth.

Ond mae gobaith o hyd

Yn galonogol, mae adferiad yn bosibl.

Mae prosiectau cadwraeth ledled Cymru eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae dilead llygod mawr a mesurau bioddiogelwch cadarn ar Ynys Dewi wedi helpu poblogaeth Aderyn Drycin Manaw i gynyddu'n sylweddol o 500 o barau yn 1998 i 6,200 yn 2022,ac mae Pedrynnod Drycin wedi dychwelyd i fridio yno. Mewn mannau eraill, mae gwaith adfer cynefinoedd, monitro, gwarchod a gweithredu ymarferol yn helpu poblogaethau bregus i wrthsefyll yr heriau cynyddol sy'n eu hwynebu.

Ond mae maint yr her yn golygu na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain.

Ein galw ar Lywodraeth Cymru

Ar Ddiwrnod Adar y Môr y Byd eleni, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiad i weithredu Strategaeth Gwarchod Adar Môr Cymru drwy:

  • Gynnal Grŵp Gweithio Strategaeth Adar Môr rheolaidd i arwain y gwaith o'i gweithredu
  • Darparu cyllid pwrpasol a hirdymor 
  • Nodi a diogelu ardaloedd bwydo allweddol yn y môr drwy rwydwaith cadarn o Ardaloedd Morol Gwarchodedig
  • Ymgorffori mesurau bioddiogelwch cadarn yng ngwaith y cyrff statudol perthnasol

Mae diogelu adar môr yn golygu diogelu'r moroedd iach y maent yn dibynnu arnynt. Mae'n golygu adfer ecosystemau morol, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a sicrhau dyfodol hirdymor bywyd gwyllt arfordirol eithriadol Cymru.

Heb weithredu ar frys, gallai cenedlaethau'r dyfodol golli'r profiad bythgofiadwy o sefyll ar glogwyn yng Nghymru wedi'u hamgylchynu gan olygfeydd a synau cytrefi adar môr ffyniannus.

Cefnogwch ein hadar môr

Gall pawb hefyd gefnogi Apêl Adar Môr yr RSPB, gan helpu i ariannu gwaith hanfodol i ddiogelu rhywogaethau bregus a'r mannau y maent yn eu galw'n gartref.

Share this article