Feature

Darganfod Arfordir Ynys Cybi ar Ynys Môn

Mae RSPB Ynys Lawd ar yr arfordir arbennig hwn yng Nghymru, sy'n gartref i’r Frân Goesgoch brin a niferoedd mawr o adar môr.

South Stack sunset
On this page

Mae perlau ein byd arfordirol yn aml yn cuddio ag allan o'r golwg ond ewch i ochr orllewinol Ynys Môn, a byddwch yn darganfod ynys sy'n llawn trysorau. Mae'r stac, ac Arfordir Ynys Cybi o'i amgylch, wedi cael ei ffurfio gan y môr ers miliynau o flynyddoedd. Fe’i gwarchodir yn gyfreithiol am y rhostir prin ger y môr a'r rhywogaethau sy'n dibynnu ar y tir hwnnw. Mae'n un o lefydd gwyllt mwyaf gwerthfawr Cymru.

Cyfarfod ein harbenigwr

Fe wnaethom siarad â Lynne Harrison sydd wedi bod yn wirfoddolwr Ymgysylltu ag Ymwelwyr yn RSPB Ynys Lawd ers 10 mlynedd. Mae Lynne yn esbonio pam fod gwarchod Arfordir Ynys Cybi yn bwysig. 

Lynne Harrison
Lynne Harrison

Gwirfoddolwr Ymgysylltu ag Ymwelwyr yn RSPB Ynys Lawd

Mae Lynne yn croesawu pobl i'r warchodfa natur – gan rannu hanes y safle, sut y caiff ei reoli ac yn rhoi cyngor ynglŷn â gwylio bywyd gwyllt.  

Yn ogystal â mwynhau harddwch yr adar a'r warchodfa, sy'n wych, rydw i wedi teimlo ei fod wedi helpu fy llesiant meddyliol a chorfforol. Rwy'n 75 oed, ac mae fy rôl wirfoddol yn Ynys Lawd yn gwneud i mi deimlo’n llawn egni pan fydda i’n gadael ar ddiwedd y dydd.”

Lliw coch prin

Mae awel y môr a'i ewyn yn golygu mai dim ond y planhigion a'r blodau mwyaf gwydn sy'n tyfu yma – ond mae digon o fywyd gwerthfawr i chi ei ddarganfod o hyd. Dim ond am ychydig oriau y mae'r Cor-rosyn Rhuddfannog yn blodeuo, tra bod Chweinllys y Morfa Ynys Lawd yn britho’r rhostir gyda blodau melyn yn y gwanwyn. Mae’r Frân Goesgoch, yr aelod prinnaf o deulu’r frân yn y DU, yn hedfan ac yn hofran dros y rhostiroedd a'r glaswelltiroedd wrth ymgartrefu ar y tir ar ben y clogwyni. Mae'r glaswellt yn fyr yma ac yn lle perffaith iddi fwydo, pan fydd yn magu cywion ac ar hyd y gaeaf.

Dechreuodd yr RSPB reoli gwarchodfa natur Ynys Lawd yn 1977, oherwydd bod yr adar hyn yma. Bellach, mae'n gartref i tua 15 pâr o Frain Coesgoch sy’n bridio. Mae llai na 500 o barau bridio yn y DU, gyda thua thri chwarter o'r rhain yng Nghymru. Mae Gorllewin Cernyw ac Ynysoedd yr Alban hefyd yn gadarnleoedd gwerthfawr.

Mae pwysigrwydd yr adar a'r planhigion prin ar Arfordir Ynys Cybi  wedi arwain at fesurau amddiffyn cyfreithiol ychwanegol i'r ardal, a gydnabyddir ar lefel ryngwladol fel Ardal Gwarchodaeth Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig, yn 1992.

Chough, standing on cliff with sea in the background, RSPB South Stack
Chough
Ein hardaloedd gwarchodedig amhrisiadwy

Dewch i ddarganfod trysorau naturiol y Deyrnas Unedig, y rhywogaethau sy’n eu galw’n gartref, a pham mae angen eu gwarchod.

Mesurau amddiffyn ar gyfer rhywogaethau gwerthfawr

Erlidiwyd y Frân Goesgoch yn ystod yr oesoedd canol. Heddiw, y bygythiadau mwyaf sy'n wynebu'r adar prin hyn yw colli cynefin a ffynonellau bwyd, yn ogystal â tharfu ar safleoedd nythu sensitif. Mae'r adar yma’n bwydo ar y ddaear ac yn dibynnu ar lystyfiant byr fel y gallant ddefnyddio eu pigau crwm i dyrchu am infertebratau. Wrth i ffermio da byw symud i mewn i'r tir, dechreuodd y glannau creigiog lle mae'r adar hyn yn bridio ordyfu.

Fel rheolwyr y warchodfa natur, cyfrifoldeb yr RSPB - fel rhan o'r dynodiadau cyfreithiol - yw  cadw'r cynefin mewn cyflwr da i'r adar hyn. Trwy arferion pori sensitif, sydd hefyd o fudd i rywogaethau planhigion pwysig yr ardal, mae'r tîm yn sicrhau bod y glaswelltir yn fyr gan fod hynny’n angenrheidiol iddynt fwydo arno. 

Ond weithiau mae gwarchod hefyd yn golygu rhoi lle i fywyd gwyllt. Cyfyngwyd ar fynediad tymhorol i ran o'r warchodfa yn ystod y tymor bridio yn 2025 a 2026, rhag amharu ar ardaloedd sensitif. Eleni, hedfanodd tri chyw Brân Goesgoch o ogof môr gwarchodedig o fewn yr ardal dan waharddiad – yr adar cyntaf i fridio’n llwyddiannus ar y darn hwnnw o'r arfordir ers 2012.

Rwyf wrth fy modd yn rhannu stori'r warchodfa oherwydd ei bod mor arbennig. A, phan fydd ymwelwyr yn edrych draw ar glogwyni’r môr, mae’n ymddangos fel pe bai’r warchodfa’n edrych ar ei hôl ei hun, ond dydi hynny ddim yn wir. Mae Denise, y Warden, a'i thîm yn gweithio'n ddiflino y tu ôl i'r llenni – mae'r warchodfa dros 1,000 o erwau!”

Dinas adar môr

Edrychwch draw o'r clogwyni yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf, a byddwch yn gweld teithwyr y cefnfor – Gwylogod, Llursod ac efallai hyd yn oed Adar Pâl – yn bentwr tyn ar y silffoedd creigiog. Rydym yn cael cipolwg prin ar eu bywydau cyfrinachol: chwilio am bartner, bridio a magu eu cywion. Mae goleudy'r ynys, yn tywys morwyr adref dros foroedd stormus ac yn cynnig lle gwylio i'r adar hyn – gan oleuo eu byd cudd.  

Mae'r ddinas hon o adar môr wedi'i hadeiladu ar sylfeini hynafol. Mae Arfordir Ynys Cybi yn gartref i rai o'r creigiau hynaf yn y DU, a ffurfiwyd ar yr un pryd â rhai o ffurfiau bywyd cynharaf y ddaear. Fe welwch blygiadau yn y creigiau, haenau o fwd a thywod hynafol, wedi'u 'plygu' gyda'i gilydd wrth i blatiau tectonig symud. O dan wyneb y dŵr, mae'r ddaeareg anarferol hon yn ffurfio ceudyllau morol, ogofâu a silffoedd. Mae'r corneli hyn i gyd yn llawn bywyd. Mae llymrïaid yn gwibio trwy'r dyfroedd a Morloi Llwyd yn magu’r lloi bach ar draethau cudd. 

Puffins and Razorbills, on cliffs at South Stack

Darganfod y trysor naturiol hwn

Mae Ynys Cybi wedi denu pobl i'w harfordir ers amser maith; mae ei hanes wedi'i fapio gan olion Cytiau’r Gwyddelod o Oes yr Haearn a Thŵr Gwylio Rhufeinig. Bellach, mae'r dirwedd yn denu ymwelwyr sydd am fwynhau byd natur, boed hynny trwy fynd am dro ar hyd Llwybr Arfordir Ynys Môn, gwylio bywyd gwyllt o olygfan yr RSPB yn Nhŵr Ellin neu ddringo i ben Mynydd Caergybi. 

Rhywbeth rydw i wedi sylwi arno dros y 10 mlynedd diwethaf - sy'n wirioneddol galonogol – yw’r newid yn oedran pobl sydd â diddordeb mewn adar. Mae llawer o bobl ifanc bellach yn cymryd diddordeb - boed hynny oherwydd y cyfryngau cymdeithasol neu'r teledu. Beth bynnag fo’r rheswm, mae'n bwysig oherwydd mae angen i'r genhedlaeth nesaf gymryd drosodd oddi wrthym ni, gan warchod natur.”

South Stack cliffs, in summer
RSPB Ynys Lawd

Dewch i ddarganfod y lle arbennig hwn drosoch eich hun. A fyddwch chi'n cael cipolwg ar big coch y Frân Goesgoch, pig Aderyn Pâl yn llawn llymrïaid arianaidd, neu liw melyn-aur byrhoedlog y Cor-rosyn Rhuddfannog? 

Share this article