News

Cymru’n croesawu strategaeth hir-ddisgwyliedig ar gyfer Cadwraeth Adar y Môr

Darganfyddwch pam y gallai'r strategaeth gynnig achubiaeth i adar môr Cymru

Posted 5 min read
Manx Shearwater in flight over sea
On this page

Yn dilyn saith mlynedd o ymgyrchu, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr, gan gynnig achubiaeth i adar y môr Cymru. Dyma bopeth mae angen i chi ei wybod.

Beth yw Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr Cymru?

Mae Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr Cymru yn bolisi allweddol sydd â'r nod o warchod poblogaethau adar y môr yng Nghymru. Gan ganolbwyntio ar warchod cynefinoedd, mynd i’r afael â bygythiadau ac annog cydweithio rhwng rhanddeiliaid, nod y strategaeth yw sicrhau bod yr adar môr pwysicaf, sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf, yn goroesi yn y tymor hir.

Pam ei fod yn bwysig?

Adar y Môr yw’r grŵp o adar sydd dan y bygythiad mwyaf yn y byd, ac mae 62% o adar môr y Deyrnas Unedig yn gostwng.

Mae Cymru’n gartref i nythfeydd adar sy’n bwysig yn fyd eang:

  • Mae dros hanner poblogaeth y byd o Adar Drycin Manaw yn nythu o dan y ddaear mewn tyllau ar ynysoedd Cymru
  • Mae Ynys Gwales yr RSPB, yn Sir Benfro, yn parhau i fod yn gartref i un o’r nythfeydd mwyaf o Huganod yn y byd, a hynny er gwaethaf effaith dorcalonnus y Ffliw Adar Hynod Bathogenaidd (HPAI) ar adar y môr
  • Mae Cymru hefyd yn gartref i’r nythfa fwyaf yn y Deyrnas Unedig o Fôr-wenoliaid y Gogledd ar Ynysoedd y Moelrhoniaid, sef grŵp o ynysoedd oddi ar arfordir Ynys Môn
Grassholm RSPB reserve, Wales

Ond, mae adar môr Cymru yn wynebu bygythiadau cynyddol gan gynnwys sgil-effeithiau newid hinsawdd, datblygiadau alltraeth mewn lleoliadau gwael, colli cynefinoedd ac ysglyfaethwyr anfrodorol. 

Er mwyn eu gwneud nhw’n fwy gwydn i wynebu’r bygythiadau cynyddol mae angen gweithredu ar frys. Dyna pam mae RSPB Cymru yn ymgyrchu am Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr i Gymru ers 2018.

Yn gryno, rydym ni’n gofyn am y canlynol:

  • Llefydd diogel i fridio a bwydo
  • Digonedd o fwyd
  • Lleihau marwolaethau ymysg adar yn eu llawn dwf

Beth yw elfennau cadarnhaol y strategaeth?

  • Mae argymhellion y strategaeth yn seiliedig ar ganlyniadau cannoedd o asesiadau oedd yn edrych ar ba mor agored i niwed gan bwysau yng Nghymru yw Adar y Môr
  • Mae hon yn ddogfen fyw – mae cyfnodau adolygu rheolaidd wedi eu trefnu er mwyn gallu ystyried tystiolaeth newydd
  • Prin yw’r dystiolaeth am effaith rhai pwysau ar adar y môr yng Nghymru. Ond, mae’r strategaeth yn tynnu sylw at anghenion ymchwil pwysig.
Arctic Tern, adult with fish for nearby chick

Beth yw ei diffygion?

  • Nid yw’r strategaeth yn ystyried bygythiadau i adar y môr yn y dyfodol. Oherwydd hynny, bydd angen cynnal cyfnodau rheolaidd i adolygu. Yn dilyn blaenoriaethu, daeth yn amlwg nad yw'r argymhellion yn mynd i’r afael â'r holl fygythiadau sy’n wynebu adar y môr. Ond, rydym ni’n gobeithio y bydd rhagor o argymhellion yn cael eu hychwanegu dros amser wrth i ni ddechrau gweithredu ar y set gyntaf hon o flaenoriaethau.
  • Ar hyn o bryd nid oes cyllid penodol wedi ei neilltuo ar gyfer y strategaeth. Byddwn ni’n dal ati i alw am hyn er mwyn sicrhau bod modd cyflawni'r camau gweithredu.

Diolch yn fawr i holl gefnogwyr yr RSPB

Yn 2018, pan oedd hi’n amlwg nad oedd strategaeth ar y gweill gan Lywodraeth Cymru, aeth RSPB Cymru at ei aelodau, ei gefnogwyr a’i ymgyrchwyr arbennig, ac fe wnaethoch chi ein helpu ni i gynnal sawl ymgyrch dros y blynyddoedd. Mae eich llais a’ch cefnogaeth ddiwyro wedi ein helpu ni i gyrraedd y garreg filltir bwysig hon.

A pair of Gannets on the edge of a cliff next to the sea.

Felly beth sydd nesaf i adar y môr yng Nghymru?

Er bod y strategaeth yn gam i’r cyfeiriad cywir, mae angen gweithredu ar frys i fynd i’r afael â sefyllfa gyffredinol amgylchedd morol Cymru, gan wneud y canlynol:

  • Creu Ardaloedd Morol Gwarchodedig , gan gynnwys Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (SPAs) i adar a Pharthau Cadwraeth Morol i fynd i’r afael â’r bylchau yn nulliau diogelu adar y môr, cynefinoedd morol a bywyd gwyllt y môr, yn ogystal â chyfrannu at ‘30 erbyn 30’ (y targed i amddiffyn 30% o dir a 30% o'r môr dros natur erbyn 2030).
  • Rhoi rhagor o gyllid i fonitro a rheoli ardaloedd morol gwarchodedig, gan ddilyn y wybodaeth a geir gan asesiadau cyflwr Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru a’r Strategaeth Cadwraeth Adar y Môr a gyhoeddwyd y wythnos hon. 
  • Gwneud gwaith cynllunio morol i leihau’r bygythiadau sy’n wynebu adar y môr. Mae cyflawni camau cadwraeth ar gyfer adar y môr pan fyddan nhw ar y môr yn heriol – byddai blaenoriaethu atal niwed yn llawer mwy effeithiol. Felly, mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n cynllunio sut a ble mae gweithgareddau pobl ar y môr (fel datblygiadau ynni alltraeth) yn digwydd.
  • Buddsoddi mewn Arolygon Morol i wella ein dealltwriaeth o adar y môr a’u rhywogaethau ysglyfaethus, ac i lywio cynlluniau morol a chadwraeth. Mae’n hen bryd cael buddsoddiad, gan fod bylchau mewn gwybodaeth yn aml yn ein rhwystro rhag gwneud penderfyniadau gwybodus am faterion morol.
  • Canfod datrysiad tymor hir i sicrhau bioddiogelwch yr ynysoedd sy’n gartref i adar y môr, a chadw nythfeydd adar y môr yn rhydd rhag ysglyfaethwyr mamaliaid goresgynnol. Bydd hyn yn galluogi mwy o gywion i oroesi a chyrraedd llawn dwf a bydd hynny’n cyfrannu at wrthsefyll poblogaethau sy’n dirywio.
  • Cyflwyno offer Monitro Electronig o Bell (REM) ar gychod pysgota mawr i sicrhau bod modd monitro a deall sut mae gweithgareddau pysgota yn effeithio ar adar y môr, eu ffynonellau bwyd a bywyd morol eraill.

 

Gobeithio bod hwn yn gam i’r cyfeiriad cywir at ddyfodol lle mae adar y môr yn cael eu diogelu ac yn ffynnu.

Share this article