Mae’r canlyniadau wedi cyrraedd

Beth yw canfyddiadau arolwg mwyaf y byd o fywyd gwyllt yn yr ardd?

9.1 miliwno adar yn ystod digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2025
590,000+Y nifer o bobl ddaeth at ei gilydd i helpu byd natur yn 2025
12.6 miliwno oriau yn gwylio adar ers 1979

Archwiliwch ganlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2025

Edrychwch ar ein tudalen canlyniadau rhyngweithiol i weld pa adar sydd wedi symud i fyny a pha rai sydd wedi symud i lawr yn siartiau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd. Ydy’r canlyniadau’n adlewyrchu’r hyn rydych chi wedi’i weld yn eich ardal chi? Dewiswch wlad i weld y deg uchaf yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Tabl Arweinwyr y 10 uchaf

Dewiswch flwyddyn i weld sut mae'r canlyniadau wedi newid dros amser, neu cliciwch ar wlad i weld y 10 uchaf yno.

Gwyliwch ganlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2025 wrth iddynt gael eu datgelu

Eisteddwch yn ôl a mwynhewch ein ffilm fer lle rydym yn datgelu canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2025. Sut mae deg uchaf y DU yn cymharu â’r hyn welsoch chi yn eich sesiwn Gwylio Adar?

Canlyniadau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd 2025: Pa aderyn ddaeth i’r brig?

Deall adar yr ardd

Mae Gwylio Adar yr Ardd yn rhoi cipolwg o sut mae adar yn ymdopi. Dyma’r arolwg mwyaf yn y byd o fywyd gwyllt mewn gerddi ac, am ei fod yn cael ei gynnal bob blwyddyn, rydyn ni’n gallu edrych ar dueddiadau dros amser. Mae ymchwil fel yr Arolwg Adar Bridio ac arolygon gwyddonol eraill yn ein galluogi i ddeall unrhyw newidiadau yn well.

Mae Adar y To angen ein help ni

Aderyn y To yw un o adar mwyaf cyffredin y DU. Dyma’r aderyn sy’n cael ei weld amlaf yn ystod y sesiynau Gwylio Adar yr Ardd, ond yn anffodus mae’r niferoedd bridio wedi gostwng yn sylweddol ers dechrau cadw cofnodion dros y 50 mlynedd diwethaf. Yn 2002, ychwanegwyd Aderyn y To at Restr Goch y DU o adar y mae pryder mawr ynglŷn â’u cadwraeth. Er bod cynnydd wedi bod mewn rhai ardaloedd dros y degawd diwethaf, mae Aderyn y To yn dal i fod ar y Rhestr Goch. Un ffordd o helpu adar yr ardd yw drwy annog pryfed. Beth am adael i ran o’ch gardd dyfu’n wyllt y gwanwyn a’r haf hwn? Byddwch chi’n cael seibiant ac yn elwa’n fawr erbyn amser Gwylio Adar yr Ardd 2026.

A male and female House Sparrow perched together on a branch.

Troi’r llanw er budd natur

Mae’r problemau sy’n wynebu adar yn niferus ac yn amrywiol, sy’n golygu bod angen i ni gymryd camau ym mhob math o feysydd. O arddio i fywyd gwyllt i’r ffordd rydyn ni’n ffermio ac yn rheoli ein hafonydd, mae’r cyfan yn effeithio ar fyd natur. Dyna pam rydyn ni’n gweithio’n ddiflino i achub, diogelu a brwydro dros natur. A phan fyddwn ni’n dod at ein gilydd dros fyd natur, mae’n gweithio. 

Llwyddwyd i achub yr adar a oedd bron â chael eu colli yn y DU. 

Mae’r ffordd mae ein haelodau'n helpu yn gwneud gwahaniaeth

Diolch i ymdrechion cadwraeth ymroddedig, mae’r Barcud Coch yn hedfan yn uchel yn yr awyr unwaith eto ac mae llais y Bwn yn adleisio eto yn ein gwlyptiroedd. Ni fyddai hyn yn bosibl heb gefnogaeth ein haelodau, gwirfoddolwyr a llawer o bobl eraill – diolch yn fawr!

Rydych chi wedi cwblhau Gwylio Adar yr Ardd – beth nesaf?

Drwy gymryd rhan yn Gwylio Adar yr Ardd, rydych chi wedi gwneud eich rhan i helpu bywyd gwyllt. Hoffech chi fod yn aelod o’r RSPB a helpu adar drwy’r flwyddyn? Bydd eich aelodaeth â’r RSPB yn ein helpu i amddiffyn mwy o adar, adfer mwy o gynefinoedd, ac ariannu gwyddoniaeth sy’n torri tir newydd. Ac fe gewch chi’r canlynol:

  • Mynediad at 170 a mwy o warchodfeydd natur yn y DU. Mae'r rhain yn fannau lle gallwch gysylltu â natur, gweld bywyd gwyllt cyffrous a mwynhau'r harddwch o'ch cwmpas.
  • Cylchgronau rheolaidd yr RSPB, sy’n llawn newyddion, erthyglau ac awgrymiadau
  • Y boddhad o wybod eich bod yn rhoi help llaw i natur, bob dydd.

Ymunwch â ni heddiw a gwnewch fwy dros adar a bywyd gwyllt arall.

Mwynhewch wylio adar drwy gydol y flwyddyn mewn gwarchodfa natur yr RSPB

Os ydych chi wedi mwynhau digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd eleni, ewch i un o’n hafanau natur, sydd wedi ymrwymo i ofalu am adar a bywyd gwyllt arall. Mae dros 170 ledled y DU, gyda llawer yn cynnal teithiau cerdded tywysedig a digwyddiadau i’ch helpu i ddysgu mwy am adar.

or see all our locations
An overview of the café at Old Moor Reserve, wooden tables with white and grey plastic chairs.
Old Moor Cafe

Dearne Valley – Old Moor

Barnsley and Rotherham

Wander through wetland habitats at Old Moor, with sweeping views from the hides, this family-friendly nature reserve is teeming with wildlife. Enjoy idyllic walks, wildlife watching, pond-dipping plus an adventure playground for kids. 

Reserve of the month