News

Crëyr hanes yn RSPB Cors Ddyga!

Llawenydd ar Ynys Môn wrth i'r Crëyr Mawr Gwyn fridio yng Nghymru am y tro cyntaf erioed – yng ngwarchodfa RSPB Cors Ddyga. RSPB Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau’r Bil Amgylchedd sydd ar y gweill i wneud llwyddiannau cadwraeth fel hyn yn fwy tebygol.

Posted 5 min read
A lone Great White Egret fishing in front of reedbeds.
On this page

Mae pedwar cyw Crëyr Mawr Gwyn wedi llwyddo i fagu plu yng Nghymru am y tro cyntaf. Dywedodd RSPB Cymru fod y cywion wedi magu plu mewn dau nyth gwahanol ar yr un safle yn RSPB Cors Ddyga, Ynys Môn. Dyma’r tro cyntaf i achos o’r fath gael ei roi ar gofnod yng Nghymru. Mae staff wedi bod yn monitro'r nythod ers dechrau mis Mai, gan ddilyn eu cynnydd yn llawn cyffro a phryder.

Mae’r Crëyr Mawr Gwyn yn aderyn mawr gwyn a all edrych yn debyg i’r Crëyr Bach, ond mae’n llawer iawn mwy – mae’r un maint â'r Crëyr Glas. Rhai o’r nodweddion eraill y dylid cadw llygad amdanynt yw traed duon (nid melyn), pig melyn (ymhlith y rhai ifanc a phan nad ydynt yn eu tymor bridio) a thechneg bysgota wahanol, sy’n debycach i dechneg y Crëyr Glas. Mae'r adar yn dechrau bridio o ddwy neu dair oed ymlaen, ac mae un o'r pedwar o Grehyrod hŷn yn wyneb cyfarwydd i staff yr RSPB, gan ei fod wedi teithio o amgylch nifer o safleoedd yr RSPB, cyn penderfynu ymgartrefu yn RSPB Cors Ddyga.

Cors Ddyga reedbed and lake

Dyma restr o'r safleoedd yr oedd y Crëyr Mawr Gwyn wedi ymweld â nhw cyn ymgartrefu yn RSPB Cors Ddyga:

Dywedodd Ian Hawkins, Rheolwr Safle RSPB Cors Ddyga:

Mae'r tîm wrth eu bodd yn gweld ychwanegiad mor hardd i'n casgliad o adar bridio. Rydyn ni’n hynod falch bod yr holl waith i greu gwlyptiroedd ar gyfer Adar y Bwn, ac adar hirgoes sy'n bridio, hefyd wedi darparu lle i fywyd gwyllt arall ymgartrefu ynddo, wrth iddyn nhw addasu i'r newid yn yr hinsawdd”.

Mae’r Crëyr Mawr Gwyn ar Restr Oren Adar o Bryder Cadwraethol Cymru. Felly, er bod y digwyddiad hwn yn siŵr o ddenu sylw gwylwyr adar brwd, mae RSPB Cymru yn annog ymwelwyr i gadw ddigon pell o'r ardal nythu er mwyn osgoi tarfu ar yr adar prin hyn, wrth iddyn nhw geisio gael eu traed danynt yn eu cartref newydd.

Dywedodd Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru:

“Diolch i amddiffyniad cyfreithiol gwell, amodau mwy ffafriol yn ystod y gaeaf yn sgil y newid yn yr hinsawdd, a'r ffaith bod mwy o ysglyfaethau ar gael, mae'r Crëyr Mawr Gwyn wedi lledaenu ledled Ewrop. Yn anad dim, mae hyn yn deillio o’r gwaith sy’n cael ei gynnal i greu ac i adfer gwlyptiroedd lle gall byd natur ffynnu. Mae’r gwaith deinamig o reoli cynefinoedd ar gyfer Adar y Bwn yng Nghors Ddyga – rhywogaeth sydd ar y rhestr goch – wedi bod o fudd mawr i'r Crëyr, ac wedi sicrhau y gall nythu'n llwyddiannus heb bobl yn tarfu arno.”

A lone Bittern emerging from a reedbed.

Dywedodd Dr Mark Eaton, ysgrifennydd y Panel Adar Bridio Prin, sy'n cydlynu gwybodaeth ledled y DU:

Rydyn ni'n falch iawn o glywed y newyddion cyffrous gan RSPB Cors Ddyga. Ers y cofnod bridio cyntaf yn y DU, yng Ngwlad yr Haf yn 2009, mae gwaith monitro blynyddol gan y Panel Adar Bridio Prin yn dangos bod y niferoedd wedi cynyddu'n gyson a bod dros 100 o barau yn bridio yn Lloegr bob blwyddyn erbyn hyn. Maen nhw wedi’u gwasgaru ar draws chwe sir, ac yn defnyddio rhwydwaith o safleoedd gwlyptir sy'n cael eu rheoli a'u gwarchod yn dda."

Ar adeg pan mae natur Cymru yn parhau i fod mewn cyflwr pryderus, mae RSPB Cymru yn falch o fod ar flaen y gad yma – ac mae’n gobeithio y bydd yn ysbrydoli Llywodraeth Cymru i gryfhau ei Bil Amgylchedd sydd ar y gweill i gynnwys targedau deddfwriaethol ar gyfer rhywogaethau, fel y gellir dathlu mwy o lwyddiannau cadwraeth fel hyn ledled Cymru.

Orange reedbeds with a water path leading through the middle.
Cors Ddyga

Dihangwch i ddyfroedd tawel Cors Ddyga, ble mae sŵn Adar y Bwn a Chornchwiglod yn chwilota. Ymlwybrwch gan wylio adar ysglyfaethus yn cylchdroi'r awyr, neu ewch yn y cyfnos i weld Drudwyon yn eu cannoedd.

Share this article